Neidio i'r prif gynnwy

Y prif ganlyniadau

Ystadegau arbrofol yw’r rhain, sy’n dal i gael eu datblygu. Mae’r cyfyngiadau data yn cael eu hegluro yn yr adran ystyriaethau data.

Gwerthiannau 2019

  • Amcangyfrifwyd mai £105.3bn oedd cyfanswm gwerth y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru.
  • Nwyddau oedd 69% (£72.5bn) o’r gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru, a 31% (£32.8bn) yn wasanaethau.
  • Roedd 51% o’r gwerthiannau wedi mynd i gwsmeriaid yng Nghymru, 25% i rannau eraill o’r DU, 15% i weddill yr UE a 3% i weddill y byd. Doedd 6% o’r gwerthiannau ddim wedi’u dyrannu yn ôl lleoliad.

Pryniannau 2019

  • Amcangyfrifwyd mai £66.9bn oedd cyfanswm gwerth y pryniannau gan fusnesau yng Nghymru.
  • Nwyddau oedd 74% (£49.6bn) o’r pryniannau gan fusnesau yng Nghymru, a gwasanaethau yn 26% (£17.3bn).
  • Pryniannau gan gwsmeriaid yng Nghymru oedd 30% ohonynt, 41% o rannau eraill o’r DU, 8% o weddill yr UE a 6% o weddill y byd. Doedd 16% o’r pryniannau ddim wedi’u dyrannu yn ôl lleoliad.

Gwybodaeth gefndir

Arolwg ar-lein yw Arolwg Masnach Cymru, sy’n casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru i fesur llif masnach (o ran gwerthu a phrynu nwyddau a gwasanaethau) i Gymru ac o Gymru.

Cafodd y gwaith maes ar gyfer blwyddyn gyntaf yr arolwg ei wneud rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Chwefror 2020, gan gasglu data ar gyfer 2017 a 2018. Cafodd y gwaith maes ar gyfer ail flwyddyn yr arolwg ei wneud rhwng mis Hydref 2020 a mis Ionawr 2021, gan gasglu data 2019.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi ystadegau ar fasnachu nwyddau a gwasanaethau ymysg busnesau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwerthiannau a phryniannau. Mae’r canfyddiadau’n cael eu dadansoddi yn ôl lleoliad, maint y busnes a’r sector.  Mae’r lleoliadau’n cynnwys Cymru, gweddill y DU, gweddill yr UE a gweddill y byd. Ni roddir sylw i bryniannau uniongyrchol gan ddefnyddwyr. Drwy’r datganiad cyfan, mae’r dadansoddiad o faint busnesau wedi cael ei seilio ar faint pob busnes yn ôl gwerthoedd cyflogaeth y DU (sydd wedi’u nodi yn y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau). Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adroddiad technegol a’r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Mae’r canlyniadau yn y datganiad hwn yn canolbwyntio ar ddata sydd wedi’u darparu gan fusnesau yng Nghymru ar gyfer blwyddyn galendr 2019. Mae’r adroddiad technegol (Atodiad A) yn cynnwys rhestr fanwl o'r sectorau diwydiant a’r grwpiau sector sydd wedi’u cynnwys yn yr arolwg. Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 16% ar gyfer Arolwg 2019 (1,287 o ymatebion gan sampl o 8,000 o fusnesau). Darllenwch yr adroddiad technegol a’r wybodaeth am ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Rhestr o dermau

Allforion

Gwerthiannau i leoliadau y tu allan i’r DU.

Busnesau bach

Busnesau sydd â 3 i 49 o weithwyr.

Busnesau canolig

Busnesau sydd â 50 i 249 o weithwyr yn y DU.

Busnesau mawr

Busnesau sydd â 250 neu fwy o weithwyr yn y DU.

Cyfanswm y symiau masnach

Gwerth y gwerthiannau a'r pryniannau.

Gweddill y byd

Gwledydd nad ydynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Gweddill y DU

Y Deyrnas Unedig i gyd, ar wahân i Gymru.

Gweddill yr UE

Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd (ddim yn cynnwys y Deyrnas Unedig).

Gwerthiannau

Unrhyw nwyddau neu wasanaethau sy’n cael eu gwerthu gan fusnes i gwsmer, gan gynnwys is-gontractio gwasanaethau, darparu nwyddau neu wasanaethau i rannau eraill o fusnes yr ymatebydd, a gwerthu i gwsmeriaid.

Heb eu dyrannu

Gwerth unrhyw werthiannau neu bryniannau nad oedd yn bosibl eu dyrannu i leoliad na’u dadansoddi ymhellach.

Mewnforion

Pryniannau o wledydd y tu allan i’r DU.

Pryniannau

Unrhyw nwyddau neu wasanaethau sy’n cael eu prynu gan fusnes, gan gynnwys prynu nwyddau neu wasanaethau o rannau eraill o fusnes yr ymatebydd, a phryniannau gan gyflenwyr.

Ystyriaethau data

Mae canlyniadau'r arolwg yn ‘Ystadegau Arbrofol’, gan fod y dull a ddefnyddiwyd yn dal i gael ei ddatblygu ac mae rhai problemau gydag ansawdd y data. Mae ystadegau arbrofol yn cael eu cyhoeddi gyda golwg ar wella eu hansawdd dros amser drwy adborth gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Serch hynny, mae’r data a’r dadansoddiad yn dal yn werthfawr, ar yr amod bod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun yr wybodaeth a roddir am ansawdd y data.

Dylai'r ystyriaethau canlynol ynghylch y data gael eu hystyried wrth adolygu’r canlyniadau:

  • Mae’r data’n ymwneud â chyfnod cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19), ond cafodd y gwaith maes ei wneud yn ystod y pandemig, rhwng mis Hydref 2020 a mis Ionawr 2021. Roedd busnesau wedi cau dros y cyfnod hwn, ac roedd yr ymatebwyr o dan bwysau amrywiol, ac felly fe allai hynny fod wedi effeithio ar yr ymatebion.
  • Mae’r data’n ymwneud â chyfnod cyn gadael yr UE, serch hynny gallai effaith y cynllun ymadael yr UE wedi effeithio ar ymatebion a chadernid y data a gasglwyd yn ystod y cyfnod hwn.
  • Mae’r data’n seiliedig ar arolwg gwirfoddol ar-lein, ac mae’r sylfaen ymatebwyr ar gyfer rhai ystadegau manwl yn gymharol fach.
  • Mae amrywioldeb yn y sampl a gafwyd yn ystod y ddwy flynedd o waith maes yn effeithio ar y gallu i wneud cymariaethau cadarn rhwng y blynyddoedd. Felly, dim ond cymariaethau eang iawn ar lefel uchel a wneir yn sylwebaeth yr adroddiad hwn, a dylid osgoi cymariaethau uniongyrchol. Mae cymariaethau penodol yn cael eu trafod yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Dylid nodi hefyd bod gwerth y fasnach heb ei dyrannu yn Arolwg 2019 wedi cynyddu’n sylweddol ers y flwyddyn flaenorol. Mae gwerthoedd heb eu dyrannu yn bodoli pan oedd busnesau’n gwneud gwerthiannau neu bryniannau, ond yn methu eu dyrannu. Mae rhagor o wybodaeth am werthoedd heb eu dyrannu ar gael yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth. Darllenwch yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau’r Arolwg.

