Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Minister for Health and Social Services

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Athro Marcus Longley yn rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddiwedd y mis hwn, ar ôl pedair blynedd yn y swydd.  Ni fu'n bosibl penodi olynydd yn dilyn yr ymgyrch recriwtio ddiweddar, ac felly rwyf wedi gofyn i Emrys Elias wneud y swydd am 18 mis. Rwy'n falch iawn ei fod wedi cytuno i ymgymryd â'r swydd o 1 Hydref 2021.

Ar hyn o bryd Mr Elias yw Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae ganddo brofiad sylweddol o arwain o fewn y GIG.  Ar ôl cael ei hyfforddi’n Nyrs Iechyd Meddwl, bu’n gwneud nifer o uwch-swyddi clinigol a rheoli ar lefel weithredol, lefel strategol a lefel Bwrdd hyd at ei ymddeoliad yn 2016, pan oedd yn Gyfarwyddwr Uned Gyflawni GIG Cymru. 

Mae gan Mr Elias ddiddordeb arbennig mewn gweithio amlasiantaeth a'r canlyniadau y mae modd eu cyflawni, ac mae wedi ymgymryd â sawl prosiect a sawl adolygiad cenedlaethol a lleol o wasanaethau yn y maes gwaith hwn.  Bu hefyd yn cynghori’r Llywodraeth ac yn arwain yr adolygiad cenedlaethol o Ddull Gweithredu’r Rhaglen Ofal ym maes Iechyd Meddwl. Dylanwadodd canlyniadau’r adolygiad hwnnw ar ddull gweithredu’r Mesur Iechyd Meddwl.

Mae angen arweinyddiaeth gref a phrofiadol ar holl gyrff y GIG yng Nghymru, ond mae hyn hyd yn oed yn bwysicach i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oherwydd ei statws uwchgyfeirio presennol, ynghyd â'r heriau ychwanegol y mae sefydliadau'n eu hwynebu wrth ddelio ag effaith y pandemig.  Er bod cynnydd da wedi'i wneud ers mis Ebrill 2019, mae llawer i'w wneud o hyd i ddatblygu'r sefydliad o dan arweinyddiaeth y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr.

Cychwynnir proses ffurfiol maes o law i benodi cadeirydd parhaol drwy gystadleuaeth agored.