Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

eDendroCymru

Ym mis Mawrth 2022, bydd datganiad mawr Jaggaer 22.1 yn cael ei weithredu, gan gyflwyno profiad a rhyngwyneb newydd i ddefnyddwyr. Mae rhagor o fanylion am y datganiad ar gael yma.

Bydd cwsmeriaid nad ydynt wedi mewngofnodi i eDendroCymru ers chwe mis yn derbyn negeseuon e-bost yn eu hysbysu y bydd eu cyfrifon yn cael eu dadactifadu’n awtomatig. Os ydych yn dymuno cadw eich cyfrif, dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost.

Rydym yn adolygu'r banc cwestiynau rhan 3 ar gyfer y Ddogfen Gaffael Sengl (SPD) yn eDendroCymru. Cwestiynau Rhan 3 yw'r cwestiynau sy'n benodol i'r prosiect/tendr y gellir eu pennu fesul achos. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau, e-bostiwch ICTProcurement@llyw.cymru.