Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 27 Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu COVID-19 i Gymru ar 11 Ionawr 2021 ac, ynghyd â’r diweddariadau isod, mae’n amlinellu manylion Rhaglen Frechu Cymru. 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Chwefror 2021 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mawrth 2021 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mehefin 2021 

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau  – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei gyngor ar frechu plant. Yn dilyn misoedd o drafod ac ystyried tystiolaeth, mae’r Cyd-bwyllgor yn argymell y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i blant a phobl ifanc 12-15 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol sy’n bodoli eisoes ac sy'n peri risg o COVID-19 difrifol iddynt. Yn y bôn, mae'r grŵp cleifion eithriadol o agored i niwed yn glinigol bellach yn cynnwys pobl ifanc 12 oed a hŷn. Bydd y GIG yn gweithio'n gyflym i nodi'r bobl ifanc hyn ac i gynnig y brechlyn iddynt.

Mae pobl ifanc 16 i 17 oed sydd â risg uwch o gael COVID-19 difrifol, fel y nodir ar hyn o bryd yn y Llyfr Gwyrdd, eisoes wedi cael cynnig brechlyn COVID-19 a dylent barhau i gael cynnig y brechlyn. 

Dylai plant a phobl ifanc 12 oed a hŷn sy'n byw yn yr un aelwyd â phobl sy'n imiwnoataliedig gael cynnig brechlyn COVID-19 ar y ddealltwriaeth bod prif fuddion brechu'n gysylltiedig â'r potensial i ddiogelu yn anuniongyrchol y cyswllt teuluol sy'n imiwnoataliedig. Mae ffurflen hunanatgyfeirio ar gael.

Mae’r Cyd-bwyllgor hefyd yn cynghori ei bod yn rhesymol caniatáu amser rhagarweiniol i gynnig brechiad i'r plant hynny sydd o fewn tri mis o'u pen-blwydd yn 18 oed er mwyn sicrhau bod pobl sydd newydd droi'n 18 oed yn cael y brechlyn. Byddwn yn mynd ati'n gyflym i frechu'r rhai sy'n troi'n 18 oed, gan gynnwys y rhai sy'n bwriadu mynd i'r brifysgol.

Gan fod digwyddedd a difrifoldeb COVID-19 yn isel ymhlith plant, ac oherwydd y materion diogelwch a gofnodwyd, nid yw’r Cyd-bwyllgor ar hyn o bryd yn cynghori brechu pob plentyn a pherson ifanc arall sy'n iau na 18 oed fel mater o drefn.

Rydym yn ymwybodol y bu galw am frechu plant i'w hatal rhag cael syndrom COVID-19 ôl-acíwt (COVID hir). Mae cyfraddau COVID ymhlith plant yn gymharol isel ac mae gwybodaeth gyfyngedig o hyd am effeithiau uniongyrchol cyffredinol y feirws arnynt. Fodd bynnag, mae astudiaethau'n dod i'r amlwg sy'n dangos bod y risg hon yn isel iawn mewn plant, yn enwedig o’i gymharu ag oedolion, ac yn debyg i gymhlethdodau iechyd eilaidd heintiau feirysol anadlol eraill mewn plant.

Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar y mater hwn ac wedi sefydlu grŵp i ystyried effeithiau COVID Hir ar oedolion a phlant a chydlynu'r ymateb eang y mae ei angen. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr polisi plant yn ogystal â chydweithwyr clinigol ac ymchwil. Mae'r grŵp wedi ymrwymo i sefydlu is-grŵp, o dan gadeiryddiaeth Dr Mark Walker, i ystyried sefydlu llwybr gofal pediatrig i'w ddefnyddio gyda phlant â COVID Hir yng Nghymru.

Mae tri chwarter pobl Cymru bellach wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn coronafeirws. Mae 78% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu hail ddos ac mae 90% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae yr un mor bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos. Mae tystiolaeth dda yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod dau ddos o’r brechlyn yn helpu i leihau risg pobl o orfod mynd i’r ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Delta.

Rydym yn awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechu, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser. Mae canolfannau brechu mewn sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw heibio.

Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Medi.

Mae hyn yn gam allweddol ymlaen yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 a thuag at ailddechrau gwneud rhagor o’r pethau yr ydym yn eu mwynhau. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru, ac mae hyn yr un mor wir ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth.

Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu os oes angen ichi aildrefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd. Mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar gael yma: Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan

Statws brechu COVID-19

Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Os cawsoch eich brechu yng Nghymru ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG. 

