Neidio i'r prif gynnwy

O 1 Ebrill 2018, trosglwyddwyd nifer o swyddogaethau yn ymwneud â harbyrau sydd yng Nghymru yn gyfan gwbl (ac eithrio porthladdoedd ymddiriedolaeth neilltuedig) i Weinidogion Cymru.

Mae un swyddogaeth o'r fath yn ymwneud ag adran 42 o Ddeddf Harbwr 1964 sy'n gosod dyletswydd ar bob ymgymerwr harbwr statudol i baratoi datganiad cyfrifon blynyddol sy'n ymwneud â gweithgareddau'r harbwr ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a gyflawnir.

Mae'n ddyletswydd i gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi o'r datganiad cyfrifon ynghyd â chopi o adroddiad yr archwilydd arno ac adroddiad ar y sefyllfa a ddatgelwyd gan y datganiad cyfrifon.

Dylai ymgymerwyr harbwr statudol y mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol iddynt gyfeirio at adran 42 o Ddeddf Harbwr 1964 sy’n nodi’r dyletswyddau perthnasol a hefyd 'Good governance guidance for ports' sy’n cynnwys rhywfaint o gyfarwyddyd ychwanegol ar baratoi cyfrifon blynyddol.

Gellir cyflwyno'r dogfennau y cyfeirir atynt uchod trwy'r cyfeiriad e-bost canlynol: aviationportsandlogistics@gov.wales.