Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos.  Heddiw rydym wedi cwblhau’r adolygiad diweddaraf a oedd i fod i gael ei gynnal erbyn 15 Gorffennaf.  

Mae achosion coronafeirws yn cynyddu yn y gymuned, yn bennaf o ganlyniad i’r amrywiolyn Delta. Fodd bynnag, mae ein cyfraddau brechu uchel yn golygu bod nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn parhau’n isel ac y gallwn gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd un. Mae hyn yn golygu o 17 Gorffennaf:

  • Caiff hyd at chwech o bobl gwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
  • Caniateir cynnal digwyddiadau dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd neu 200 o bobl yn sefyll, ar ôl cynnal asesiad risg.
  • Caiff canolfannau sglefrio ailagor.

O’r dyddiad hwn gallwn hefyd ddileu’r cyfyngiadau ar y nifer o bobl a gaiff ymgynnull yn yr awyr agored. Caiff safleoedd a digwyddiadau awyr agored hefyd fwy o hyblygrwydd o ran y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol. Bydd hwn yn un o’r camau lliniaru i’w hystyried, ond ni fydd yn ofyniad absoliwt.

Mae’r newidiadau eraill o 17 Gorffennaf yn cynnwys:

  • Caniatáu i hyd at 30 o blant o sefydliadau, fel y Brownis a’r Sgowtiaid, i fynd i ganolfannau preswyl dros wyliau’r haf.
  • Ei gwneud yn ofynnol i rannu’r risgiau a’r mesurau lliniaru a nodwyd yn yr asesiad risg COVID gyda chydweithwyr.
  • Dileu’r cyfyngiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl fod yn eistedd i yfed a bwyta mewn digwyddiadau yn unig.

Heddiw rydym hefyd yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig sy’n amlinellu sut y byddwn yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd un i set o gyfyngiadau sylfaenol.

Byddwn yn ystyried a yw’n bosibl i Gymru symud i lefel rhybudd 0 newydd ar 7 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau. 

Ar lefel rhybudd 0:

  • Bydd y cyfyngiadau cyfreithiol ar y nifer o bobl a gaiff gwrdd o dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau yn cael eu dileu.
  • Bydd asesiadau risg COVID yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol.
  • Bydd mesurau rhesymol yn ofynnol yn gyfreithiol i reoli’r risg o ganlyniad i coronafeirws ond bydd rhaid i bob sefydliad benderfynu ar y rhain yn seiliedig ar ganlyniad eu hasesiad risg, gan gynnwys mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol. 
  • Caiff pob busnes a phob safle agor, gan gynnwys clybiau nos.
  • Dylai pobl barhau i weithio gartref os yw’n bosibl.
  • Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol o dan do, ac eithrio mewn lleoliadau lletygarwch. Rydym yn disgwyl y byddwn yn llacio’r gofynion hyn yn raddol – gan ddechrau gyda lleoliadau lletygarwch o 7 Awst. Bydd ysgolion a cholegau’n defnyddio’r fframwaith a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg i benderfynu ar y defnydd o orchuddion wyneb

Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefel Rhybudd 0 (Gorfennaf 2021)