Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg

Arolwg byd-eang blynyddol o frandiau cenhedloedd yw’r Mynegai Brandiau Cenhedloedd, sy’n asesu enw da a delwedd gyffredinol cenedl ar draws chwe dimensiwn cymhwysedd cenedlaethol, y caiff pob un ohonynt eu trin yn gyfartal, sef:

  1. Allforion
  2. Llywodraethu
  3. Diwylliant
  4. Pobl
  5. Twristiaeth
  6. Mewnfudo a Buddsoddi

Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau sy’n deillio o’r dimensiynau hyn yn rhoi darlun cyffredinol o enw da cenedl. Sgôr gyffredinol y Mynegai yw cyfartaledd sgôr y dimensiynau a restrir uchod. Ceir rhwng tri a phump o ddatganiadau neu gwestiynau ynghylch priodoleddau ar gyfer pob un o’r dimensiynau a fesurir. Ar draws y chwe dimensiwn, wnaeth ymatebwyr sgorio 23 o briodoleddau. 

Bu Mynegai Brandiau Cenhedloedd 2020 yn archwilio delwedd 50 o genhedloedd drwy gynnal cyfweliadau mewn 20 o wledydd panel craidd. Cafodd 20,019 o gyfweliadau eu cynnal i gyd, a chafodd o leiaf 1,000 eu cynnal ym mhob gwlad banel. Roedd yr ymatebwyr yn oedolion 18 oed a hŷn, a chafodd pob un ohonynt eu cyfweld drwy arolwg ar-lein. Roedd yr 20 o wledydd panel craidd yn cynrychioli economïau datblygedig o bwys ac economïau newydd sy’n chwarae rôl bwysig ac amrywiol o safbwynt masnach a chysylltiadau rhyngwladol ac o safbwynt llif gweithgareddau ym maes busnes, diwylliant a thwristiaeth. Cafodd Cymru ei chynnwys hefyd fel 21ain wlad banel ychwanegol, a chafodd sampl o 500 o ymatebwyr yng Nghymru yr un cwestiynau â’r 20 o wledydd panel craidd.

2020 oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru gael ei chynnwys yn y Mynegai Brandiau Cenhedloedd. Nod yr ymchwil oedd rhoi darlun o enw da Cymru ar lefel ryngwladol a byd-eang. Mae’r modd y caiff gwlad ei gweld ar lefel ryngwladol yn gallu effeithio ar ei chysylltiadau â gwledydd eraill ac ar ei hymdrechion ym maes busnes, masnach a thwristiaeth. Gan gydnabod hynny, ac yn unol â nodau llesiant y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r Strategaeth Ryngwladol (Llywodraeth Cymru 2020) a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn egluro uchelgeisiau i godi proffil Cymru ar lefel fyd-eang fel lle i fuddsoddi, gweithio, byw ac astudio ynddo ac fel lle i ymweld ag ef.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun sydyn o agweddau pobl at Gymru a’u canfyddiadau o Gymru. Gall data fel hyn am agweddau wella dealltwriaeth o sut y caiff Cymru ei gweld ar lefel ryngwladol a beth yw barn pobl yng Nghymru am y wlad y maent yn byw ynddi, gan helpu i feithrin dealltwriaeth well o enw da Cymru yn fyd-eang ac yn fewnol.

Yn unigol, mae’n bosibl bod y casgliadau ynghylch safle a sgorau yn cyfleu negeseuon gwahanol am enw da Cymru. Ond gyda’i gilydd, mae’r safle a’r sgorau yn rhoi darlun cyffredinol o enw da Cymru.

  • Mae’r sgôr yn ddangosydd o enw da cenedl; gellir ei defnyddio i olrhain enw da cenedl dros gyfnod a chaiff ei chyflwyno fel cyfartaledd allan o 100.
  • Mae’r safle yn ddangosydd o enw da cenedl o’i chymharu â gwledydd eraill, ac mae’n cyfeirio at safle’r genedl rhwng 1 a 50, lle 1 yw’r safle uchaf.

