Neidio i'r prif gynnwy

Data am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Cyhoeddir data tân glaswelltir yn fwletin atodol i’r ystadegau digwyddiad tân ac achub a  gynhyrchwyd ym mis Medi 2021.

Efallai mai cyfyngiadau COVID-19 buodd ar waith trwy adegau’r flwyddyn wedi effeithio ar nifer y tanau glaswelltir yn ystod 2020-21.

Pwyntiau allweddol

Tanau

  • Ymatebodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 2,232 o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yn 2020-21, cynnydd o 2% ar y nifer yn 2019-20.
  • Cododd nifer y tanau glaswelltir cynradd 62% yn 2020-21 o gymharu â 2019-20.
  • Gostyngodd nifer o danau eilaidd ar laswelltir 1% yn 2020-21 (o'i gymharu â 2019-20).
  • Yn 2020-21, cychwynnwyd bron dri chwarter o danau ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd eu cychwyn yn fwriadol.
  • Digwyddodd 34% o danau glaswelltir yn 2020-21 ym mis Ebrill 2020, 8% fwy nag ym mis Ebrill 2019. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y gwelwyd 42% yn fwy o oriau o heulwen a 59% yn llai o law ym mis Ebrill 2020 o'i gymharu â Ebrill 2019.
  • Digwyddodd 47% o danau glaswelltir yn 2020-21 yn ne Cymru; 42% yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a 11% yng ngogledd Cymru.

Anafiadau

  • Roedd 3 o anafiadau nad oedd yn angheuol, o ganlyniad i danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yng Nghymru yn 2020-21.
  • Cafwyd y farwolaeth ddiwethaf yn 2007-08 o ganlyniad i danau glaswelltir.

Difrod

  • Yn 2020-21, Gwnaeth 58% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd ardaloedd llai na 20 metr sgwâr.
  • Difrododd un ymhob pump o danau ardal o fwy na 200 metr sgwâr.

Adroddiadau

Tanau glaswelltir: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tanau glaswelltir: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 47 KB

ODS
Saesneg yn unig
47 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.