Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r dadansoddiad yn adrodd ar ddefnydd o'r Gymraeg yn y cartref a’r berthynas rhwng gallu siaradwyr Cymraeg a gallu eu rhieni. Mae hefyd yn adrodd ar beth oedd iaith eu haddysg yn yr ysgol neu mewn addysg bellach ac addysg uwch.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno rhai canfyddiadau o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am oblygiadau hyn, a’r cyfyngiadau ar y data o’r herwydd, yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi gweddill canfyddiadau’r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.