Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyfeisiau amlddefnydd (MFD2) ac atebion o ran dogfennau (ICT-0104-20)

Daeth y genhedlaeth gyntaf o'n fframwaith ITM i ben ar 22 Gorffennaf ac fe'i disodlwyd gan yr ail genhedlaeth ar 23 Gorffennaf.

Mae dogfennau canllaw llawn a thempledi ar gael ar GwerthwchiGymru.

Rydym wedi rhoi'r gorau i lot 2 ein fframwaith MFD. Mae nwyddau traul printio bellach ar gael o dan lot 1 a gellir rhoi contract yn ôl y gofyn ar waith drwy gystadleuaeth bellach.

Am ragor o wybodaeth, cyngor neu gyfarwyddyd, e-bostiwch CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru.

Fframwaith Digideiddio, Storio a Gwaredu

Yn ddiweddar, gwnaethom asesu cymhwysedd cyflenwyr ar ein fframwaith Digideiddio, Storio a Gwaredu. O ganlyniad, dim ond Elite Paper Solutions ac eCycle Ltd fydd yn aros ar ein fframwaith.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru.