Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 9 Rhagfyr. 

Mae cyfradd trosglwyddo’r coronafeirws yng Nghymru yn gyffredinol wedi parhau’n gymharol sefydlog ers yr adolygiad diwethaf o’r rheoliadau – mae’n parhau i fod yn uchel gyda thua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Ers inni adolygu’r rheoliadau ddiwethaf, mae’r amrywiolyn Omicron newydd wedi dod i’r amlwg. Dyma amrywiolyn o’r feirws sy’n lledaenu’n gyflym, gyda nifer o fwtaniadau – er bod gennym lawer i’w ddysgu eto am yr amrywiolyn hwn, mae’n ddatblygiad sy’n peri pryder yn y pandemig.

Mewn ychydig dros bythefnos, mae achosion o Omicron wedi cael eu nodi ar draws y byd, gan gynnwys yn y DU. Mae sawl ardal yn Lloegr a’r Alban yn adrodd am drosglwyddiad sylweddol yn y gymuned. Ar hyn o bryd, nifer bach o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ond mae’n rhaid inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn.

Mae gan yr amrywiolyn hwn y potensial i heintio niferoedd mawr o bobl, a allai arwain at gynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Wrth inni wynebu cyfnod anoddaf y flwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, byddai hyd yn oed cynnydd bach mewn derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn rhoi mwy o bwysau eto ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd eisoes dan bwysau.

Rydym yn cymryd y datblygiad hwn o ddifrif ac yn paratoi ar gyfer ton Omicron yn awr.

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau. Rydym wedi ehangu’r rhaglen frechu, yn unol â’r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a byddwn yn cynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 18 oed sy’n gymwys erbyn diwedd mis Ionawr.

Yn yr adolygiad tair wythnos hwn o’r rheoliadau, rydym wedi ystyried pa fesurau amddiffyn sydd eu hangen yn awr i ymateb i’r don Delta bresennol a darparu amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn Omicron newydd, gan adeiladu ar y mesurau a gyflwynwyd gennym dros yr wythnosau diwethaf ynghylch hunanynysu a theithio rhyngwladol.

Byddwn yn cynghori pobl i:

  • Wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan, ymweld â ffrindiau neu deulu, neu deithio. Os yw canlyniad y prawf yn bositif, dylai pobl aros gartref, hunanynysu a threfnu prawf PCR.
  • Gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus, gan gynnwys mewn sinemâu a theatrau, tafarndai a bwytai, ac eithrio pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

Mae ein canllawiau ar gyfer y Pàs COVID wedi cael eu diwygio i gynghori y dylid gwneud prawf llif unffordd o fewn 24 awr, yn hytrach na 48 awr fel y nodwyd yn flaenorol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy’n paratoi i adael y coleg a’r brifysgol ar gyfer y Nadolig, sy’n argymell eu bod yn gwneud prawf cyn teithio.

Mae ein grŵp arbenigol ar gyfarpar diogelu personol yn adolygu ar frys yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynghylch trosglwyddiad drwy aerosol ar gyfer yr amrywiolyn Omicron a byddwn yn gweithredu ar unrhyw argymhellion ar gyfer newid.

Er mwyn gwarchod rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, rydym yn ystyried sut i gefnogi ymweliadau mwy diogel â chartrefi gofal ac ysbytai yn sgil ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron sy’n lledaenu’n gyflym.

Rydym hefyd yn gwneud tri newid i’r rheoliadau i:

  • Egluro bod rhaid i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn theatrau, sinemâu neu neuaddau cyngerdd (ac eithrio pan fyddant yn bwyta neu’n yfed neu pan fyddant mewn caffi neu far sy’n rhan o’r safleoedd hynny);
  • Ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn gwers yrru broffesiynol neu brawf ymarferol;
  • Dileu’r prawf o imiwnedd naturiol o’r fersiwn ddomestig o’r Pàs COVID.

Bydd y newidiadau o ran gorchuddion wyneb yn dod i rym ar ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr a’u diben yw cael gwared ar unrhyw amwysedd yn y rheoliadau.

Bydd y newidiadau i’r Pàs COVID yn dod i rym ar ddydd Mercher 15 Rhagfyr, ar yr un pryd ag yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod y gofynion yr un fath yn y ddwy wlad.

Am y tro, byddwn yn parhau ar lefel rhybudd sero. Byddwn yn monitro’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn agos iawn dros y diwrnodau nesaf a bydd Gweinidogion yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried a oes angen inni roi mesurau eraill ar waith i ddiogelu Cymru. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am unrhyw newidiadau.