Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths wedi ymweld â Fferm Odro Rhual yn yr Wyddgrug i weld sut mae’r prosiectau y mae Llywodraeth Cymru’n eu noddi yn helpu busnesau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

John ac Anna Booth sy’n rhedeg y fferm a dyma’r gyntaf o bum fferm odro strategol i gael ei lansio yng Nghymru. Mae’r fferm yn rhan hefyd o Herd Advance.

Mae’r ddau brosiect yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru gwerth £6.5m i wella’r diwydiant godro. Y Rhaglen Datblygu Gwledig sy’n ei hariannu a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddol a Garddwrol (AHDB) sy’n ei rhedeg.

Mae Herd Advance yn helpu rhyw 500 o ffermwyr godro yng Nghymru i gryfhau perfformiad eu busnes trwy roi cymorth ariannol a thechnegol er budd iechyd a lles eu gwartheg trwy wella mesurau atal a rheoli clefydau.

Fel fferm odro strategol, cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal yn Rhual cyn y pandemig i rannu arferion da a phrofiadau. Mae John ac Anna yn gobeithio ailddechrau eu cynnal cyn bo hir, os bydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Mae Rhual yn fferm 220ha o faint, gyda buches o 336 o Holstein Friesians sy’n bwrw eu lloi trwy’r flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Roedd yn bleser cael ymweld â Rhual a chlywed angerdd John ac Anna dros ffeindio ffyrdd i wella’u busnes.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a datblygu sector amaethyddol llewyrchus a chynaliadwy yng Nghymru ac mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Rhual yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei wneud.

“Mae prosiectau’r AHDB y mae’r fferm yn rhan ohonyn nhw, yn helpu i wneud ffermydd godro Cymru’n fwy effeithiol, proffidiol, cynaliadwy a chydnerth.

“Rwy’n dymuno’r gorau i John ac Anna, yn awr ac yn y dyfodol ac rwy’n disgwyl ymlaen at glywed sut mae’r fferm yn para i ffynnu.”

Dywedodd John Booth, yn Rhual,

“Roedden ni wrth ein bodd pan ofynnodd yr AHDB inni fod yn fferm odro strategol. Mae cael bod yn rhan o’r rhaglen wedi rhoi’r cyfle i ni gael mwy o gyngor a help gan arbenigwyr yn y diwydiant a chan ffermwyr eraill.

“Rwy’n gobeithio y gwnaiff y bobl ddaeth i’r digwyddiadau ar y fferm yn gallu elwa ar y trafodaethau.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Llaeth AHDB, Peter Rees,

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith y mae AHDB yn ei wneud gyda ffermwyr godro ledled Cymru.

“Mae’r arian yn ein galluogi i helpu ffermwyr i ddysgu ffermwyr a pharhau i wella iechyd a lles anifeiliaid ar ffermydd ac ar draws y diwydiant.”