Gwerthiannau

Gofynnwyd i fusnesau a oedd wedi ymateb i Arolwg Masnach Cymru ddweud a oeddent wedi gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau yn ystod blwyddyn galendr 2019, a darparu cyfanswm gwerth y gwerthiannau hyn. Gofynnwyd wedyn iddynt ddadansoddi'r nwyddau a/neu'r gwasanaethau roeddent wedi’u gwerthu, a hynny yn ôl lleoliad eang:

  • Gwerthiannau yng Nghymru
  • Gwerthiannau i weddill y DU
  • Gwerthiannau i’r UE
  • Gwerthiannau i weddill y byd

Os oedd unrhyw nwyddau neu wasanaethau wedi cael eu gwerthu i weddill y DU, gofynnwyd i'r busnesau ddweud i ba wledydd yn y DU (yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr) roeddent wedi gwerthu, a gwerth y gwerthiannau i bob gwlad.

Gofynnwyd i fusnesau sy’n allforio nwyddau neu wasanaethau y tu allan i’r DU enwi’r bum gwlad tarddiad y maen nhw’n allforio nwyddau neu wasanaethau iddynt fwyaf, cyn rhoi gwerth bras y gwerthiannau i bob un o’r gwledydd hynny.

Trosolwg o’r gwerthiannau

Yn 2019, amcangyfrifwyd mai £105.3bn oedd cyfanswm gwerth y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru. Yn yr arolwg blaenorol, amcangyfrifwyd mai £101.3bn oedd cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer 2018 (edrychwch ar yr ystyriaethau data i gymharu â blynyddoedd blaenorol). Nwyddau oedd 69% (£72.5bn) o'r gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru yn 2019, gyda gwasanaethau’n 31% (£32.8bn).

Gwerthiannau yn ôl lleoliad

Gwerthiannau i gwsmeriaid yng Nghymru oedd tua 51% (£53.9bn) o’r gwerthiannau, sy’n gyfran debyg i’r flwyddyn flaenorol. Roedd 25% (£26.0bn) yn mynd i weddill y DU, roedd 15% (£15.6bn) yn mynd i weddill yr UE, a 3% (£3.6bn) yn mynd i weddill y byd. Gwerthiannau heb eu dyrannu oedd 6% (£6.1bn) ohonynt.

Mae gwerthoedd gwerthiannau heb eu dyrannu yn bodoli pan oedd busnesau wedi gwneud gwerthiannau, ond heb allu eu dyrannu i leoliad. Mae rhagor o wybodaeth am werthiannau heb eu dyrannu ar gael yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Image
Aeth dros hanner y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru i gwsmeriaid yng Nghymru, a chwarter i weddill y DU.

Gwerthiannau nwyddau a gwasanaethau yn ôl lleoliad

Yn y DU y cafodd y rhan fwyaf o wasanaethau eu gwerthu, gyda 56% (£18.3bn) yng Nghymru a 34% (£11.3bn) i rannau eraill o’r DU. Roedd y gwerthiannau nwyddau yn dangos mwy o raniad rhwng lleoliadau; 49% (£35.6bn) yng Nghymru, 20% (£14.7bn) i weddill y DU, 20% (£14.2bn) i weddill yr UE, a 5% (£3.3bn) i weddill y byd.

Image
Gwnaed gwerthiannau gwasanaethau yn y DU yn bennaf. Roedd rhaniad mwy amrywiol ar draws cyrchfannau ar gyfer gwerthiannau nwyddau.

Gwerthiannau yn ôl lleoliad, cyfran y busnesau

Roedd y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru (91%) yn gwerthu yng Nghymru, gyda dim ond 42% yn gwerthu i weddill y DU. Roedd cyfran llawer is o fusnesau yn allforio cynnyrch yn rhyngwladol, gyda 14% yn allforio i weddill yr UE ac 11% yn allforio y tu hwnt i’r UE.

Image
Cyfran y busnesau yng Nghymru sy'n gwerthu yn ôl eu cyrchfan. Roedd y rhan fwyaf o fusnesau'n gwerthu yng Nghymru.

Gwerthiannau nwyddau a gwasanaethau yn ôl maint y busnes

Busnesau mawr, canolig a bach oedd 47% (£49.0bn), 29% (£30.1bn) a 25% (£26.2bn) o’r holl gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru, yn y drefn honno. Nwyddau oedd y rhan fwyaf o werthiannau gan fusnesau mawr, 85% (£41.5bn) o werth y gwerthiannau. Cyfran werthiannau nwyddau busnesau canolig a bach oedd 57% (£17.1bn) a 53% (£13.9bn) yn y drefn honno.

Image
Mae cyfran fwy o werthiannau nwyddau ar draws pob maint busnes. Yn benodol, roedd busnesau mawr a busnes canolig yn gwerthu nwyddau yn bennaf.

Gwerthiannau yn ôl maint y busnes a’r lleoliad

Cafodd tua 76% (£80.0bn) o’r gwerthiannau, ar draws yr holl fandiau ar gyfer maint busnesau, eu gwneud yn y DU. Gwnaeth busnesau bach 61% (£16.0bn) o’u gwerthiannau yng Nghymru, 29% (£7.6bn) i weddill y DU a 6% (1.6bn) yn rhyngwladol. Gwerthiannau rhyngwladol oedd 24% (£11.6bn) ac 20% (£5.9bn) o’r gwerthiannau gan fusnes mawr a chanolig, yn y drefn honno. Busnesau mawr oedd â’r nifer uchaf o werthiannau heb eu dyrannu, 9% (£4.2bn).

Image
Gwnaed y rhan fwyaf o werthiannau gan fusnesau yng Nghymru i gwsmeriaid yn y DU. Cafodd tua chwarter y gwerthiannau o fusnesau mawr eu gwneud yn rhyngwladol.

