Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 21 Medi 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu COVID-19 i Gymru ar 11 Ionawr 2021. Ynghyd â’r diweddariadau isod, mae’n amlinellu manylion Rhaglen Frechu Cymru.

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Chwefror 2021 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mawrth 2021 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Mehefin 2021 

Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
     
  • Ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol.
     
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Gwnaethpwyd pedwar cyhoeddiad ers y diweddariad diwethaf, sef: 

  • cyngor ar drydydd dos o’r brechlyn i unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig 
  • cyngor ar frechu unigolion 12-15 oed
  • cyngor ar yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu 
  • diweddariad ar y Pàs COVID

Cyngor ar drydydd dos o’r brechlyn ar gyfer unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig 

Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyngor ar gyfer unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig. Cyngor y Cyd-bwyllgor yw y dylid cynnig trydydd dos o’r brechlyn i unigolion sy’n 12 oed neu’n hŷn ac yn ddifrifol imiwnoataliedig pan gawsant unrhyw un o’r ddau ddos cyntaf. Y rheswm dros hyn yw na fydd rhai unigolion sydd â system imiwnedd gwannach o ganlyniad i gyflwr iechyd neu driniaeth feddygol yn cynhyrchu ymateb imiwnedd llawn i’r brechlyn COVID-19. Cyngor y Cyd-bwyllgor yw rhoi brechlyn mRNA ar gyfer y trydydd dos, ac mae gennym gyflenwad da o’r brechlyn Pfizer BioNTech yn barod. Bydd y Cyd-bwyllgor yn adolygu a oes angen i unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig gael dos atgyfnerthu ar ôl cwblhau’r cwrs tri dos cychwynnol o’r brechlyn.

Bydd y GIG yn gweithio’n gyflym i adnabod unigolion cymwys sy’n ddifrifol imiwnoataliedig a byddant yn cael apwyntiad yn awtomatig ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw yn ystod eu cynllun triniaeth. 

Cyngor ar frechu unigolion 12-15 oed

Mae 4 Prif Swyddog Meddygol y DU wedi argymell y dylai plant a phobl ifanc 12-15 oed nad ydynt eisoes yn dod o dan gyngor blaenorol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech. 

O ran plant a phobl ifanc 12-15 oed nad oes ganddynt gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, dywedodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ddiweddar fod manteision brechu ychydig yn fwy na’r niwed posibl y gwyddom amdano. Ond o safbwynt manteision iechyd i unigolion, nid oeddent o’r farn bod y manteision yn ddigon iddynt argymell rhaglen frechu gyffredinol. 

Roedd y Cyd-bwyllgor o’r farn bod materion ehangach i’w hystyried, materion nad yw’r Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am eu gwerthuso o fewn ei gylch gwaith, er enghraifft, materion addysgol ac iechyd meddwl, ac argymhellwyd mai 4 Prif Swyddog Meddygol y DU sydd yn y lle gorau i gynghori ar hyn. 

Ar ôl ystyriaeth ofalus gan 4 Prif Swyddog Meddygol y DU, a chyngor pellach gan iechyd y cyhoedd ac uwch glinigwyr annibynnol ar draws y DU, teimlwyd bod y manteision tebygol ychwanegol o leihau’r tarfu addysgol, a'r gostyngiad canlyniadol o ran niwed i iechyd y cyhoedd yn cynnig digon o fantais ychwanegol i argymell o blaid brechu'r grŵp oedran hwn. 

Bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn gweithio yn ystod yr wythnosau nesaf i ddechrau cynnig dos o frechlyn i bob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed. Mae gennym fodel cyfunol o gynnig y brechlyn gyda'r holl fyrddau iechyd yn gwahodd y grŵp oedran hwn i ganolfannau brechu yn bennaf gyda rhai ardaloedd yn mynd drwy ysgolion.

Nid yw'r brechlyn yn orfodol a gall pobl ddewis a ydynt am gael y brechlyn ai peidio. Bydd gwybodaeth briodol ar gael i blant a phobl ifanc a'u rhieni i'w helpu i wneud penderfyniad ynghylch cael y brechlyn. Mi fydd gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod gyda'i gilydd a ddylid cael y brechiad ai peidio. 

Yn y sefyllfaoedd prin pan na fydd pobl ifanc a’u rhieni’n cytuno am fanteision y brechlyn, byddwn yn dilyn y gyfraith ac arferion gorau yn ymwneud â pharchu hawliau plant a chyfrifoldeb y rhiant. Efallai y bydd hyn yn cynnwys trafodaethau clinigol gyda’r unigolion a nodi cymhwysedd Gillick, fel y bo’n briodol, sef yr arfer safonol ar gyfer gweinyddu brechlynnau eraill.

