Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deunyddiau adeiladu – llwyddiant cyflogaeth

Mae cyflenwr ar ein fframwaith deunyddiau adeiladu wedi bod yn helpu pobl ifanc i gael cyfleoedd hyfforddi a gwaith drwy gynllun y Llywodraeth.

Trodd LBS Builders Merchants at gynllun Kickstart y Llywodraeth yn gynharach yn 2021. Mae'r Cynllun Kickstart yn helpu cyflogwyr, drwy ddarparu cyllid iddyn nhw greu lleoliadau gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.

Dywedodd cynrychiolydd o LBS Builders Merchants:

"Rydym yn hapus i gadarnhau bod cynllun Kickstart y Llywodraeth yn llwyddiant parhaus i ni yma yn LBS Builders Merchants. 

Ar adeg ysgrifennu, fel busnes, mae gennym 31 o hyfforddeion Kickstart o fewn ein sefydliad ar hyn o bryd; mae 12 ohonynt eisoes wedi cael cynnig swyddi parhaol drwy’r busnes ar draws de Cymru. Afraid dweud ein bod wedi gweld bod y cynllun hwn o fudd mawr i ni.

Mae ein hadran hyfforddi wedi gwneud gwaith rhagorol yn gweithio gyda'r holl hyfforddeion ar y cynllun, gan gyflawni ein hymrwymiad i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith addas yn ein diwydiant."

Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid drwy'r cynllun, tan 17 Rhagfyr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Cynllun Kickstart ar GOV.UK (tudalen Saesneg yn unig).