Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y Datganiad Ysgrifenedig hwn ei adolygu ar 30 Gorffennaf 2020, ac anfonodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lythyr ynghylch hynny at bob Aelod o’r Senedd, sydd ar gael isod.

Rwy’n ymateb i ganlyniadau Corff Adolygu Cyflogau’r GIG rhif 34 a Chorff Adolygu Meddygon a Deintyddion rhif 49 a gafodd eu gosod gerbron Senedd San Steffan ar 21 Gorffennaf 2021. Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau Corff Adolygu Cyflogau’r GIG a’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion am eu hadroddiad, ac rwy’n croesawu eu hargymhellion a’u sylwadau trylwyr ac annibynnol. Rwy’n gwybod hefyd bod eu cyngor yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan reolwyr y GIG, yr undebau llafur, a chynrychiolwyr y staff.

Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gallu derbyn argymhellion y ddau gorff yn llawn. 

Maent yn cynnwys cynnydd o 3% i staff ar delerau ac amodau’r Agenda ar gyfer Newid, sy’n cynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion, a gweithwyr cymorth gofal iechyd a gyflogir. 

Bydd cynnydd o 3% hefyd yn cael ei weithredu mewn perthynas â phob grŵp o feddygon a deintyddion a gyflogir, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon dan hyfforddiant, y rheini ar gontractau meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt cyn 2021, meddygon teulu a deintyddion cyflogedig. 

Mae’r cynnydd mewn tâl o 3% a argymhellir ar gyfer meddygon teulu a deintyddion sydd ar gontract yn rhan o newidiadau cyffredinol i gontractau Gwasanaethau Meddygon Cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol. Bydd fy swyddogion yn negodi gyda’r cyrff sy’n eu cynrychioli i weithredu newidiadau yn unol ag agenda’r Llywodraeth i wella mynediad at wasanaethau a sicrhau bod pwyslais clir ar yr agenda atal ym maes iechyd.

Ar ôl 16 o fisoedd hynod anodd i’n staff sydd wedi gweithio mor eithriadol o galed, mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y GIG, a’u cyfraniad cwbl hanfodol i ymateb y GIG drwy gydol y pandemig, gan ystyried yr angen iddo fod yn fforddiadwy ar yr un pryd, a’r angen i flaenoriaethu gofal y claf.

Hwn yw’r codiad cyflog blynyddol i staff y GIG ar gyfer 2021/22, ac mae’n ychwanegol at daliad bonws y GIG a Gofal Cymdeithasol a gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol ym mis Mawrth 2021. Diben y taliad untro hwnnw o £735 oedd cydnabod lefel anhygoel y gofal caredig a diflino a roddwyd gan ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru pan oeddem yn fwyaf agored i niwed.

O ran ein staff sydd ar y cyflog isaf, mae hyn yn golygu ein bod yn parhau i’w talu’n unol â’r argymhelliad o £9.50 yr awr a wnaed gan y Living Wage Foundation, sef argymhelliad yr oeddem wedi ei weithredu o fis Ebrill 2021, gan dalu cyflog cychwynnol o £18,576 y flwyddyn (£9.50 yr awr). Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod GIG Cymru yn parhau’n gyflogwr sy’n darparu cyflog byw.
 
Hyd yn hyn, nid yw Trysorlys y DU wedi darparu unrhyw wybodaeth o ran a fydd cyllid ychwanegol ar gael i helpu i dalu cost unrhyw gynnydd a argymhellir sydd yn uwch na’r cap o 1% a gyhoeddwyd yn flaenorol, ond byddwn yn rhoi pwysau arno i roi’r cyllid ychwanegol inni ar gyfer talu am hyn.

Darparu gofal rhagorol yw ein blaenoriaeth bennaf, a dyna pam yr ydym yn parhau i gymryd camau cadarnhaol i helpu gweithlu’r GIG i reoli a gwella eu hiechyd a’u llesiant, gan gydnabod bod sicrhau cyflog teg yn elfen bwysig o hynny. Hefyd dyna pam yr wyf yn cyhoeddi heddiw bod prototeip o adnodd sy’n darparu fframwaith i alluogi sgwrs am lesiant y gweithlu wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol, ac y bydd yn cael ei lansio yn nes ymlaen y mis hwn i’w ddefnyddio ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rwy’n wir edmygu gwaith caled ac ymroddiad diflino ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a mawr yw fy ngwerthfawrogiad ohonynt, ac rwy’n cydnabod y galwadau hynod drwm a fu arnynt yn ystod y 16 mis diwethaf. Wrth inni symud tuag at gyfnod adfer prysur, lle y bydd yn rhaid cydbwyso anghenion ein gweithlu i gael hoe ac i ddadflino, mae’n hynod bwysig ein bod yn darparu ffordd o gael sgwrs agored ac onest â’n gilydd ynghylch ein hanghenion llesiant ni ein hunain ac anghenion llesiant unigol eraill.

Bydd yr adnodd hwn yn annog ac yn helpu rheolwyr a staff i ganfod eu ffordd drwy’r sgyrsiau hyn, gan gynnig cyfle i gyfeirio at y cymorth ychwanegol sydd ar gael lle bo hynny’n briodol.

Bwriedir i’r adnodd fod y cyntaf o’i fath, ac felly bydd adborth y rheini sy’n ei ddefnyddio yn helpu i lywio datblygiadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu rhywbeth defnyddiol ac ymarferol ac ar yr un pryd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a’r cyflogwyr wybod faint o sgyrsiau a gynhelir.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.