Yn nodi sut y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd o ran lles anifeiliaid ers i’r pwerau gael eu datganoli yn 2006.
Dogfennau
Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 515 KB
Manylion
Ein huchelgais yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da. Yn ystod y tymor hwn, byddwn yn cyflwyno ystod eang o bolisïau i gynnal y momentwm o ddiwygio ar gyfer anifeiliaid fferm, dof ac anifeiliaid eraill sy’n cael eu cadw.
Byddwn yn cyflwyno'r cynllun mewn ffordd gydgysylltiedig. Gwneir hyn ochr yn ochr â chynlluniau gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.
