Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 22 Mehefin 2021, cyhoeddais y byddai prosiectau adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi, tra bo adolygiad o gynlluniau priffyrdd ledled Cymru yn cael ei gynnal.

O ystyried statws presennol y cynlluniau gwella cyffyrdd wrth gyffyrdd 14/15 ac 16/16A yr A55, rwyf wedi penderfynu y dylid gohirio'r Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus i'r cynlluniau y bwriadwyd iddynt ddechrau ddydd Mawrth 21 Medi 2021, hyd nes y rhoddir rhybudd pellach fel y gall y cynlluniau fod yn rhan o Adolygiad Llywodraeth Cymru o Ffyrdd. Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn cyngor gan swyddogion a'r cymhlethdodau a allai fod wedi codi o ganlyniad.

Rwy’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir gan ohirio'r Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus ac am yr oedi cyn darparu'r hysbysiad hwn.

Bydd y penderfyniad Gweinidogol mewn perthynas ag argymhellion Adolygiad Llywodraeth Cymru o Ffyrdd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Gofynnwyd i'r Panel Adolygu Ffyrdd ddarparu eu barn ar y prosiect hwn fel blaenoriaeth ar ôl cytuno ar y meini prawf gwerthuso o amgylch y garreg filltir 3 mis. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartïon sydd wedi bod yn rhan o'r broses ymchwilio statudol hyd yma am eu cydweithrediad.