Y Warant i Bobl Ifanc
Help a chefnogaeth i bobl ifanc gael lle mewn addysg neu hyfforddiant ac i gael gwaith neu hunangyflogaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw’r Warant i Bobl Ifanc?
Y Warant i Bobl Ifanc yw prif ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i gael cymorth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig.
Mae'r Warant yn ddarparu strwythur ymbarél sy'n eistedd uwchlaw rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc, gyda'r nod o ddefnyddio ymyriadau sy'n bodoli eisoes yn llawn, a chreu taith syml i bobl ifanc waeth beth fo amgylchiadau a chefndir.
Mae Gwasanaeth Cymru'n Gweithio yn cynnig un cyfrwng syml i fanteisio ar y rhaglenni a'r gwasanaethau.
Os ydych chi rhwng 16 i 24 oed, ewch i Cymru'n Gweithio i ddarganfod mwy.
Busnesau
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau ar draws Cymru ymrwymo i'r Warant i Bobl Ifanc. Os ydych yn gyflogwr ac yn edrych i helpu'ch gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd neu eisiau chwistrellu talent newydd i'ch sefydliad, mae rhaglenni Llywodraeth Cymru ar gael drwy wefan Yn gefn i hi porth sgiliau Busnes Cymru.