Gwerthiannau yn ôl sector

Y sector ‘Masnach, llety a thrafnidiaeth’ oedd â’r gwerth uchaf o gyfanswm y gwerthiannau, 35% (£36.5bn) o’r holl werthiannau gan fusnesau yng Nghymru. ‘Gweithgynhyrchu’ oedd yr ail uchaf gyda 30% (£31.4bn), wedyn ‘Busnes a gwasanaethau eraill’ gydag 14% (£15.2bn), ‘Adeiladu’ gyda 12% (£12.3bn) a’r ‘Sector primaidd a chyfleustodau’ gyda 9% (£9.9bn).

Image
Roedd y gyfran fwyaf o werthiannau gan fusnesau yng Nghymru yn y sectorau masnach, llety a thrafnidiaeth.

Gwerthiannau yn ôl sector a lleoliad

Yng Nghymru yr oedd tua 77% (£27.9bn) o werth y gwerthiannau yn y sector llety a masnach, 18% (£6.4bn) yng ngweddill y DU a 3% (£1.2bn) yng ngweddill yr UE. Yng ngweddill yr UE yr oedd 44% (£13.8bn) o werth y gwerthiannau yn y sector gweithgynhyrchu, ac 8% (£2.7bn) yng ngweddill y byd. Yn y DU y cafodd gwerthiannau’r sectorau eraill eu gwneud yn bennaf.

Tabl 1: Gwerthiannau yn ôl sector a lleoliad (£ Miliynau), 2019
Sector busnes
 (a)
Cymru Gweddill y DU Gweddill yr UE Gweddill y Byd Heb ei dyrannu Cyfanswm
Masnach, llety a thrafnidiaeth 27,890 6,381 1,233 187 760 36,451
Gweithgynhyrchu 1,553 10,012 13,810 2,660 3,354 31,389
Busnes a gwasanaethau eraill 9,970 3,827 373 607 392 15,169
Adeiladu 9,808 1,788 * * 572 12,324
Sector Cynradd a Chyfleustodau 4,719 4,018 * * 1,036 9,926
Cyfanswm 53,940 26,026 15,569 3,611 6,113 105,259

Ffynhonnell: Arolwg masnach Cymru

(a) Busnesau gyda gwerthiannau yn 2019 (1,163). Masnach, llety a thrafnidiaeth (450), Gweithgynhyrchu (203), Busnes a gwasanaethau eraill (338), Adeiladu (124) a’r Sector primaidd a chyfleustodau (48).

Mae * yn dangos bod y ffigurau wedi’u hatal os dim ond cyfradd ymateb fechan a gafwyd.

Gwerthiannau i weddill y DU fesul gwlad

Gwerthiannau i weddill y DU oedd chwarter (£26.0bn) yr holl werthiannau gan fusnesau yng Nghymru. O blith y rhain, gwerthiannau i Loegr oedd y rhan fwyaf ohonynt (79% a £20.7bn), wedyn Gogledd Iwerddon a’r Alban gyda 3% (£0.8bn) a 3% (£0.7bn) yn y drefn honno. Doedd 15% (£3.8bn) arall o werthiannau ddim wedi cael eu dyrannu.  Dywedodd nifer fach o fusnesau eu bod yn cael trafferth dadansoddi’r gwerthiannau yn y DU fesul gwlad unigol, gan nad oedd yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ar eu systemau cyfrifyddu.

Image
Ar draws pob band maint aeth y rhan fwyaf o werthiannau gan fusnesau yng Nghymru i Loegr.

O’r £26.0bn o werth y gwerthiannau a gafodd eu gwneud i weddill y DU, y sector gweithgynhyrchu oedd â’r gyfran fwyaf (38%, £10.0bn), wedyn y sector masnach, llety a thrafnidiaeth gyda 25% (£6.4bn), a’r sector primaidd a chyfleustodau gyda 15% (£4.0bn).

Image
Daeth y gyfran fwyaf o werthiannau gan fusnesau yng Nghymru i weddill y DU o'r sector gweithgynhyrchu.

Gwerthiannau i Loegr oedd y mwyafrif o’r gwerthiannau i weddill y DU. Y sector gweithgynhyrchu oedd â’r gyfran fwyaf o’r gwerthiannau i weddill y DU, gydag 87% (£8.7bn) o’r gwerthiannau yn mynd i Loegr, 6% (£0.6bn) i Ogledd Iwerddon, a 3% (£0.3bn) i’r Alban.

Tabl 2: Gwerthiannau yn ôl sector a lleoliadau yng ngweddill y DU (£ Miliynau), 2019
Sector busnes (a) Lloegr Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU - Heb ei Dyrannu Gweddill Cyfanswm y DU
Gweithgynhyrchu 8,686 291 557 478 10,012
Masnach, llety a thrafnidiaeth 4,263 352 119 1,647 6,381
Sector Cynradd a Chyfleustodau 3,961 * * 35 4,018
Busnes a gwasanaethau eraill 2,019 71 107 1,630 3,827
Adeiladu 1,747 * * 27 1,788
Cyfanswm 20,676 748 784 3,818 26,026

Ffynhonnell: Arolwg masnach Cymru

(a) Busnesau gyda gwerthiannau yn 2019 (1,163). Masnach, llety a thrafnidiaeth (450), Gweithgynhyrchu (203), Busnes a gwasanaethau eraill (338), Adeiladu (124) a’r Sector primaidd a chyfleustodau (48).

Mae * yn dangos bod y ffigurau wedi’u hatal os dim ond cyfradd ymateb fechan a gafwyd.

Cynhyrchion a werthwyd yn y DU

Cynhyrchion sy'n cael eu gwerthu yn y DU gan fusnesau yng Nghymru

Gofynnwyd i fusnesau yng Nghymru ddewis, o restr, y 5 prif gynnyrch roeddent wedi’u gwerthu yn y DU a’u gwerth. Yn ôl amcangyfrif wedi’i bwysoli a oedd yn seiliedig ar 1,213 o ymatebion, cynnyrch ‘adeiladau a gwaith adeiladu’ oedd 12% (£9.2bn) o werth y gwerthiannau. ‘Cerbydau modur, trelars a threlars sy’n defnyddio cerbyd tynnu (semi-trailer)’ oedd nesaf gyda 6% (£4.8bn) o werth y gwerthiannau, ac wedyn cynnyrch ‘Gwasanaethau masnach fanwerthu, heblaw am gerbydau modur a beiciau modur’ gyda 5% (£4.1bn) o werth y gwerthiannau.

Image
Mae gwerth gwerthiannau heb eu categoreiddio’n sylweddol o'i gymharu â gwerth allforion rhyngwladol.

