Neidio i'r prif gynnwy

Hoffech chi ein helpu i lywio dyfodol economaidd Cymru? Mae Llywodraeth Cymru bellach yn chwilio am ystod eang o bobl gydag amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol i fod yn rhan o fwrdd a fydd yn cynghori Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar Gymru, ynghyd â gweddill y byd. Mae’r pandemig wedi newid y ffordd rydym i gyd yn byw ac yn gweithio, yn ogystal â’r ffordd y mae ein busnesau’n gweithredu. Ochr yn ochr â hyn, mae Cymru’n wynebu heriau newydd a chanlyniadau sy’n deillio o’r DU yn gadael yr UE, ac mae argyfwng hinsawdd byd-eang wedi cyrraedd trobwynt.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn ymrwymedig i greu dyfodol economaidd cryfach, gwyrddach a thecach i Gymru. Mae am ddilyn polisi economaidd blaengar sy’n canolbwyntio ar swyddi gwell, lleihau'r gagendor sgiliau a mynd i’r afael â thlodi. Fel rhan o’i waith i symud economi Cymru ymlaen, mae Gweinidog yr Economi’n edrych am wynebau newydd er mwyn helpu i gynnig a datblygu syniadau newydd.

I ddatblygu hyn mae Llywodraeth Cymru’n edrych am ystod eang o bobl gyda phrofiadau gwahanol i ymuno â’i Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Bolisi Economaidd.

Bydd aelodau’r bwrdd yn cymryd rhan yn y broses o adolygu’r gwaith sydd angen ei wneud i symud economi Cymru ymlaen ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni hyn i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am bobl o bob oedran – myfyrwyr a phobl ifanc, y rhai hynny gyda phrofiad o weithio yn y trydydd sector; y rhai hynny gyda phrofiad entrepreneuraidd yn ogystal ag academyddion. Hoffwn i’n cymdeithas Gymraeg hollol amrywiol gael ei chynrychioli’n llawn ar y Bwrdd ac rydym hefyd yn awyddus i glywed gan y rhai hynny sy’n angerddol dros Gymru, sydd ar hyn o bryd yn byw ar draws y ffin.

Gofynnir i’r bobl a ddewisir i fod yn rhan o Fwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar yr Economi roi cyngor rheolaidd, creadigol ac o’r radd flaenaf i Weinidog yr Economi er mwyn helpu i wella lles economaidd Cymru. Bydd angen iddynt ymateb i geisiadau Gweinidogion a helpu i brofi cynigion yn y byd go iawn. Byddant yn rhan o’r ymdrech i ddysgu mwy am wledydd a rhanbarthau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol. Byddant hefyd yn helpu i benderfynu sut gallai’r profiad hwn lywio polisïau Cymru.

Rydym yn edrych am bobl sy’n gynhwysol, yn agored i syniadau ac sy’n parchu barn aelodau eraill; sy’n gallu cyflwyno heriau ymarferol ac annog eraill i gyfrannu at y drafodaeth. Hoffwn gael pobl a fydd yn cyflwyno’u sgiliau a’u profiadau eu hunain ond bydd hefyd yn ymgynghori ag eraill i lywio eu cyfraniadau at drafodaethau. Mae hefyd angen pobl arnom a fydd yn parchu natur sensitif, ac o bosibl cyfrinachol, y materion y bydd yn cael eu hystyried.

Bydd angen i aelodau’r bwrdd ddangos ymrwymiad ac ymroddiad i’r materion y mae Cymru’n eu hwynebu, gan gynnwys dealltwriaeth ohonynt, wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

Ydych chi’n addas? Os ydych, ewch i Penodi Aelod: Bwrdd Cynghori Gweinidogol (BCG) (tal.net) er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn.