Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i gyhoeddi i ofyn eich barn am y canllawiau statudol drafft ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref ar nifer o ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (“Deddf 2021”).

Cafodd deddf 2021 ei phasio ar 20 Ionawr 2021 ac mae'n  darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad. Mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio ar y sector cynghorau cymuned a thref ac esbonnir y newidiadau allweddol yn y canllawiau statudol drafft hyn.

Mae Deddf 2021 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol cymwys, gan gynnwys cynghorau cymuned cymwys. Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi cynghorau cymuned a thref i ystyried y gofynion os byddant yn dymuno dod yn gynghorau cymuned cymwys.

Mae'r canllawiau hyn hefyd yn darparu gwybodaeth i helpu pob cyngor cymuned i gyflawni ei ddyletswyddau newydd mewn perthynas â'r gofynion canlynol:

  • Cael mynediad i gyfarfodydd o sawl lleoliad
  • Darparu cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan yng nghyfarfodydd cyhoeddus cyngor
  • Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol
  • Paratoi a chyhoeddi cynllun hyfforddi i gefnogi hyfforddiant i gynghorwyr a staff y cyngor
  • Darpariaethau eraill sy'n effeithio ar gynghorau cymuned a thref.

Trosolwg o'r darpariaethau

Mae cefnogaeth ar draws y sector a chan y cyhoedd i gynyddu gwelededd gwaith cynghorau cymuned. Rydym am i gymunedau ymddiddori yn yr hyn y mae eu cynghorau'n ei wneud a chael mynediad hawdd at wybodaeth am waith y cyngor. Mae'r gofynion mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol, cynlluniau hyfforddi, cyfarfodydd aml-leoliad a chyfranogiad y cyhoedd wedi'u cynllunio i gefnogi'r bwriad hwn.

Cyfarfodydd aml-leoliad

Mae Deddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer ei gyfarfodydd yn galluogi pobl nad ydynt yn yr un lle i gyfarfod. O dan y trefniadau, bydd angen i gynghorau gymryd camau rhesymol i ganiatáu i gyfarfodydd gael eu cynnal o sawl lleoliad. Y gofyniad lleiaf yw bod aelodau'n gallu clywed a chael eu clywed gan eraill.

Cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd llawn y cyngor

Mae Bil 2021 yn gwneud darpariaeth i annog y cyhoedd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd llawn y cyngor cymuned neu'r rhannau o gyfarfodydd sy'n agored i'r cyhoedd. Rhaid i'r person sy'n llywyddu dros y cyfarfod roi cyfle rhesymol i aelodau'r cyhoedd sy'n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw fusnes i'w drafod yn y cyfarfod, oni bai fod gwneud hynny'n debygol o gael effaith andwyol ar y gallu i gynnal y cyfarfod yn effeithiol.

Adroddiadau Blynyddol

Mae Deddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor cymuned, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol am flaenoriaethau, gweithgareddau a llwyddiannau'r cyngor dros y flwyddyn flaenorol.

Cynlluniau Hyfforddi

Mae Deddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned baratoi a chyhoeddi cynllun ynglŷn â'r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer eu haelodau a'u staff. Rhaid i'r cynllun hyfforddi cyntaf fod yn barod a chael ei gyhoeddi erbyn 5 Tachwedd 2022, chwe mis ar ôl i'r ddyletswydd ddod i rym. Dylai'r cynllun hyfforddi ystyried, ac ymdrin â'r cwestiwn a oes gan y cyngor y sgiliau a'r wybodaeth y mae arno eu hangen arno i gyflawni ei gynlluniau'n effeithiol.

Pwy sy'n gymwys i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol

Mae cefnogaeth hefyd i rymuso cynghorau cymuned i fod yn fwy arloesol ac uchelgeisiol wrth gyflawni dros eu cymuned. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer 'cynghorau cymuned cymwys', sy'n grymuso'r cynghorau hynny i wneud unrhyw beth y gall unigolyn ei wneud yn gyffredinol. Pŵer i'w ddefnyddio fel man cychwyn ydyw sy'n golygu nad oes angen i awdurdod cymwys ddibynnu ar bwerau penodol mewn deddfwriaeth i wneud rhywbeth, ar yr amod nad yw'r hyn y bwriedir ei wneud yn cael ei wahardd fel arall.