Allforion rhyngwladol

Yn 2019, amcangyfrifwyd mai £19.2bn oedd gwerth allforion rhyngwladol o Gymru. Mae hyn yn gymharol debyg i'r amcangyfrif yn 2018, sef £19.6bn. Dylid nodi bod gwerth y gwerthiannau heb eu dyrannu yn sylweddol o’i gymharu â chyfanswm gwerth yr allforion rhyngwladol, ac mae wedi cynyddu’n sylweddol ers amcangyfrifon 2018. Mae hyn yn cael ei drafod ymhellach yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Image
Nwyddau oedd allforion rhyngwladol yn bennaf ac aeth y rhan fwyaf ohonynt i weddill yr UE.

Aeth mwyafrif yr allforion rhyngwladol i weddill y UE (81%, £15.6bn) gyda 19% (£3.6bn) i weddill y byd. Nwyddau oedd 91% (£17.5bn) o’r holl allforion rhyngwladol a’u dyrannwyd. Roedd y mwyafrif o’r allforion rhyngwladol wedi mynd i weddill yr UE – 81% (£15.6bn).

Image
Mae’r gyfran o allforion nwyddau yn fwy ar draws pob maint busnes. Mae'r rhan fwyaf o allforion gwasanaethau yn dod o fusnesau canolig.

Roedd 61% (£11.6bn) o'r allforion rhyngwladol wedi cael eu gwneud gan fusnesau mawr. Nwyddau oedd y mwyafrif o’r allforion rhyngwladol ar draws pob band maint.

Image
Aeth y rhan fwyaf o werthiannau allforio gan fusnesau yng Nghymru i gwsmeriaid yng ngweddill yr UE. O ran busnesau bach aeth mwyafrif bach o werthiannau i gwsmeriaid yng ngweddill y byd.

Cafodd y rhan fwyaf o'r gwerthiannau allforio gan fusnesau mawr a chanolig eu gwneud i gwsmeriaid yng ngweddill yr UE – 90% (£10.5bn) ar gyfer busnesau mawr, a 74% (£4.4bn) ar gyfer busnesau canolig. Roedd gwerthiannau allforio busnesau bach wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng gweddill yr UE (44%, £0.7bn), a gweddill y Byd (56%, £0.9bn).

Image
Daeth y rhan fwyaf o allforion rhyngwladol o'r sector gweithgynhyrchu.

Y sector gweithgynhyrchu oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf (86%, £16.5bn) o allforion rhyngwladol.

Image
Roedd dros un rhan o bob deg o werthiannau gan fusnesau yng Nghymru yn gynhyrchion 'Adeiladau a gwaith adeiladu’ i weddill y DU.

Gofynnwyd i fusnesau enwi’r pum gwlad yr oeddent yn allforio fwyaf iddynt, a gofynnwyd iddynt am werth y gwerthiannau i bob un o’r gwledydd hynny. Fodd bynnag, doedd 20% o’r gwerthiannau allforio rhyngwladol ddim yn gallu cael eu dyrannu i ranbarth ac felly mae’r canfyddiadau’n anghyflawn. Rhoddir rhagor o wybodaeth am wledydd allforio yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth. Dim ond am werthiannau i’r pum gwlad roeddent yn allforio fwyaf iddynt y cafodd busnesau eu holi, felly nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r holl werthiannau allforio. Cafodd ffigurau'r gwerthiannau eu cyfuno mewn rhanbarthau cyffredinol eang. Nid oes dadansoddiad ar gael yn ôl nwyddau a gwasanaethau ar gyfer gwledydd.

Nid oedd unrhyw werthiannau rhyngwladol a wnaed gan fusnes i wledydd ar wahân i bump uchaf y busnes wedi cael eu dadansoddi, ac felly does dim modd cynnwys hyn yn ffigurau’r wlad ryngwladol neu’r rhanbarth byd-eang. Hefyd, mae’n bosibl nad yw rhai busnesau wedi gallu dyrannu cyfanswm eu hallforion rhyngwladol i wledydd penodol. Edrychwch ar y tablau data i weld y canlyniadau.

Pryniannau

Gofynnwyd i fusnesau a oedd wedi ymateb i Arolwg Masnach Cymru ddweud a oeddent wedi prynu nwyddau a/neu wasanaethau yn ystod blwyddyn galendr 2019, a darparu cyfanswm gwerth y pryniannau hyn. Gofynnwyd wedyn iddynt ddadansoddi'r nwyddau a/neu'r gwasanaethau roeddent wedi’u prynu, a hynny yn ôl categori eang ar gyfer lleoliad tarddiad:

  • Pryniannau yng Nghymru
  • Pryniannau o weddill y DU.
  • Pryniannau o weddill yr UE.
  • Pryniannau o weddill y byd.

Os oedd unrhyw nwyddau neu wasanaethau wedi cael eu prynu o weddill y DU, gofynnwyd i'r busnesau ddweud gan ba wledydd yn y DU (yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr) roeddent wedi’u prynu, a gwerth y pryniannau o bob gwlad.

Gofynnwyd i fusnesau sy’n mewnforio nwyddau neu wasanaethau o’r tu allan i’r DU enwi’r bum gwlad tarddiad y maen nhw’n mewnforio nwyddau neu wasanaethau ganddynt fwyaf.

Trosolwg o’r pryniannau

Yn 2019, amcangyfrifwyd mai £66.9bn oedd cyfanswm gwerth y pryniannau gan fusnesau yng Nghymru. Mae hyn yn eithaf tebyg i’r amcangyfrif ar gyfer y flwyddyn flaenorol (£67.2bn) (edrychwch ar yr ystyriaethau data i gymharu â blynyddoedd blaenorol). Nwyddau oedd tri chwarter (74% a £49.6bn) o'r pryniannau gan fusnesau yng Nghymru, a gwasanaethau oedd chwarter (26% ac £17.3bn) ohonynt.

Pryniannau yn ôl tarddiad

Roedd tua 30% (£20.3bn) o'r pryniannau’n dod o Gymru, 41% (£27.1bn) yn bryniannau o weddill y DU, 8% (£5.2bn) o weddill yr UE a 6% (£3.8bn) o weddill y byd. Roedd 16% (£10.5bn) yn bryniannau heb eu dyrannu.

Caiff gwerthoedd heb eu dyrannu ar gyfer pryniannau heb eu dyrannu i leoliad tarddiad. Mae rhagor o wybodaeth am bryniannau heb eu dyrannu ar gael yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Image
Roedd dros hanner y pryniadau oddi wrth fusnesau yng Nghymru gan gwsmeriaid o fewn y DU.

