Mae’r gwaith ymchwil hwn yn edrych ar ddeddfwriaeth a chanllawiau yng Nghymru i archwilio ac argymell opsiynau i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ymchwil a gomisiynwyd fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull clir yng Nghymru i sicrhau y caiff cydraddoldeb a hawliau dynol eu gwarchod a’u hystyried yn llawn.
Mae canfyddiadau’r ymchwil yn amlinellu dulliau i gryfhau a gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, gyda’r adroddiad yn cynnwys 40 o argymhellion ar gyfer diwygio deddfwriaeth, polisi a chanllawiau, ynghyd â mathau eraill o ddiwygiadau, er mwyn diwallu’r amcan hwn. Mae pob argymhelliad, gyda’r rhan fwyaf ar gyfer Llywodraeth Cymru ond gyda rhai yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, comisiynwyr, rheoleiddwyr ac arolygiaethau Cymru, Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac unrhyw Gyngor Cyfraith Cymru yn y dyfodol, yn cynnwys camau manwl i wneud cynnydd tuag at y prif argymhelliad.
