Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar H5N1 mewn dofednod ac adar gwyllt mewn eiddo yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae parthau Rheoli Clefydau Dros Dro o 3km a 10km wedi'u gosod o amgylch yr eiddo bach sydd wedi’i heintio, i gyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd. Mae ymchwiliad milfeddygol ar y gweill, fodd bynnag, mae adar gwyllt marw sydd wedi’u darganfod yn yr ardal wedi profi'n bositif am y feirws a chredir mai hwy yw ffynhonnell yr haint.

Ystyrir bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac nid yw'r achosion hyn yn peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

Anogir aelodau'r cyhoedd i beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw ac yn lle hynny cysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Roedd yr achos diwethaf o ffliw adar i’w gofnodi yng Nghymru ym mis Ionawr eleni. Daw cadarnhad heddiw yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau tebyg o ffliw adar yn y DU ac Ewrop.

Cynghorir unrhyw geidwaid adar i fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd, fel mwy o farwolaethau neu ofid resbiradol. Os oes gan geidwaid unrhyw bryderon am iechyd eu hadar, cânt eu hannog i ofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

“Mae Ffliw Adar wedi ei ddarganfod mewn dofednod ac adar gwyllt yn ardal Wrecsam. Mae hyn yn dystiolaeth bellach o'r angen am i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth i sicrhau bod ganddynt y lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi nodi’n glir nad yw’n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

“Mae parthau rheoli dros dro wedi’u gosod i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

“Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw amheuaeth o ffliw adar neu unrhyw glefyd arall y dylid hysbysu amdano.”

Mae mwy o wybodaeth am sut i roi gwybod am adar gwyllt marw a chael gwared arnynt ar gael yn Adrodd a gwaredu aderyn marw ar LLYW.CYMRU