Pryniannau nwyddau a gwasanaethau yn ôl tarddiad

Roedd y rhan fwyaf o’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynwyd wedi cael eu prynu o’r DU. Roedd 28% (£13.7bn) o’r nwyddau a brynwyd wedi cael eu prynu o fewn Cymru, a 44% (£22.0bn) o rannau eraill o’r DU. Roedd 7% (£3.4bn) o’r nwyddau a brynwyd wedi cael eu prynu o weddill yr UE, a 7% (£3.7bn) o weddill y byd.

Image
Yn bennaf cafodd gwasanaethau eu prynu gan gwsmeriaid yn y DU. Roedd rhaniad mwy amrywiol ar draws tarddiad y nwyddau a gafodd eu prynu.

Pryniannau yn ôl tarddiad, cyfran y busnesau

Roedd y rhan fwyaf (88%) o fusnesau yng Nghymru wedi prynu yng Nghymru ac o weddill y DU (67%). Roedd cyfran llawer is o fusnesau yn mewnforio cynnyrch yn rhyngwladol, gyda 18% yn mewnforio o weddill yr UE a 10% yn mewnforio o’r tu hwnt i’r UE.

Image
Cyfran y busnesau yng Nghymru yn gwneud pryniadau yn ôl tarddiad. Gwnaeth y rhan fwyaf o fusnesau bryniannau yng Nghymru.

Pryniannau (nwyddau a gwasanaethau) yn ôl maint y busnes

Busnesau mawr, canolig a bach oedd 50% (£33.4bn), 28% (£18.7bn) a 22% (14.8bn) o’r pryniannau gan fusnesau yng Nghymru, yn y drefn honno. Nwyddau oedd y rhan fwyaf o’r pryniannau gan fusnesau mawr – 78% (£26.0bn) o werth eu phryniannau.  Nwyddau oedd 65% (£12.1bn) a 77% (£11.5bn) o bryniannau busnesau canolig a bach, yn y drefn honno.

Image
Roedd y rhaniad rhwng nwyddau a gwasanaethau a brynwyd yn gyfartal o fewn busnesau mawr yng Nghymru.

Pryniannau yn ôl maint y busnes a tharddiad

Cafodd tua 71% (£47.4bn) o’r pryniannau, ar draws yr holl fandiau ar gyfer maint busnesau, eu gwneud yn y DU. Roedd 43% (£6.3bn) o’r pryniannau gan fusnesau bach wedi’u gwneud yng Nghymru, 38% (£5.6bn) o weddill y DU a 12% (1.8bn) yn rhyngwladol. Pryniannau rhyngwladol oedd 11% (£3.6bn) ac 19% (£3.6bn) o bryniannau busnesau mawr a chanolig, yn y drefn honno. Busnesau mawr oedd â’r nifer uchaf o bryniannau heb eu dyrannu – 19% (£6.5bn) o’u holl pryniannau.

Image
Gwnaed y rhan fwyaf o'r pryniannau oddi wrth fusnesau yng Nghymru gan gwsmeriaid yn y DU. Ni chafodd bron i un rhan o bump o'r pryniannau oddi wrth fusnesau mawr eu categoreiddio.

Pryniannau yn ôl sector

Y sector ‘Masnach, llety a thrafnidiaeth’ oedd â’r gwerth uchaf o gyfanswm y pryniannau – 35% (£23.2bn) o’r holl bryniannau gan fusnesau yng Nghymru. ‘Gweithgynhyrchu’ oedd yr ail uchaf gyda 33% (£31.4bn), wedyn ‘Adeiladu’ gyda 12% (£7.9bn), ‘Busnes a gwasanaethau eraill’ gyda 10% (£6.9bn), a’r ‘Sector primaidd a chyfleustodau’ gyda 10% (£6.6bn).

Image
O ran gwerth roedd y gyfran fwyaf o bryniadau oddi wrth fusnesau yng Nghymru yn y sectorau masnach, llety a thrafnidiaeth.

Pryniannau yn ôl sector a tharddiad

Cafodd bron i dri chwarter (73% ac £17.0bn) o’r pryniannau yn y sector llety a masnach eu gwneud o fewn y DU, 10% (£2.2bn) o weddill yr UE a 6% (£1.4bn) o weddill y byd. Cafodd y sector gweithgynhyrchu 67% (£15.0bn) o’u pryniannau yn y DU, a 12% (£2.6bn) o weddill yr UE a 9% (£2.1bn) o weddill y byd. Yn y DU y cafodd pryniannau mewn sectorau eraill eu gwneud yn bennaf.

Tabl 3: Pryniannau yn ôl sector a tharddiad (£ Miliynau), 2019
Sector busnes (a) Cymru Gweddill y DU Gweddill yr UE Gweddill y Byd Heb ei dyrannu Cyfanswm
Masnach, llety a thrafnidiaeth 7,038 9,945 2,225 1,393 2,584 23,185
Gweithgynhyrchu 3,545 11,486 2,622 2,090 2,530 22,273
Adeiladu 5,041 2,734 * * 102 7,896
Busnes a gwasanaethau eraill 3,060 1,436 211 316 1,906 6,929
Sector Cynradd a Chyfleustodau 1,611 1,522 * * 3,328 6,572
Cyfanswm 20,295 27,123 5,181 3,806 10,450 66,855

Ffynhonnell: Arolwg masnach Cymru

(a) Busnesau gyda phryniannau yn 2019 (1,076). Masnach, llety a thrafnidiaeth (422), Adeiladu (120), Gweithgynhyrchu (198), Busnes a gwasanaethau eraill (289) a’r Sector primaidd a chyfleustodau (47).

Mae * yn dangos bod y ffigurau wedi’u hatal os dim ond cyfradd ymateb fechan a gafwyd.

Pryniannau o weddill y DU fesul gwlad

Pryniannau o fewn weddill y DU oedd 41% (£27.1bn) o’r holl bryniannau gan fusnesau yng Nghymru. O blith y rhain, pryniannau o Loegr oedd y rhan fwyaf ohonynt (67% ac £18.3bn), wedyn Gogledd Iwerddon gyda 2% (£0.6bn), a'r Alban gydag 1% (£0.3bn). Roedd 29% (£7.9bn) o bryniannau o fewn y DU heb eu dyrannu. Dywedodd nifer fach o fusnesau eu bod yn cael trafferth dadansoddi’r pryniannau yn y DU fesul gwlad unigol, gan nad oedd yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ar eu systemau cyfrifyddu.

Image
Ar draws pob band maint aeth y rhan fwyaf o'r pryniannau oddi wrth fusnesau yng Nghymru i Loegr. Ni chafodd tarddiad yn y DU ei nodi ar gyfer cyfran sylweddol o bryniannau busnesau mawr.

