Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pob un ohonom wedi teimlo effeithiau'r flwyddyn ddiwethaf, ac yn arbennig ein plant a'n pobl ifanc a’r rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig sy’n wynebu’r amddifadedd mwyaf. Er ein bod wedi ceisio blaenoriaethu anghenion ein plant a'n pobl ifanc drwy gydol y pandemig, gan gynnal y gwasanaethau ar eu cyfer gymaint â phosibl, gwyddom fod angen darparu cymorth ychwanegol nawr i helpu i wneud iawn am yr amser a’r cyfleoedd a gollwyd.

Mae gennym nifer o raglenni atal ac ymyrryd yn gynnar hynod effeithiol ar draws Cymru sy'n rhoi cymorth i blant a theuluoedd. Yn ystod yr argyfwng iechyd, maent yn aml wedi gorfod addasu eu dulliau gweithredu yn unol â'r cyfyngiadau ehangach yr ydym i gyd wedi'u hwynebu, gan oedi rhai gwasanaethau dros dro ar adegau.

Mae llawer o'r gweithgareddau bellach wedi ailddechrau, gan weithio gyda theuluoedd i fynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol y cyfyngiadau symud a'r pandemig ar les economaidd, cymdeithasol, meddyliol a chorfforol. Mae'r cymorth y maent yn ei ddarparu yn hollbwysig wrth i blant a theuluoedd ailffocysu a symud ymlaen.

I sicrhau nad oes unrhyw deulu'n cael ei adael ar ôl o ganlyniad i'r pandemig, rwy’n cyhoeddi heddiw becyn cyllid o £11.5m a fydd yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.

Mae'n cynnwys:

  • £4.5m i roi hwb i'r Gronfa Datblygu Plant, sy'n rhoi cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd y mae'r pandemig yn effeithio arnynt er mwyn mynd i'r afael â phryderon ynghylch oedi mewn datblygiad mewn meysydd fel lleferydd, iaith a chyfathrebu, sgiliau echddygol manwl a bras a datblygiad personol a chymdeithasol;

 

  • Hwb o £7m i'r Grant Plant a Chymunedau i leihau rhestrau aros am wasanaethau cymorth cynnar a darparu cymorth cyn gynted â phosibl, er mwyn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau andwyol y pandemig ar blant a phobl ifanc 0-25 oed, gan gynnwys y rhai sydd newydd ddod yn agored i niwed;

Mae'r buddsoddiad hwn yn ychwanegol at y rhaglenni niferus sydd eisoes ar waith i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc ac mae'n tanlinellu ein hymrwymiad i roi plant wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer tymor y Senedd hon.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os yw’r aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.