Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Judith Paget, Darpar Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd
  • Helen John, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflawni’r Seilwaith Ffiniau
  • Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 11 Hydref.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Nododd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn.

Eitem 3: Materion sy’n ymwneud â Ffiniau

3.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur a oedd yn gwahodd y Cabinet i ystyried y dull gweithredu cyffredinol ar gyfer safleoedd rheoli ffiniau a’r effeithiau ar borthladdoedd yng Nghymru.

3.2 O ganlyniad i Brexit, roedd yn ofynnol cynnal gwiriadau ar gynhyrchion iechydol a ffytoiechydol, megis planhigion, anifeiliaid, a chynhyrchion anifeiliaid sy’n dod o’r UE, mewn safleoedd rheoli ffiniau. Heb y safleoedd hyn, ni ellir mewnforio’r cynhyrchion o’r fath. Roedd Llywodraeth y DU wedi gohirio cynnal gwiriadau ffisegol tan fis Gorffennaf 2022.

3.3 Roedd rhai porthladdoedd wedi datblygu eu safleoedd rheoli ffiniau eu hunain, wedi eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Seilwaith Porthladdoedd Llywodraeth y DU. Lle nad oedd yn bosibl adeiladu cyfleusterau yn y porthladd, roedd Gweinidogion y DU wedi ymyrryd gan adeiladu cyfleusterau ffiniau mewndirol.

3.4 Yng Nghymru, roedd angen safleoedd rheoli ffiniau newydd ar gyfer Caergybi, Doc Penfro, ac Abergwaun, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi etifeddu sefyllfa lle’r oedd cyfleusterau wedi cael eu sefydlu yn y porthladdoedd hyn ddiwedd 2020. Bryd hynny, roedd y model presennol wedi cael ei fabwysiadu, gyda safleoedd mewndirol i wirio’r ystod lawn o nwyddau sy’n dod drwy’r porthladdoedd.

3.5 Roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleusterau yng Nghaergybi ar gyfer yr ystod lawn o nwyddau, ond ni fyddai’r cyfleusterau hynny’n weithredol erbyn 2022, a byddai mesurau dros dro yn parhau ar waith am oddeutu 6 i 9 mis.

3.6 Gallai safle rheoli ffiniau cyfunol gael ei adeiladu i wasanaethu’r De-orllewin.

3.7 Yn y cyfamser, roedd trefniadau dros dro yn cael eu blaenoriaethu, ac roedd swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â phorthladdoedd, awdurdodau lleol, a Llu’r Ffiniau, i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno gwiriadau sylfaenol ar gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a phlanhigion risg isel yn y porthladdoedd, wedi eu hategu gan wiriadau i ffwrdd o’r safle ar gyfer anifeiliaid byw a phlanhigion risg uchel.

3.8 Roedd y cais ffurfiol i Drysorlys y DU i gael cyllid i dalu cost lawn y safleoedd rheoli ffiniau wedi cael ei gyflwyno fel rhan o’r Adolygiad o Wariant, gan fod datganiad Polisi Cyllid y DU yn dweud y dylai safleoedd rheoli ffiniau gael eu hariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o’r polisi ymadael â’r UE. Ni fyddai’n briodol ariannu’r cyfleusterau hyn drwy gyllid canlyniadol Barnett ,gan eu bod yn seiliedig ar ofynion sy’n gysylltiedig â lle yn hytrach na maint poblogaeth.

3.9 Mynegodd y Cabinet bryder am y posibilrwydd na fyddai Llywodraeth y DU yn darparu digon o adnoddau i ddatblygu a gweithredu safleoedd rheoli ffiniau yng Nghymru, a’i fod yn bwysig trafod hyn gyda’r Trysorlys gan ei fod yn amlwg yn gysylltiedig â gwariant Brexit.

3.10 Cytunwyd y dylai dull gweithredu cyhoeddus y Llywodraeth ganolbwyntio ar greu safle rheoli ffiniau parhaol yng Nghaergybi, gan ymchwilio i fodelau cyflawni amgen yn y De-orllewin, ac ar yr un pryd blaenoriaethu’r gwaith o ystyried gweithredu trefniadau dros dro i gynnal gwiriadau ffisegol ar gyfer y tri phorthladd o fis Gorffennaf 2022.

3.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 4: Y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi’r cynnydd o ran ymwreiddio’r Rhaglen Lywodraethu.

4.2 Er gwaethaf y ffaith bod goblygiadau’r pandemig a chanlyniadau Brexit yn parhau, a hefyd y gwelir Llywodraeth y DU yn mynegi gelyniaeth gynyddol i ddatganoli, bu cynnydd sylweddol o ran ymwreiddio’r Rhaglen Lywodraethu, a hynny ar ôl dim ond pum mis. Er enghraifft, roedd cyllid wedi cael ei gyhoeddi i benodi 100 yn rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru, a gwelwyd cynnydd pellach yn y cynlluniau i sefydlu Ysgol Feddygol yn y Gogledd, gyda mwy o fyfyrwyr yn cwblhau eu hyfforddiant yn y rhanbarth.

4.3 Nododd y Cabinet y papur.