O’r £27.1bn o werth y pryniannau o fewn weddill y DU, ‘Gweithgynhyrchu’ oedd â’r gyfran uchaf o bryniannau o fewn weddill y DU, gyda 42% (£11.5bn) o fusnesau yng Nghymru wedi prynu o weddill y DU. Roedd 37% (£9.9bn) yn y sector ‘Masnach, llety a thrafnidiaeth’.

Image
O ran gwerth roedd y gyfran fwyaf o bryniadau oddi wrth fusnesau yng Nghymru yn y sectorau masnach, llety a thrafnidiaeth.

O ran pryniannau o fewn y DU, roedd busnesau yng Nghymru wedi prynu o Loegr yn bennaf. Y sector ‘Gweithgynhyrchu’ oedd â’r gwerth mwyaf o bryniannau o weddill y DU, gyda Lloegr yn cynrychioli 38% (£4.4bn) o werth y pryniannau yn y sector hwn. Serch hynny, nid oedd 55% (£6.3bn) o’r pryniannau o’r DU gan y sector ‘Gweithgynhyrchu’ yn gallu cael ei ddyrannu.  Does dim gwerthoedd wedi’u dyrannu ar gyfer pryniannau pan oedd busnesau wedi gwneud pryniannau, ond heb allu eu dyrannu i leoliad tarddiad. Mae rhagor o wybodaeth am bryniannau heb eu dyrannu ar gael yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Tabl 4: Pryniannau o’r DU yn ôl sector a tharddiad (£ Miliynau), 2019
Sector busnes (a) Lloegr Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU heb ei dyrannu Cyfanswm Gweddill y DU
Gweithgynhyrchu 4,376 168 595 6,347 11,486
Masnach, llety a thrafnidiaeth 8,884 54 29 978 9,945
Sector Cynradd a Chyfleustodau 1,432 * * 29 1,522
Busnes a gwasanaethau eraill 1,046 * * 373 1,436
Adeiladu 2,532 * * 199 2,734
Cyfanswm 18,270 283 643 7,927 27,123

Ffynhonnell: Arolwg masnach Cymru

(a) Busnesau gyda phryniannau yn 2019, Gweithgynhyrchu (152), Busnes a gwasanaethau eraill (181), Masnach, llety a thrafnidiaeth (147), Y sector primaidd a chyfleustodau eraill (26) ac Adeiladu (35).

Mae * yn dangos bod y ffigurau wedi’u hatal os dim ond cyfradd ymateb fechan a gafwyd.

Mewnforion rhyngwladol

Amcangyfrifwyd mai £9.0bn oedd gwerth y mewnforion rhyngwladol i fusnesau yng Nghymru. Nwyddau oedd 78% (£17.0bn) o’r holl fewnforion rhyngwladol busnes.

Dylid nodi bod gwerth y pryniannau heb eu dyrannu yn sylweddol o’i gymharu â chyfanswm y mewnforion rhyngwladol, ac mae wedi cynyddu’n sylweddol ers amcangyfrifon 2018. Mae hyn yn cael ei drafod ymhellach yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Image
Mae gwerth pryniannau heb eu categoreiddio'n sylweddol o'i gymharu â gwerth mewnforion rhyngwladol.

Roedd y mwyafrif o’r gwasanaethau a oedd wedi cael eu mewnforio wedi dod o weddill yr UE (92%, £1.8bn). Roedd y nwyddau a oedd wedi’u mewnforio wedi’u rhannu’n fwy cyfartal rhwng gweddill yr UE (48%, £3.4bn), a gweddill y byd (52%, £3.7bn).

Image
Roedd mewnforion gwasanaethau’n dod yn bennaf o weddill yr UE. Roedd rhaniad mwy amrywiol ar draws y tarddiad ar gyfer mewnforion nwyddau.

Nwyddau oedd 78% (£7.1bn) o’r mewnforion rhyngwladol. Ar draws pob band maint, nwyddau oedd y rhan fwyaf o'r mewnforion rhyngwladol gan fusnesau.

Image
Nwyddau yw'r rhan fwyaf o fewnforion rhyngwladol ar draws pob maint busnes.

Roedd mewnforion rhyngwladol bron yn gyfartal rhwng gweddill yr UE a gweddill y byd ar gyfer busnesau bach a mawr. Roedd y rhan fwyaf o fewnforion rhyngwladol busnesau canolig yn dod o weddill yr UE.

Image
Mae mewnforion rhyngwladol gan fusnesau mawr a bach bron yn gyfartal rhwng gweddill yr UE a gweddill y byd. Roedd busnesau canolig yn derbyn y rhan fwyaf o’u mewnforion rhyngwladol o weddill yr UE.

Y sector gweithgynhyrchu oedd wedi gwneud y rhan fwyaf o’r mewnforion rhyngwladol (52%, £4.7bn). Roedd y sector masnach, llety a thrafnidiaeth yn cynrychioli 40% (£3.6bn) o’r mewnforion rhyngwladol.

Image
Prynwyd y gyfran fwyaf o fewnforion rhyngwladol gan y sector gweithgynhyrchu.

Cyfanswm y symiau masnach

Rhoddir amcangyfrifon o gyfanswm y symiau masnach i roi trosolwg o bwysigrwydd cyffredinol cymharol marchnadoedd eang. Mae'r amcangyfrifon sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer cyfanswm y symiau masnach wedi cael eu cynhyrchu drwy gyfuno canlyniadau'r adrannau ar wahân ar werthiannau a phryniannau. Dylid nodi bod hyd a lled yr amcangyfrifon yn gyfyngedig, fel sy’n cael ei egluro yn ‘Arolwg Masnach Cymru, 2019: adroddiad ansawdd’, ac ni ddylid eu defnyddio i gyfrifo balans masnach.

Gwerth cyfanswm y symiau masnach (gwerthiannau a phryniannau) gan fusnesau yng Nghymru yn 2019 oedd £172.1bn. Mae hyn ychydig yn uwch na’r amcangyfrif ar gyfer 2018 (£168.4bn). Roedd tua 43% (£74.2bn) o gyfanswm y symiau masnach yn fasnach a oedd wedi’i gwneud yng Nghymru, a 31% (£53.1bn) gyda gweddill y DU. Roedd 16% o'r gwerth masnachu yn fasnach a oedd wedi’i gwneud gyda marchnadoedd rhyngwladol, 12% (£20.8bn) gyda gweddill yr UE a 4% (£7.4bn) gyda gweddill y byd. Roedd 10% (£16.6bn) o’r gwerth masnach yn fasnach a oedd heb ei dyrannu.

