Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru, y corff trydydd sector 'Settled' a’r cyfreithwyr sy’n arbenigo ar fewnfudo, Newfields Law, i barhau i roi cymorth i ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd, ynghyd â gwladolion o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, sy'n dymuno parhau i fyw a gweithio yng Nghymru. Bydd y cymorth yn parhau tan o leiaf 31 Mawrth 2022.

Ers mis Mehefin 2019, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn o gymorth am ddim i'r dinasyddion hynny o'r UE sy'n dymuno aros yma. Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod dinasyddion yr UE sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru yn parhau i deimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o'n cymunedau, ac rydym am i bob dinesydd gael sicrwydd bod Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn genedl groesawgar. Wrth barhau i ddarparu'r cymorth hwn, rwy'n gobeithio bod pawb wedi’i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog dinasyddion yr UE i aros.

Mae'r cymorth hyd yma wedi golygu bod dinasyddion yr UE ac aelodau o’u teuluoedd wedi gallu cael gafael ar gymorth digidol â’u ceisiadau am statws sefydlog, wedi cael help ag ymholiadau sylfaenol am gymhwysedd, wedi cael cyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle ac wedi cael cyngor arbenigol am ddim ynghylch mewnfudo.

Ers dechrau’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) mae dros 99,000 o geisiadau wedi'u gwneud gan drigolion Cymru ac mae llawer o'r unigolion hynny wedi cael rhyw fath o gymorth wrth gwblhau eu ceisiadau. Ers mis Mehefin 2019 mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi rhoi cymorth i 2,846 o unigolion, wedi delio ag 11,172 o ymholiadau ac wedi cynorthwyo ag 1,699 o geisiadau EUSS. Yn ogystal, mae Newfields Law wedi rhoi cymorth i fwy na 500 o unigolion ers mis Ebrill 2021.

Er mai 30 Mehefin 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r EUSS, rydym yn gwybod bod angen sylweddol o hyd am gymorth. Mae hyn bellach yn fwy na chymorth â cheisiadau EUSS – mae hefyd yn cynnwys ceisiadau hwyr, apeliadau yn erbyn gwrthod ceisiadau, troi statws cyn-sefydlog yn statws sefydlog, ceisiadau i ymuno ag aelodau o'r teulu, hawliau a hawlogaethau, a rhannu gwybodaeth yn gyffredinol. O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen i’r cymorth barhau i gael ei ddarparu tan o leiaf 31 Mawrth 2022 a bydd yn parhau i ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law.

At hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dal i hwyluso cyfarfodydd Grŵp Cydgysylltu Cymru y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae'r Grŵp hwn yn dwyn ynghyd sefydliadau allanol y trydydd sector a ariennir gan y Swyddfa Gartref, ynghyd â phartneriaid ac asiantaethau cyflenwi allweddol eraill i gefnogi a chydlynu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor a chymorth EUSS yn llwyddiannus yng Nghymru. Amcanion parhaus y Grŵp yw:

  • Rhannu adroddiadau ar waith y sefydliadau cefnogi, gan gynnwys o ran arferion gorau a materion sy’n gysylltiedig ag EUSS;
  • Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o EUSS a sut y cyfranogir yn y cynllun;
  • Sicrhau bod dinasyddion yn gallu manteisio i’r eithaf ar EUSS yng Nghymru drwy ymgyrch gyhoeddusrwydd wedi’i thargedu;
  • Sicrhau bod gwasanaethau cynghori EUSS cyson ar gael yng Nghymru, a bod y lefel gywir o gymorth wedi'th thargedu at y bobl gywir;
  • Canfod unrhyw fylchau yn y darpariaethau sy’n cal eu cefnogi ar hyn o bryd a helpu  Llywodraeth Cymru/y Swyddfa Gartref i ddod o hyd i atebion i oresgyn unrhyw faterion.