Bydd pob brechlyn AstraZeneca a roddwyd yn y DU yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria, a’r un cynnyrch ydynt. Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi awdurdodi’r brechlyn hwn ac rydym yn hyderus na fydd effaith ar deithio. Lle ceir camddealltwriaeth gyda gwledydd unigol, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i drafod dilysrwydd y brechlynnau yn uniongyrchol gyda'r Llywodraeth berthnasol. Er enghraifft, cododd sefyllfa o’r fath gyda Malta ac fe wnaeth Llywodraeth Malta gadarnhau ar 15 Gorffennaf ei bod yn derbyn pob brechlyn COVID-19 y mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi’i gymeradwyo a diweddarwyd holl gyngor teithio’r DU.

Mae Tystysgrif COVID-19 Ddigidol yr UE ar gyfer dinasyddion yr UE yn unig ar hyn o bryd, neu ar gyfer gwladolion trydydd gwledydd sy'n aros yn gyfreithlon yn yr UE neu’n byw yno. Mae sicrhau teithio diogel ac agored gyda'n partneriaid byd-eang yn flaenoriaeth glir ac mae Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â’r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn ag ardystio.

Mae’r cyfryngau wedi rhoi sylw i hanes gwirfoddolwyr sydd, yn glodwiw iawn, wedi bod yn cymryd rhan mewn treialon brechu. Nid ydynt yn gallu dangos tystiolaeth o'u brechiadau ac felly maent yn cael anhawster i deithio dramor. Derbynnir bod treialon brechu yn ddilys ledled y DU ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd ar ran pob gwlad i annog gwledydd eraill i'w derbyn fel rhai dilys hefyd. Ni fydd yr holl ddata o dreialon yn ymddangos ar y Pàs COVID tan ddiwedd mis Gorffennaf ond mae’r timau treialu yn cyfathrebu â gwirfoddolwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.

Hunanynysu

Cytunwyd nad oes rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu'n llawn gyda brechlynnau COVID-19 y GIG, na phobl ifanc o dan 18 oed, hunanynysu ar ôl iddynt ddychwelyd o wledydd ar y rhestr oren. Yr eithriad i hyn yw Ffrainc. Wrth gyrraedd yn ôl o Ffrainc bydd rhaid i bobl hunanynysu am 10 diwrnod, hyd yn oed os ydynt wedi’u brechu'n llawn. Y rheswm dros hyn yw pryderon am amrywiolyn Beta y deellir ei fod yn osgoi ein brechlynnau'n haws. Mae cael eich brechu’n llawn yn golygu bod pythefnos wedi mynd heibio ers ichi gael eich dos terfynol o frechlyn cymeradwy o dan raglen frechu’r DU, eich bod yn cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlyn COVID-19 a gymeradwywyd yn ffurfiol, neu eich bod o dan 18 oed ac yn byw yn y DU.

Yn ogystal, yn ystod mis Awst, fel rhan o’r cylch adolygu 21 diwrnod nesaf, rydym yn anelu at ddileu'r gofyniad i bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunanynysu os ydynt yn gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif. Byddwn hefyd yn ystyried esemptiadau posibl eraill, megis ar gyfer y rhai o dan 18 oed. Bydd Ap COVID-19 y GIG yn cael ei ddiweddaru yn unol â’r newidiadau hyn pan fyddant yn digwydd. Hyd nes y gwneir unrhyw newidiadau, mae’n hanfodol bod unrhyw un y gofynnir iddo hunanynysu yn gwneud hynny.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Crynodeb cyfredol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 4.2 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • Mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos, gan ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed
  • Mae dros 2.29 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 2 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn o frechlyn
  • Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd
  • Yn gyffredinol, mae 90% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 78% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos.

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:

  • yn darparu dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • yn darparu ail ddosau

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 183 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 51 o ganolfannau brechu torfol
  • 77 o leoliadau practis cyffredinol
  • 27 o fferyllfeydd
  • 16 o leoliadau ysbyty 
  • ac roedd 8 o dimau symudol yn gweithredu

Rhagor o wybodaeth

Bydd amlder y diweddariadau hyn yn newid yn ystod y Toriad. Byddwn yn cyhoeddi’r diweddariad nesaf ddiwedd mis Awst ac, yn y tymor newydd, bydd y diweddariadau’n cael eu cyhoeddi bob pythefnos.

Mae’r cyfraddau brechu ar gyfer y DU, gwledydd y DU ac awdurdodau lleol yr Alban wedi’u diweddaru i ddefnyddio’r amcangyfrifon diweddaraf o’r boblogaeth ar gyfer canol 2020, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r amcangyfrifon diwygiedig o’r boblogaeth wedi’u defnyddio ar gyfer pob dyddiad drwy gydol y rhaglen frechu. Mae data am yr holl frechiadau yn y DU, a chymariaethau o fewn y DU, ar gael yma.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn, diogelwch a ffrwythlondeb. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.