Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfen Gaffael Sengl (SPD)

Rydym wedi bod yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth GwerthwchiGymru ac eDendroCymru i wella ymarferoldeb y Ddogfen Gaffael Sengl (SPD), gan ganiatáu defnydd cyfnewidiol rhwng y ddwy system. Rydym wedi gorffen gweithio ar hyn ac mae bellach ar gael i'w ddefnyddio.

Mae'r Ddogfen Gaffael Sengl yn disodli swyddogaeth y Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID). Deddfwyd arni o dan yr UE er mwyn symleiddio'r broses dendro i gyflenwyr.

Nawr, gall prynwyr sector cyhoeddus Cymru allforio SPD wedi'i chreu o GwerthwchiGymru, a'i mewnforio i dendr o fewn eDendroCymru. Gall cyflenwyr ymateb i gwestiynau yn eDendroCymru a bydd eu hymatebion yn cael eu storio yn erbyn eu proffiliau ar eDendroCymru. Dylid defnyddio'r SPD yn ddiofyn ar gyfer tendrau erbyn hyn.

Ar gyfer tendrau a grëwyd ac a gyhoeddwyd drwy GwerthwchiGymru, bydd angen i gyflenwyr ymateb i'r SPD yn GwerthwchiGymru. Ceir canllawiau llawn yn yr sadran cymorth i gyflenwyr ar sut i wneud hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ICTProcurement@llyw.cymru