Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o’r prif bethau sy’n peryglu’r cynnydd rydym wedi'i wneud o ran lleihau effeithiau ofnadwy’r pandemig ar ein bywydau yw y gallai amrywiolion newydd o'r feirws yn dod i mewn i’r wlad, a’n brechlynnau yn rhoi llai o amddiffyniad yn eu herbyn. Dyna pam yr ydym yn parhau i rybuddio yn erbyn teithio rhyngwladol yr haf hwn, heblaw am resymau hanfodol.

Fel y mae'r Prif Weinidog wedi nodi heddiw, rydym yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu’r rheol y dylai oedolion sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren.

Fodd bynnag, ni fyddai’n ymarferol i ni gyflwyno polisi iechyd gwahanol o ran y ffiniau. Felly, o 19 Gorffennaf, ni fydd angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn sy'n dychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren, na’r rhai rhai o dan 18 oed, hunanynysu mwyach. Ond bydd angen o hyd iddynt gymryd prawf cyn ymadael a phrawf PCR ar yr ail ddiwrnod ar ol cyrraedd y DU, a bydd yn bwysig iawn bod yn ofalus o ran cyswllt corfforol ag eraill. Dylid osgoi ymweld â phobl mewn ysbyty neu gartref gofal yn ystod y 10 diwrnod cyntaf.

Os byddant yn profi'n bositif ar gyfer y feirws neu os oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws ar ôl dychwelyd, bydd gofyn iddynt hunanynysu er mwyn helpu i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo ymhellach.

Yn ogystal â'r risgiau iechyd sy'n deillio o deithio rhyngwladol, mae ystyriaethau pwysig eraill i bobl feddwl amdanynt cyn penderfynu teithio. Mae'r rhan fwyaf o wledydd wedi gosod gofynion profi a/neu ofynion cwarantin ar gyfer unrhyw un sy'n dod i mewn i’r wlad ac mae’r gofynion hyn yn newid yn rheolaidd.

Mae pedair llywodraeth y DU yn adolygu sgoriau ‘goleuadau traffig’ gwledydd yn rheolaidd, ac mae modd i wlad gael ei symud o’r rhestr oren i’r rhestr goch ar unrhyw adeg. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i deithwyr dreulio cyfnod cwarantin o 10 diwrnod o leiaf mewn gwesty ar ôl dychwelyd i'r DU, ar gost o tua £2,000 y pen.

Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rhestrau coch, oren a gwyrdd ar gyfer teithio rhyngwladol, byddwn yn parhau i ddilyn yr un drefn ‘goleuadau traffig’ â gweddill y DU. Mae hyn yn golygu y bydd y newidiadau canlynol yn berthnasol o 19 Gorffennaf:

  • Bydd Bwlgaria, Croatia, Hong Kong a Taiwan yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr werdd.
  • Bydd Ynysoedd Baleares ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf yn cael eu symud o'r rhestr werdd i'r rhestr oren.
  • Bydd Ciwba, Indonesia, Myanmar a Sierra Leone yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr goch.

Daw'r newidiadau hyn i'r rhestrau i rym am 4am ddydd Llun 19 Gorffennaf.

Mae'r ffaith fod angen symud Ynysoedd Baleares ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf o’r rhestr werdd i’r rhestr oren ar ôl dim ond tair wythnos yn dangos pa mor anodd fydd cynllunio ymlaen llaw yr haf hwn.

Dyma’r flwyddyn i fwynhau’r haf yn y Deyrnas Unedig.