Image
Gwnaed bron i dri chwarter cyfanswm y fasnach gan fusnesau yng Nghymru yn y DU.

Cymharedd a chydlyniaeth

Cymharu’r Arolwg ar draws blynyddoedd

Mae cymariaethau cyffredinol rhwng Arolwg 2019 a blynyddoedd blaenorol yn cael eu cyflwyno at ddibenion enghreifftiol yn unig. Mae amrywioldeb yn y sampl a gafwyd yn ystod y ddwy flynedd o waith maes efallai yn effeithio ar y gallu i wneud cymariaethau cadarn rhwng y blynyddoedd, yn ogystal a ffactorau allanol eraill – gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth. Mae dadansoddiadau yn ôl lleoliad, maint y busnes a sector wedi dangos mwy o amrywioldeb i gymharu a’r flwyddyn canlynol, ac mae cymariaethau penodol yn cael eu trafod isod.

Dylid nodi hefyd bod gwerth y fasnach heb ei dyrannu yn Arolwg 2019 wedi cynyddu’n sylweddol ers y flwyddyn flaenorol. Pan fydd busnesau'n darparu cyfanswm gwerth eu gwerthiannau a/neu eu pryniannau, ond yn methu darparu dadansoddiadau daearyddol o’r fasnach hon, mae hynny’n arwain at fasnach heb ei dyrannu. Cynyddodd gwerthiannau heb eu dyrannu o £1.0bn yn 2018 i £6.1bn yn 2019, a chynyddodd pryniannau heb eu dyrannu o £7.8bn i £10.5bn yn 2019. Mae’n bwysig ystyried y newidiadau hyn wrth edrych ar ganlyniadau ar draws blynyddoedd. Mae’n debyg mai cynnydd mewn masnach heb ei dyrannu sy’n achosi cyfran o’r newidiadau mewn gwerth a welwyd ar draws blynyddoedd.

Yn 2019, roedd y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru i weddill y byd yn £3.6bn, o’i gymharu â £7.8bn yn y flwyddyn flaenorol. Mae’n bosibl mai'r cynnydd mewn gwerthiannau heb eu dyrannu a fyddai wedi bod yn rhan o rywfaint o’r gwerthiannau i weddill y byd sy’n achosi’r anwadalrwydd yma’n bennaf, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu newidiadau ar lawr gwlad.

Image
Roedd cyfran fwy o werthiannau heb eu categoreiddio yn 2019 a gostyngiad mewn gwerthiannau i weddill y byd.

Yn 2019, roedd y pryniannau gan fusnesau yng Nghymru o weddill y DU yn £27.1bn, o’i gymharu â £34.3bn yn y flwyddyn flaenorol. Mae’n bosibl mai llai o bryniannau yn y sector gweithgynhyrchu (gweler Siart A6), a phroffiliau ymatebwyr a/neu samplau amrywiol dros y blynyddoedd sy’n achosi hynny’n bennaf.

Image
Roedd cyfran fwy o brynwyr heb eu categoreiddio yn 2019 a gostyngiad mewn pryniannau gan weddill y byd.

Yn 2019, roedd gwerth y gwerthiannau gan fusnesau mawr yng Nghymru yn £49.0bn o’i gymharu â £55.3bn yn y flwyddyn flaenorol, ac roedd gwerth y gwerthiannau gan fusnesau canolig yn £30.1bn o’i gymharu â £19.2bn yn y flwyddyn flaenorol. Mae’n bosibl bod y newidiadau hyn wedi cael eu hachosi’n rhannol gan broffiliau ymatebwyr a / neu samplau amrywiol.

Image
O’u cymharu â'r flwyddyn flaenorol gostyngodd gwerthiannau busnesau mawr a chynyddodd gwerthiannau busnesau canolig.

Yn 2019, roedd gwerthoedd y pryniannau ymysg fusnesau mawr yng Nghymru yn £33.4bn o’i gymharu â £40.0bn yn y flwyddyn flaenorol, ac roedd gwerth y pryniannau ymysg fusnesau canolig yn £18.7bn o’i gymharu â £12.1bn yn y flwyddyn flaenorol. Mae’n bosibl bod y newidiadau hyn wedi cael eu hachosi’n rhannol gan broffiliau ymatebwyr a / neu samplau amrywiol dros y ddwy flynedd, sydd wedi arwain at gymariaethau annibynadwy.

Image
O'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, gostyngodd pryniannau gan fusnesau mawr a chynyddodd pryniannau gan fusnesau canolig.

Yn 2019, roedd y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru yn y sector ‘Busnes a gwasanaethau eraill’ yn £15.2bn, o’i gymharu â £7.2bn yn y flwyddyn flaenorol. Roedd ‘Adeiladu’ hefyd yn dangos newid mawr, o £7.1bn i £12.3bn. Mae’n bosibl bod y newidiadau hyn wedi cael eu hachosi’n rhannol gan broffiliau ymatebwyr a / neu samplau amrywiol dros y ddwy flynedd.

Image
Cynyddodd gwerthiannau yn y sectorau masnach, llety a thrafnidiaeth o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Yn 2019, roedd y pryniannau gan fusnesau yng Nghymru yn y sector ‘Gweithgynhyrchu’ tua un rhan o bump yn llai. Mae’n debygol mai’r gostyngiad a welwyd yng ngweddill y pryniannau yn y DU sy’n achosi hynny.

Image
Cynyddodd pryniannau yn y sectorau masnach, llety a thrafnidiaeth o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Cymharu â’r ystadegau presennol mewn masnach ryngwladol

Er gwaethaf yr anawsterau wrth gymharu amcangyfrifon masnach Arolwg Masnach Cymru yn uniongyrchol a’r rheini a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau EM a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae canfyddiadau lefel uchel Arolwg Masnach Cymru yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r amcangyfrifon presennol cyfatebol o fasnach ryngwladol er mwyn bod yn dryloyw. Data 2018 sydd wedi cael eu defnyddio i gymharu gwasanaethau, gan mai dyma’r data diweddaraf ar wasanaethau sydd ar gael ar gyfer Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol adeg ysgrifennu’r adroddiad.

Mae dadansoddiad pellach a gynhaliwyd ar ddata masnach nwyddau 2019 hefyd yn bwynt cymharu defnyddiol: Patrymau masnach Cymru yn ôl cyrchfan, cynnyrch a nodweddion busnes: 2019, gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dylid nodi bod y gwerthoedd heb eu dyrannu wedi cynyddu'n sylweddol ers amcangyfrifon 2018. Ceir gwerthoedd heb eu dyrannu lle'r oedd busnesau'n masnachu ond nad oeddent yn gallu ei ddyrannu i gyrchfan neu darddiad. Gall hyn yn ei dro effeithio ar y gwerthoedd masnach rhyngwladol a gynhyrchir gan ddefnyddio methodoleg Arolwg Masnach Cymru.

