Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, hoffwn hysbysu'r aelodau bod adroddiad terfynol Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru: Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru wedi'i gyhoeddi. Mae'r adroddiad yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer creu model cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid, ac yn adeiladu ar adroddiad cychwynnol y Bwrdd, a gyhoeddwyd ar 11 Ionawr eleni. 

Mae clywed ac ymateb i farn pobl ifanc yn hollbwysig i mi. Rydw i wrth fy modd fod y Bwrdd wedi parhau i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd ystyrlon drwy gydol y broses o ddatblygu ei adroddiad terfynol. Mae’r Pwyllgor Pobl Ifanc wedi bod yn rhan o'r broses ac mae clip fideo a deunyddiau eraill sy'n esbonio argymhellion yr adroddiad i bobl ifanc wedi'u rhoi ar wenfan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae'r Bwrdd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i wasanaethau gwaith ieuenctid. Mae hynny'n amlwg o’r hinsawdd o gydweithio y mae wedi’i hysgogi ar draws y sector, y momentwm newydd i waith ieuenctid, yn ogystal â'r cymorth hanfodol a ddarparodd y Bwrdd i bobl ifanc yn ystod y pandemig.

Croesawaf yr adroddiad ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Cadeirydd, Keith Towler, aelodau'r Bwrdd, Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth, y sector gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol ehangach a'r Pwyllgor Pobl Ifanc am eu cyfraniadau gwerthfawr, a'u hymroddiad i wella gwasanaethau gwaith ieuenctid a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.  

Hoffwn ddiolch hefyd i'r sector gwaith ieuenctid am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y pandemig. Rwy’n cydnabod y trafferthion aruthrol y mae'r sector wedi'u hwynebu yn ystod y cyfnod hwn ac mae'r ffordd y mae wedi parhau i addasu ac esblygu ei wasanaethau i gefnogi pobl ifanc wedi gwneud argraff arnaf. Mae'r sector wedi gwirioneddol ddangos pwysigrwydd gwasanaethau gwaith ieuenctid arloesol yng Nghymru a’r angen amdanynt.

Ym mis Mehefin cefais gyfarfod gyda Chadeirydd y Bwrdd, i drafod yr argymhellion, sy’n uchelgeisiol a heriol. Rwyf eisiau rhoi’r ystyriaeth lawn a gofalus y maent yn ei haeddu i’r argymhellion ac felly byddaf yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad ddiwedd y flwyddyn hon. Yn ystod y cyfnod hwn bydd fy swyddogion yn canolbwyntio ar gynnal adolygiad o bob argymhelliad a byddant yn parhau i gydweithio â'r sector a phobl ifanc wrth iddynt ystyried y camau nesaf. 

Hefyd, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo sy’n gydnaws ag ysbryd yr argymhellion. Mae hyn yn cynnwys dwyn dwy ardal awdurdod lleol at ei gilydd i weithio ar wella'r ddarpariaeth o wasanaethau gwaith ieuenctid yn y Gymraeg, a gweithio gyda Chyngor Addysg Cymru i sicrhau bod addysg gwaith ieuenctid a chyfleoedd gwaith yn y maes yn rhan o wefan Addysgwyr Cymru, a bod cofrestru a materion diogelwch o safbwynt gwaith ieuenctid yn cael ei drin yn gyfartal â rhannau eraill o'r sector addysg. Yn ogystal, gan adlewyrchu galwad yr adroddiad i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid i ymateb i'r heriau niferus sy'n wynebu pobl ifanc, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â’r cyni cyllidol sy’n parhau a'r adferiad ar ôl y pandemig, cyhoeddais £2.5m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn 2021-22 ar 7 Medi. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc, yn gymorth emosiynol, cymorth â’u hiechyd meddwl ac â’u lles, a hynny drwy waith ar y cyd gan awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol. Bydd y cyllid yn cynnig help i bobl ifanc sy'n agored i niwed neu o dan anfantais, gan ymateb i’r anghydraddoldebau cynyddol sy’n deillio o’r pandemig. Bydd y rhaglenni’n cynyddu gwasanaethau ymyriad cynnar ac atal problemau ym maes iechyd meddwl a lles. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol, fel rhan annatod o dderbyn y cyllid, sicrhau eu bod yn gweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl lleol eraill i ychwanegu gwerth at wasanaethau presennol. 

Ar hyn o bryd rwy’n ystyried opsiynau ar gyfer trefniadau olynu gwaith y Bwrdd i barhau heb oedi, yn enwedig felly’r ymgysylltiad â'r sector wrth fynd ati i ddatblygu polisïau sy'n ymwneud â gwasanaethau gwaith ieuenctid.  Mae’n hanfodol fod y sector yn cymryd rhan weithredol os ydym am yrru'r weledigaeth hon yn ei blaen ac yn y pen draw ddarparu'r gwasanaethau effeithiol, cynhwysol a chynaliadwy y mae pobl ifanc Cymru yn eu haeddu. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn y Strategaeth Gwaith Ieuenctid ac edrychaf ymlaen at gydweithio â'r Bwrdd, y sector gwaith ieuenctid a phobl ifanc yn ystod y misoedd nesaf. 

Adroddiad Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru: adroddiad terfynol | LLYW.CYMRU 

Adroddiad Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: beth yw dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru?: ffeithlun i bobl ifanc | LLYW.CYMRU