Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID-19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth.

Datganiadau

Am fwy o wybodaeth am ein ymarferion ystadegau a ymchwil drwy COVID-19 gweler datganiad y Prif Ystadegydd ar COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol.

Mae’r Prif Ystadegydd hefyd wedi ysgrifennu blog ar:

Cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn berthnasol i’r pandemig

Rydym wedi datblygu a chyhoeddi setiau data newydd er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd yn ystod y pandemig. Mae’r rhain i gyd wedi eu casglu ynghyd ar ein tudalennau ystadegau ac ymchwil sy’n gysylltiedig â coronafeirws (COVID-19). Mae’r dudalen hon yn cynnwys data am weithgarwch a capasiti y GIG, presenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol ar gyfer plant, ac arolygon barn ac ymddygiadau, a data rheoli ar ymateb y Llywodraeth, er nad yw’n gyfyngedig i’r data hynny.

Mae trosolwg o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru, sydd â bwriad i gyflwyno ciplun wythnosol o ddetholiad o ddangosyddion ar y niwed uniongyrchol ac ehangach gan COVID-19.

Mae Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd o’r cyngor gwyddonol a thechnegol a gynhyrchwyd i gefnogi penderfynwyr Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddiadau gan sefydliadau arall

Cyhoeddir amrywiaeth o ddata eraill mewn mannau eraill er mwyn helpu i ddeall effeithiau’r pandemig a’r ymateb iddo.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi darlun cynhwysfawr o’r achosion newydd, marwolaethau a frechiadau COVID-19 sydd wedi cael eu cofnodi yng Nghymru. Mae’r rhain wedi’u cyhoeddi drwy’r dangosfwrdd gwyliadwriaeth sydyn ar gyfer COVID-19.

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyfanswm dyddiol sy’n dangos nifer yr achosion a marwolaethau sydd wedi cael eu cofnodi ar draws y DU. Mae hefyd yn dangos ystadegau sy'n gysylltiedig â brechu ar gyfer y DU, gyda llawer o'r ystadegau ar gael fesul cenedl. Mae’r dudalen hon hefyd yn cynnwys data llawer mwy manwl am effeithiau COVID-19 yn Lloegr.  

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi data wythnosol am nifer y marwolaethau sydd wedi cael eu cofrestru yng Nghymru, sy’n cynnwys pob marwolaeth a gofrestrwyd sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, p’un a yw’r farwolaeth wedi digwydd yn yr ysbyty neu y tu allan i’r ysbyty, yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r ffigurau hyn felly’n wahanol i’r ffigurau gwyliadwriaeth dyddiol. Maent yn dibynnu ar y broses ffurfiol a ddefnyddir i gofrestru marwolaethau, ac felly maent yn llai amserol.

Hefyd mae’r SYG yn cyhoeddi ystod o ddata eraill sy’n berthnasol i’r pandemig, gan gynnwys data ynglŷn â barn ac ymddygiadau a’r effeithiau ar yr economi. Mae’r data hynny’n cael eu crynhoi ar ei thudalen COVID-19 y SYG. Mae rhai o’r data hyn ar gael ar lefel y DU neu Brydain fawr yn unig.

Mae Google yn cyhoeddi adroddiadau symud daearyddol yn rheolaidd. Mae’r rhain yn dangos tueddiadau symud yn ôl daearyddiaeth, ar draws gwahanol gategorïau o leoedd megis manwerthu a hamdden, siopau bwyd a fferyllfeydd, parciau, gorsafoedd teithio, gweithleoedd ac ardaloedd preswyl. Mae’r tueddiadau ar gael fesul awdurdod lleol.