Mae Deddf 2021 yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i gynghorau cymuned eu bodloni i fod yn 'gyngor cymuned cymwys' gyda mynediad at y pŵer cyffredinol. Mae'r canllawiau statudol yn rhoi gwybodaeth am yr amodau cymhwyso ac ar gymhwyso'r pŵer cymhwysedd cyffredinol.

Darpariaethau eraill yn y Ddeddf

Darperir gwybodaeth i wneud cynghorau cymuned yn ymwybodol o newidiadau i ddeddfwriaeth ynghylch:

  • Hysbysiadau o gyfarfodydd cynghorau cymuned h.y. yr amser a'r lle ar gyfer rhoi hysbysiad o gyfarfodydd cyngor
  • Trafodion cyfarfodydd cynghorau h.y. gofyniad newydd i gyhoeddi gwybodaeth allweddol o fewn wythnos i gyfarfodydd y cyngor
  • Deisebau cymunedol, a lle maent yn disodli pleidleisiau cymunedol
  • Cylch etholiadol cynghorau cymuned.

Dyddiadau Pwysig

Daw darpariaethau yn Neddf 2021 i rym ar ddyddiadau gwahanol – rhai'n gysylltiedig â'r flwyddyn ariannol, eraill hyd at ddyddiad yr etholiadau llywodraeth leol. Rhestrir y dyddiadau dod i rym isod:

  • Dyletswydd ar gynghorau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol: 1 Ebrill 2022
  • Cymhwysedd i allu arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer y sector cynghorau cymuned a thref: 5 Mai 2022
  • Dyletswydd i roi cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan yng nghyfarfodydd y cyngor: 5 Mai 2022
  • Dyletswydd i ystyried hyfforddiant i gynghorwyr a staff y cyngor: 1 Ebrill 2022, gyda'r cynllun hyfforddi cyntaf i'w gyhoeddi erbyn mis Tachwedd 2022.

Pam rydym yn cyflwyno'r canllawiau hyn

Bwriedir i'r canllawiau statudol drafft hyn gefnogi cynghorau cymuned a thref i roi Deddf 2021 ar waith. Bydd angen i gynghorau roi sylw dyledus i'r canllawiau hyn wrth gyflawni eu gweithgareddau. Bwriedir i'r ymgynghoriad hwn sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu rhoi mewnbwn i'r canllawiau statudol a chynnig cipolwg arnynt.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau statudol terfynol cyn etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Y dyddiad hwn yw pryd y daw'r ddarpariaeth allweddol ar gyfer cymhwysedd i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i rym.

Nodir y canllawiau fel a ganlyn:

Pennod 1: Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol a chynghorau cymuned cymwys
Pennod 2: Cyfarfodydd aml-leoliad
Pennod 3: Cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd
Pennod 4: Adroddiadau Blynyddol
Pennod 5: Cynlluniau Hyfforddi
Pennod 6: Darpariaethau eraill sy'n effeithio ar gynghorau cymuned a thref

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Yn gyffredinol, a yw strwythur a chwmpas y canllawiau'n cael eu cyflwyno'n glir ac mewn ffordd sy'n ymarferol i gynghorau cymuned a thref?

Cwestiwn 2

A yw Pennod 1 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar yr amodau cymhwysedd ar gyfer arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol? A yw'n glir o ran sut y dylid defnyddio pŵer cymhwysedd cyffredinol? Pa wybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth?

Cwestiwn 3

Pa wybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth i ddangos neu egluro sut y gellid cymhwyso'r pŵer cymhwysedd cyffredinol i gynghorau cymuned? A oes gennych unrhyw astudiaethau achos a allai gefnogi hyn?

Cwestiwn 4

A yw Penodau 2 a 3 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar y gofynion sy'n ymwneud â chyfarfodydd aml-leoliad a sut y gall y cyhoedd gymryd rhan yng nghyfarfodydd y cyngor?

Cwestiwn 5

A yw Pennod 4 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar gyflawni'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiadau blynyddol? Pa wybodaeth benodol ychwanegol fyddai o gymorth?

Cwestiwn 6

A yw Pennod 5 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar gyflawni'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi cynlluniau hyfforddi? Pa wybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth?

Cwestiwn 7

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r canllawiau hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 8

Eglurwch hefyd sut rydych chi'n credu y gall y canllawiau arfaethedig gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 9

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym  wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 17 Mawrth 2022, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Is-adran Perfformiad a Phartneriaethau Llywodraeth Leol
Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG43891

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.