Mae’r ffynonellau presennol yn amcangyfrif y bydd allforion nwyddau a gwasanaethau rhyngwladol Cymru tua £23.7bn yn 2019, o'i gymharu ag amcangyfrif Arolwg Masnach Cymru o £19.2bn. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r amcangyfrifon fel hyn, gan roi ystyriaeth briodol i’r gwahaniaethau mewn methodoleg, yn ogystal a’r cynnydd y cyfanswm masnach heb ei dyrannu Arolwg Masnach Cymru 2019. Fel y nodwyd yn yr adroddiad ansawdd, nid oedd sampl Arolwg Masnach Cymru yn cynnwys rhai sectorau, a’r mwyaf amlwg o'r rhain oedd y sector gwasanaethau ariannol. I gael cymhariaeth fwy realistig, dylid ‘gweithgareddau ariannol ac yswiriant’ eu heithrio o’r ffigurau Masnach ryngwladol mewn gwasanaethau, er nad yw hwn yn bosibl gan fod y data yn cael eu atal.

Tabl A1: Cymhariaeth rhwng allforion rhyngwladol, 2019
Allforion rhyngwladol Cymru (£ Miliynau)
Amcangyfrif AMC Amcangyfrif amgen (a) Y gwahaniaeth
Cyfanswm yr allforion rhyngwladol 19,180 25,215 -6,035
  Gweddill yr UE 15,569 13,641 1,928
  Gweddill y byd 3,611 11,574 -7,963
Nwyddau Gweddill yr UE 14,183 10,760 3,423
Gweddill y byd 3,316 7,012 -3,696
Gwasanaethau Gweddill yr UE 1,386 2,881 -1,495
Gweddill y byd 295 4,562 -4,267

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019, Cyllid a Thollau EM, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

(a) Mae’r gwasanaethau’n seiliedig ar y flwyddyn 2018, ac mae'n cynnwys gwerth bach o fewn gweithgareddau ariannol ac yswiriant.

Mae’r ffynonellau presennol yn amcangyfrif y bydd mewnforion rhyngwladol Cymru tua £22.9bn yn 2019, o’i gymharu ag amcangyfrif Arolwg Masnach Cymru o £9.0bn. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r amcangyfrifon fel hyn, a dylai’r gwahaniaethau mewn methodoleg gael eu hystyried yn briodol.  Fel y nodwyd yn yr adroddiad ansawdd, dim ond mewnforion a phryniannau busnes y mae Arolwg Masnach Cymru yn eu casglu, ac nid yw’n cynnwys pryniannau uniongyrchol i’r defnyddiwr, a allai fod yn berthnasol i’r gwahaniaethau hyn.

Tabl A2: Cymhariaeth rhwng mewnforion rhyngwladol, 2019
Mewnforion rhyngwladol Cymru (£ Miliynau)
Amcangyfrif AMC  Amcangyfrif amgen (a) Y gwahaniaeth
Cyfanswm yr allforion rhyngwladol 8,987 23,369 -14,382
  Gweddill yr UE 5,181 9,550 -4,369
Gweddill y byd 3,806 13,819 -10,013
Nwyddau Gweddill yr UE 3,400 6,905 -3,505
Gweddill y byd 3,654 11,312 -7,658
Gwasanaethau Gweddill yr UE 1,781 2,645 -864
Gweddill y byd 152 2,507 -2,355

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019, Cyllid a Thollau EM, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

(a) Mae’r gwasanaethau’n seiliedig ar y flwyddyn 2018, ac mae'n cynnwys gwerth bach o fewn gweithgareddau ariannol ac yswiriant.

Yn 2019, roedd Arolwg Masnach Cymru yn amcangyfrif mai Ffrainc oedd prif bartner allforio Cymru, gyda gwerth £9.5bn o allforion gan fusnesau yng Nghymru. Yr Almaen oedd nesaf (£1.5bn), a’r Unol Daleithiau (£1.2bn). Mae’r amcangyfrifon canlynol yn wahanol iawn i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EM, a dylid eu trin yn ofalus iawn gan ddefnyddio’r cafeatau priodol yn y cyfyngiadau. Un gwahaniaeth allweddol yw methodoleg Cyllid a Thollau EM sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol – yn deillio oddi ddatganiadau tollau, felly bydd y data’n fwy cyflawn. Mae cynnwys cadwyni cyflenwi’r DU yn Arolwg Masnach Cymru (gan gynnwys trosglwyddiadau o fewn cwmnïau) hefyd yn debygol o achosi gwyriadau oddi wrth yr amcangyfrifon presennol. Felly, bydd trosglwyddiadau rhwng cwmnïau o Gymru a rhanbarthau eraill yn y DU yn cael eu cofnodi yng nghanlyniadau Arolwg Masnach Cymru fel masnach domestig, hyd yn oed os yw lleoliad terfynol y cwsmer yn rhyngwladol. Mae hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon presennol sy’n defnyddio data sy’n cael eu casglu ar lefel cwmnïau yn y DU, lle bydd gwerthiannau i gwsmeriaid rhyngwladol yn cael eu cofnodi a’u ôl dosrannu i ranbarthau’r DU.

Tabl A3: Cymhariaeth rhwng allforion rhyngwladol fesul gwlad gyrchfan (£ miliynau)
Y Wlad Amcangyfrif AMC Y Wlad Amcangyfrif CThEM
Ffrainc 9,515 Yr Almaen 2,881
Yr Almaen 1,501 Ffrainc 2,819
Unol Daleithiau 1,247 Unol Daleithiau 2,744
Yr Iseldiroedd 378 Iwerddon 1,696
Japan 338 Yr Iseldiroedd 981
Tsieina 298 Gwlad Belg 547
Yr Eidal 278 Sbaen 471
Sbaen 192 Yr Emiraethau Arabaidd Unedig 463
Portiwgal 176 Tsieina 407
Iwerddon 156 Twrci 338

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019, Cyllid a Thollau EM 2019

(a) Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM yn cynnwys dim ond nwyddau.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r ystadegau hyn yn rhai arbrofol gan fod y dull a ddefnyddiwyd yn dal i gael ei ddatblygu, ac mae rhai problemau gydag ansawdd y data.

Mae ein ‘Arolwg Masnach Cymru 2019: adroddiad ansawdd’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd, ac mae ‘Arolwg Masnach Cymru 2019: adroddiad technegol’ yn rhoi gwybodaeth am fethodoleg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Koe
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 260/2021