Mae prawf Gillick yn nodi os oes gan blentyn o dan 16 oed ddigon o ddealltwriaeth a deallusrwydd i ddeall yr hyn a gynigir, y gellir rhoi gofal a thriniaeth iddo heb ganiatâd y rhiant.

Cyngor ar yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ar gam nesaf y rhaglen frechu COVID-19 – ymgyrch pigiadau atgyfnerthu’r hydref.

Mae’r Cyd-bwyllgor yn argymell y dylai unigolion a oedd yn gymwys ac wedi cael y brechlyn yng Ngham 1 y rhaglen frechu COVID-19 (grwpiau blaenoriaeth 1-9) gael cynnig dos o’r pigiad atgyfnerthu COVID-19 o leiaf 6-mis ar ôl yr 2il ddos. Argymhellir rhoi brechlyn mRNA (Pfizer-BioNTech neu Moderna) waeth pa frechlyn a roddwyd fel dos cyntaf.  

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

  • Pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn 
  • Pob oedolyn 50 oed neu hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Unigolion 16 i 49 oed â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes sy’n eu rhoi mewn perygl uwch o ddioddef canlyniadau difrifol o ganlyniad i COVID-19 (fel y nodwyd yn y Llyfr Gwyrdd), a gofalwyr oedolion 
  • Oedolion sy’n dod i gysylltiad ag unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig yn y cartref 

Rydym wedi bod yn cynllunio’r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu gyda byrddau iechyd dros fisoedd yr haf. Mae’r GIG yng Nghymru’n barod ac wedi dechrau cynnig brechlyn atgyfnerthu i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Oherwydd bod y rhan fwyaf o oedolion ifanc wedi cael ail ddos y brechlyn COVID-19 ar ddiwedd yr haf, bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried brechlyn atgyfnerthu ar gyfer y grŵp hwn yn nes ymlaen, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael. 

Efallai y bydd cyfleoedd i gynnig y brechlyn COVID-19 a’r brechlyn rhag y ffliw ar yr un pryd, ond dim ond os yw amseru a logisteg yn caniatáu. 

Mae brechlynnau COVID-19 yn rhoi lefelau uchel o ddiogelwch rhag derbyn i’r ysbyty neu farw o ganlyniad i’r feirws. Nod yr ymgyrch frechlynnau atgyfnerthu yw lleihau unrhyw achosion pellach o COVID-19 a sicrhau’r diogelwch mwyaf ar gyfer y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn sgil yr haint, cyn misoedd y gaeaf. 

Mae’n bwysig bod y rheini sy’n gymwys yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn cael dos atgyfnerthu o’r brechlyn COVID-19, pan fyddant yn cael eu galw i ddod i apwyntiad, gan fod posibilrwydd y bydd yr imiwnedd a grëwyd gan eu dosau blaenorol yn lleihau dros amser. 

Statws brechu COVID-19

Yn ei ddatganiad adolygu 21 diwrnod, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai’r Pàs Covid yn orfodol ar gyfer pawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs Covid digidol y GIG.

Daw’r cynllun gorfodol i rym yng Nghymru ar 11 Hydref. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio eich pàs yn barod drwy ddefnyddio system ddigidol y GIG sy’n eich galluogi i ddangos Pàs COVID ar ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur. Gallwch weld eich pàs gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/ 

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:

  • yn darparu dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • dos cychwynnol ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed
  • dosau cyntaf ar gyfer plant 12-15 oed 
  • ail ddos i bawb sy’n gymwys
  • trydydd dos ar gyfer unigolion imiwnoataliedig
  • dosau atgyfnerthu ar gyfer yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed
  • crynodeb o’n cynnydd cyffredinol
  • dechreuodd yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu yng Nghymru dros y penwythnos
  • preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru oedd y cyntaf yn y DU i gael eu brechlyn atgyfnerthu COVID-19. Rhoddodd y timau brechu symudol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bigiad atgyfnerthu i breswylwyr mewn cartref gofal yn Nhreorci ddydd Sadwrn
  • mae cyfanswm o fwy na 4.5 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • mae cyfran fawr o bobl wedi manteisio ar y dosau cyntaf a’r ail ddosau yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed
  • mae mwy na 2.38 miliwn o bobl wedi cael dos cyntaf a mwy na 2.2 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn y brechlyn
  • mae 77% o oedolion 18-29 oed a 78% o oedolion 30-39 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • mae 70% o unigolion 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • bydd gwahoddiadau’n cael eu hanfon at blant a phobl ifanc 12-15 oed yr wythnos hon
  • y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol ac atal yr haint rhag lledaenu

Rhagor o wybodaeth

Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 ac anogir pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID-19 – gallwch ddarllen ei ddatganiad yma: Y Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.