Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r canllawiau hyn yn anstatudol ac maent wedi'u bwriadu ar gyfer awdurdodau derbyn, cyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol, paneli apeliadau derbyn a fforymau derbyn. Diben y canllawiau yw amlygu newidiadau i'r gyfraith yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion ar sail Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ("Deddf 2018"), nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y Cod Derbyn i Ysgolion ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd fersiwn gyfredol y Cod hwnnw yn 2013 a gellir ei weld ar cod derbyn i ysgolion.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae Deddf 2018 yn sefydlu’r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol ("ADY") plant a phobl ifanc ("y system ADY"). Mae'n disodli'r system ar gyfer diwallu anghenion addysgol arbennig ("AAA") plant mewn ysgolion, ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach.

O dan y system ADY, mae gan blant a phobl ifanc sydd ag ADY gynllun statudol (y cynllun datblygu unigol), sy'n disodli'r amrywiaeth o gynlluniau statudol ac anstatudol (gan gynnwys datganiadau AAA) o dan y systemau AAA ac AAD. Mae'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill, ynglŷn ag arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf 2018. Mae'n pennu gofynion ar eu cyfer hefyd.

Dechreuodd y gwaith o weithredu Deddf 2018 ar 1 Medi 2021. Mae'r system ADY yn cael ei chyflwyno'n raddol dros gyfnod o 3 blynedd hyd at haf 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system ADY yn bodoli ochr yn ochr â'r system AAA, a bydd y system AAA (gan gynnwys datganiadau) yn cael ei dileu'n raddol wrth i ddysgwyr symud i'r system ADY.

Mae'r Cod Derbyn i Ysgolion yn cynnwys cyfeiriadau amrywiol at agweddau ar y system AAA. Mae'r cyfeiriadau hyn yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod y cyfnod gweithredu, gan fod y system AAA yn parhau i fod yn berthnasol i rai dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Newidiadau i'r gyfraith ar dderbyniadau o ganlyniad i'r system ADY

Mae'r newidiadau a nodir isod yn newidiadau i'r gyfraith, felly mae angen cydymffurfio â nhw, er gwaethaf y ffaith nad yw'r Cod Derbyn i Ysgolion yn cyfeirio atynt. Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â darpariaethau perthnasol y Cod hwnnw wrth aros am unrhyw ddiwygiadau i'r Cod hwnnw.

Dyletswydd i dderbyn plentyn sydd â chynllun datblygu unigol i ysgol a gynhelir

O 1 Medi 2021, mae adran 48 o Ddeddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru dderbyn plentyn i'r ysgol os enwir yr ysgol yng nghynllun datblygu unigol y plentyn at ddibenion yr adran honno, sef sicrhau bod y plentyn yn cael ei dderbyn i'r ysgol. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol er gwaethaf y cyfyngiad ar feintiau dosbarthiadau babanod a hyd yn oed pe bai derbyn y plentyn yn golygu bod yr ysgol yn mynd y tu hwnt i nifer y disgyblion y mae hawl iddi eu derbyn. Mae'r ddyletswydd i dderbyn yn berthnasol bob amser, gan gynnwys os yw ysgol wedi'i henwi mewn cynllun y tu allan i'r cylch derbyn arferol.

Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gall ysgolion gael eu henwi at ddiben sicrhau bod disgybl yn cael ei dderbyn, felly ni fydd pob cynllun datblygu unigol yn enwi ysgol fel hyn. Os enwir ysgol at y diben hwn, fe'i henwir yn adran 2D.1 y cynllun datblygu unigol.

Os enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben sicrhau bod disgybl yn cael ei dderbyn, nid yw'r darpariaethau derbyn yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn berthnasol yn gyffredinol.[1] 

Os yw plentyn neu riant y plentyn yn dymuno apelio yn erbyn yr ysgol a enwir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn at ddiben sicrhau ei fod yn cael ei dderbyn, neu'r ffaith nad oes unrhyw ysgol wedi'i henwi ar y cynllun, rhaid apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae paragraffau 12.100 a 23.54 i 23.59 o'r Cod ADY yn ymdrin â'r pŵer i enwi ysgol at ddiben sicrhau bod plentyn yn cael ei dderbyn, a dyletswydd corff llywodraethu ysgol a enwir i dderbyn plentyn. Mae Pennod 23 yn ymdrin yn gyffredinol â chynnwys cynlluniau datblygu unigol, ac mae Atodiadau A a B yn cynnwys y ffurflenni safonol ar gyfer cynlluniau datblygu unigol. Mae Pennod 33 yn ymdrin ag apeliadau o dan Ddeddf 2018.

[1] Adran 98(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 7(3) o’r Atodlen i Ddeddf 2018.

Disgyblion a eithrir at ddibenion y cyfyngiadau ar feintiau dosbarthiadau babanod

Mae paragraffau 3.45 i 3.50 o'r Cod Derbyn i Ysgolion yn ymdrin â'r rheolau ar gyfyngiadau ar feintiau dosbarthiadau babanod. Mae paragraff 3.48 yn nodi'r rhestr o ddisgyblion a eithrir nad ydynt, o dan rai amgylchiadau, i'w cyfrif at ddibenion y cyfyngiad ar feintiau dosbarthiadau babanod.

O 1 Medi 2021, mae'r canlynol yn ddisgyblion sydd wedi’u heithrio hefyd:[2]

  • plant a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol oherwydd bod eu cynllun datblygu unigol yn enwi'r ysgol at ddiben sicrhau eu bod yn cael eu derbyn
  • plant ag ADY sydd fel arfer yn cael eu haddysgu mewn uned arbennig mewn ysgol brif ffrwd, ond sy'n derbyn rhan o'u gwersi mewn dosbarth nad yw'n gysylltiedig â darpariaeth arbennig

[2] Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021, rheoliad 4.