Nid yw sgorau uchel gan wlad banel graidd o reidrwydd yn gyfystyr â safle uchel gan y wlad honno, ac i’r gwrthwyneb. Felly, mae’n ddefnyddiol edrych arnynt gyda’i gilydd.

Dylai’r ymchwil hon gael ei hystyried yn ymchwil archwiliol. Nid yw’r Mynegai Brandiau Cenhedloedd yn werthusiad o Lywodraeth Cymru nac o weithgarwch neu berfformiad unrhyw asiantaeth gyflawni/cangen o lywodraeth. Mae’r dadansoddiad yn darparu cyfres y gellir ei chyffredinoli o gasgliadau ynghylch lefelau ymwybyddiaeth fyd-eang a safbwyntiau ar genedl. Mae’n cynnig asesiad o enw da brand cenedl ar sail darlun sydyn o safbwyntiau ymatebwyr ar draws y dimensiynau a’r priodoleddau a fesurir. Fodd bynnag, nid yw’r Mynegai Brandiau Cenhedloedd yn archwilio pam y mae ymatebwyr yn teimlo felly nac yn archwilio pam y mae newidiadau i enw da yn efallai digwydd dros amser.

Casgliadau

Safle cyffredinol Cymru ym Mynegai Brandiau Cenhedloedd 2020SM

Cafodd Cymru ei gosod yn yr 21ain safle yn gyffredinol allan o 50 o wledydd, yn hanner uchaf y Mynegai Brandiau Cenhedloedd, gyda sgôr gyffredinol o 60.6 (allan o 100). At ei gilydd, roedd y gwledydd a gafodd sgôr uwch na Chymru yn ddemocratiaethau ag incwm uchel, yng Ngorllewin Ewrop yn bennaf

Roedd enw da Cymru yn 2020 ar ei orau yn y DU (safle: 7fed, sgôr: 65.0), gydag Awstralia a Ffrainc yn dilyn wedyn; roedd ar ei wannaf yn India (safle: 38ain, sgôr: 68.7), gyda Tsieina a Thwrci yn dilyn wedyn.

Cyfarwyddineb â Chymru

Roedd cyfanswm o 53% o ymatebwyr yn gyfarwydd â Chymru. O safbwynt cyfarwyddineb cyffredinol, cafodd Cymru ei gosod yn y deg isaf, yn y 45ain safle, o blith yr 50 o wledydd a gafodd eu cynnwys ym Mynegai Brandiau Cenhedloedd 2020.

Roedd ymatebwyr a oedd wedi cael rhywfaint o gysylltiad â Chymru, ar ôl ymweld â’r wlad at ddibenion busnes a/neu ar wyliau neu ar ôl mynd i wefan Gymreig, yn tueddu i roi sgôr uwch i Gymru. Roedd hynny’n wir hefyd am ymatebwyr hŷn (45 oed neu hŷn) a phobl fusnes/swyddogion gweithredol (o’u cymharu â phobl o alwedigaethau ‘eraill’) o ran cynefindra.

Ffafrioldeb tuag at Gymru

Cafodd Cymru sgôr gymedrig o 4.66 ar gyfer ffafrioldeb (ar raddfa o 1.0 i 7.0 pwynt), a oedd yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer ffafrioldeb, gan gyrraedd yr 21ain safle o blith 50 cenedl y Mynegai, gyda sgôr o 61.4 allan o 100. Po fwyaf cyfarwydd yr oedd ymatebwyr â Chymru, yr uchaf yr oedd eu sgôr ar gyfer ffafrioldeb.

Roedd ymatebwyr o wledydd cyfagos a gwledydd lle caiff Saesneg ei siarad (yn enwedig y DU, Awstralia a Chanada) yn fwy cyfarwydd â Chymru ac yn tueddu i osod Cymru mewn safle uwch o ran cynefindra, o’u cymharu â gwledydd eraill.

Chwe dimensiwn enw da Cymru

Dyma’r chwe dimensiwn:

  1. Allforion
  2. Llywodraethu
  3. Diwylliant
  4. Pobl
  5. Twristiaeth
  6. Mewnfudo a Buddsoddi

O ddarllen ar draws y dimensiynau, gwelir bod Cymru wedi cael sgôr gyson a bod ei safle o amgylch canol y Mynegai ac yn amrywio rhwng y 19eg safle a’r 29ain safle. Roedd Cymru ymhlith y 30 uchaf yng nghyswllt pob un o’r chwe dimensiwn, ac roedd ymhlith y 25 uchaf yng nghyswllt pedwar ohonynt.

Caiff safleoedd Cymru ar gyfer pob un o’r dimensiynau eu rhestru isod, o’r dimensiwn lle gwnaeth Cymru orau gan gyrraedd ei safle uchaf i’r dimensiwn lle gwnaeth Cymru waethaf gan gyrraedd ei safle isaf.

  • Yng nghyswllt y dimensiwn Llywodraethu y perfformiodd Cymru orau; cafodd ei gosod yn y 19eg safle o blith 50 cenedl, gyda sgôr o 60.6; ac yng nghyswllt un o briodoleddau’r dimensiwn hwnnw y gosodwyd Cymru yn ei safle uchaf, sef yng nghyswllt “cael ei llywodraethu’n gymwys ac yn onest” (17eg safle). 
  • Yng nghyswllt y dimensiwn Mewnfudo a Buddsoddi y perfformiodd Cymru orau wedyn; cafodd ei gosod yn yr 20fed safle, gyda sgôr o 57.9.
  • Yng nghyswllt y dimensiwn Pobl, cafodd Cymru ei gosod unwaith eto yn yr hanner uchaf o blith y cenhedloedd a fesurwyd, yn yr 21ain safle, gyda sgôr o 63.5.
  • Cafodd Cymru ei gosod yng nghanol y mynegai ar gyfer Twristiaeth, yn safle 25ain, gyda sgôr o 64.4. Yng nghyswllt un o briodoleddau’r dimensiwn hwn y cafodd Cymru ei gosod yn ei safle isaf yn gyffredinol, sef “bywyd dinesig bywiog” (31ain safle). 
  • Cafodd Cymru ei gosod yn y 26ain safle ar gyfer Allforion, gyda sgôr o 54.4.
  • Y dimensiwn lle gosodwyd Cymru yn ei safle isaf oedd Diwylliant, a chyfrannodd ei sgôr isel o gymharu â chenhedloedd eraill ar gyfer “rhagori ym maes chwaraeon” at ei gosod yn y 29ain safle, gyda sgôr gyffredinol o 57.9.

Canfyddiadau Cymru o Gymru

Cafodd 500 o ymatebwyr ymhlith y boblogaeth ar-lein sydd yng Nghymru yr un cwestiynau â’r gwledydd panel craidd.

  • Cafodd Cymru ei gosod yn yr 2il safle yn gyffredinol gan yr ymatebwyr o Gymru, y tu ôl i’r DU a oedd yn 1af ac o flaen yr Alban a oedd yn 3ydd.
  • ran ffafrioldeb, cafodd Cymru ei gosod ganddi ei hun yn 1af, gyda sgôr o 6.4.
  • Cafodd Cymru ei gosod ganddi ei hun yn y 3 uchaf o blith 50 cenedl ar gyfer pob un o’r chwe dimensiwn, a rhoddodd y sgôr uchaf iddi ei hun (sef 79.5) a’i gosod ei hun yn 1af yn gyffredinol ar gyfer Pobl. Rhoddodd y sgôr isaf iddi ei hun (sef 70.0) a’i gosod ei hun yn 3ydd, sef y safle isaf, ar gyfer Allforion.
  • Prif bryder Cymru ar lefel fyd-eang oedd gwarchod a diogelu’r amgylchedd (42%).

Manylion cyswllt

Ymchwilydd: Kate Mulready
Rhif Ffôn: 0300 025 1481
E-bost:  ystadegau.masnach@llyw.cymru / ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 60/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-934-6

Image
GSR logo