Neidio i'r prif gynnwy

Pathogen ffwngaidd yw Phytophthora pluvialis sy’n effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymhlith y rhywogaethau y mae Phytophthora pluvialis yn effeithio arnynt mae:

  • Hemlog y Gorllewin
  • Ffynidwydden Douglas
  • Derwen ddwysflodeuog, a
  • Rhywogaethau pinwydd (Pinus radiata, Pinus patula a Pinus strobus)

Mae Phytophthora pluvialis bellach wedi'i ganfod mewn 20 safle ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys Gwynedd, Sir Gaerfyrddin, Powys, Casnewydd, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Conwy a Rhondda Cynon Taf. Dyma’r datganiad i’r wasg diweddaraf am Phytophthora pluvialis yng Nghymru.

Mae hyn yn dilyn sawl canfyddiad diweddar yn Lloegr ac yn yr Alban.
I gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau Lloegr a’r ymateb, ewch i Phytophthora pluvialis - GOV.UK.
I gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau’r Alban a’r ymateb, ewch i Scottish Forestry.

Arwyddion a symptomau

Mae arwyddion o Phytophthora pluvialis yn cynnwys:

  • clefyd colli nodwyddau (needle cast) – lle mae nodwyddau’n troi’n frown ac yn disgyn i ffwrdd
  • lladd egin, a
  • briwiau ar y coesyn, y canghennau a’r gwreiddiau

Mae Forest Research wedi paratoi canllaw syml, sy’n dangos coed symptomatig.

Rhoi gwybod

Os ydych yn amau bod gan goeden y clefyd hwn, rhowch wybod amdano drwy borth ar-lein TreeAlert. Nodwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, gan gynnwys y lleoliad a'r rhywogaeth y mae’r clefyd wedi effeithio arno.

Hysbysiad Ardal A Ddarnodir yng Nghymru

Cynhaliwyd asesiad risg gan Grŵp Risg Iechyd Planhigion y DU, sydd wedi dod i'r casgliad bod Phytophthora pluvialis yn bodloni'r meini prawf i'w ddosbarthu fel pla cwarantin Prydain Fawr at ddibenion rheoleiddio.

Cymru

I warchod Cymru rhag y clefyd hwn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ardaloedd wedi eu darnodi o amgylch safleoedd lle y cadarnhawyd achosion, o dan y pwerau a roddwyd gan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020.

Mae tystiolaeth bellach wedi dangos mai effaith lefel isel a thebygolrwydd isel o drosglwyddiad haint drwy bren sy’n bodoli. Felly mae’r gofyniad i gyfyngu ar symud pren wedi ei godi. Er hynny mae cyfyngiadau symud ar ddeunyddiau eraill sy’n gallu lledaenu Phytophthora pluvialis yn parhau yn yr Hysbysiadau. Mae pum hysbysiad ardal a ddarnodir mewn lle ledled Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r ardaloedd a ddarnodir ledled Cymru i'w gweld ar fap Ardaloedd a Ddarnodir yng Nghymru.

Crychan

Daw Ardal a Ddarnodir 8 i rym ar 24 Ionawr 2023 gan ddisodli Ardal a Ddarnodir 2 (map Ardal a Ddarnodir) a gyhoeddwyd ar 22 Ebrill 2022. Mae’r ardal a ddarnodir yn berthnasol i ardal o amgylch Crychan, Sir Gaerfyrddin a chaiff y ffiniau eu dangos ar y  map o’r Ardal a Ddarnodir. Mae’r Hysbysiad yn cynnwys disgrifiad o’r ffin.

Powys

Daw Ardal a Ddarnodir 9 i rym ar 24 Ionawr 2023 gan ddisodli Ardal a Ddarnodir 3 (map Ardal a Ddarnodir) a gyhoeddwyd ar 21 Ebrill 2022. Mae’r ardal a ddarnodir yn berthnasol i ardal o amgylch Maesyfed, Powys a chaiff y ffiniau eu dangos ar y map o’r Ardal a Ddarnodir. Mae’r Hysbysiad yn cynnwys disgrifiad o’r ffin.

Gogledd-orllewin a Chanolbarth Cymru

Daw Ardal a Ddarnodir 10 i rym ar 24 Ionawr 2023 gan ddisodli Ardal a Ddarnodir 5 (map Ardal a Ddarnodir) a gyhoeddwyd ar 21 Ebrill 2022. Mae’r ardal a ddarnodir yn berthnasol i ardal o amgylch siroedd Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Powys a Cheredigion. Dangosir y ffiniau ar fap yr Ardal a Ddarnodir. Mae’r Hysbysiad yn darparu disgrifiad o’r ffin.

De Ddwyrain Cymru

Daw Ardal a Ddarnodir 11 i rym ar 24 Ionawr 2023 gan ddisodli Ardal a Ddarnodir 6 (map Ardal a Ddarnodir) a gyhoeddwyd ar 21 Ebrill 2022. Mae’r ardal a ddarnodir yn cwmpasu ardal o gwmpas Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen, Powys, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot a dangosir y ffiniau ar Fap yr Ardal a Ddarnodir. Mae’r Hysbysiad yn disgrifio’r ffin. Mae Hysbysiadau Cyfatebol am Ardaloedd a Ddarnodir ar Gov.uk wedi’u cyhoeddi yn Lloegr ar gyfer y safle hwn lle mae achosion wedi’u cadarnhau, sy’n berthnasol i rannau o Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw.

Sir Gaerfyrddin

Daw Ardal a Ddarnodir 12 i rym ar 24 Ionawr 2023 gan ddisodli Ardal a Ddarnodir 7 (map Ardal a Ddarnodir) a gyhoeddwyd ar 21 Ebrill 2022. Mae’r ardal a ddarnodir yn cwmpasu ardal o gwmpas Sir Gaerfyrddin a dangosir y ffiniau ar Fap yr Ardal a Ddarnodir. Mae’r Hysbysiad yn disgrifio’r ffin.

Mae'r Hysbysiad yn gwahardd symud unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o'r ardal a ddarnodir neu oddi mewn i'r ardal a ddarnodir, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan Arolygydd Iechyd Planhigion.

Rhestr o broseswyr cymeradwy ar gyfer Phytophthora pluvialis ar Gov.UK.

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â: treehealth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Y Comisiwn Coedwigaeth fydd yn gyfrifol am roi Caniatâd Symud.  Bydd angen i ymgeiswyr felly e-bostio ppluvialis.authorisation@forestrycommission.gov.uk i ofyn am ganiatâd.

Atgoffir tirfeddianwyr bod angen trwydded gwympo er mwyn cwympo deunydd. Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk). 

Nid oes bellach angen anfon deunyddiau a gaiff eu cwympo yn yr ardal wedi’i phennu ac nad ydynt wedi’u heintio at broseswyr wedi’u hawdurdodi. Ac nid oes angen iddynt gael eu harchwilio ychwaith. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ppluvialis.authorisation@forestrycommission.gov.uk