Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Simon Jenkins, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Helen Carey, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Tom Smithson, COVID-19, Ailgychwyn
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol
  • Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Twristiaeth

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 29 Gorffennaf a 2 Awst.

Item 2: Review of CoronavirusEitem 2: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) - 26 Awst 2021 Restrictions (No. 5) Regulations – 26 August 2021

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a argymhellodd y dylai Cymru aros ar Lefel Rhybudd 0 am y cyfnod adolygu presennol.

2.2 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 o fewn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd atal a diogelu rhag haint, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn yr oeddent yn ceisio ei gyflawni.

2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi trosolwg o'r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd.

2.4 Roedd cyfraddau trosglwyddiad yn y gymuned yn parhau i gynyddu yng Nghymru ac roedd nifer yr achosion ymhlith pobl dros 60 oed hefyd yn codi. Roedd y cyfartaledd saith niwrnod cyffredinol yn rhyw 208 i bob 1000,000 o'r boblogaeth. Roedd disgwyl i nifer y bobl a oedd yn cael eu heintio gynyddu yn yr wythnosau nesaf pan fyddai myfyrwyr yn dychwelyd i ysgolion a cholegau.

2.5 Roedd derbyniadau i ysbytai ac i ICU yn cynyddu'n araf, ond roedd hyn yn dal yn weddol sefydlog. Roedd y rhaglen frechu'n parhau ar fyrder, ond roedd angen hwb i ymestyn allan i'r rhai sy'n gyndyn o gael y brechlyn.

2.6 Dywedodd Prif Weithredwr y GIG fod pob un o'r byrddau iechyd yn dal o fewn y modelu gweithredol presennol ar gyfer y pandemig, er gwaethaf pwysau parhaus.

2.7 O gofio'r adroddiadau am y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, cytunodd y Cabinet y dylai Cymru aros ar Lefel Rhybudd 0 am y cyfnod adolygu presennol.

2.8 O ran yr argymhellion yn y papur ynghylch gorchuddion wyneb, cytunodd y Cabinet i ddileu'r amryfusedd lle'r oedd yn ofynnol i bobl wisgo masg mewn priodas neu seremoni partneriaeth sifil ond lle gallent ei dynnu wedyn ar gyfer y derbyniad.

2.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.