Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach eleni cytunais i dderbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau annibynnol y GIG a dyfarnu codiad cyflog o 3% i'n staff yn y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio mor galed, yr wyf nawr, ar ôl trafodaethau helaeth gydag undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol, wedi cytuno ar nifer o welliannau pwysig i'r dyfarniad cyflog. 

Yn sgil pleidlais gan yr undebau llafur sy’n rhan o Fforwm Partneriaeth Cymru, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r pecyn canlynol o welliannau, sy'n dangos gwerthfawrogiad parhaus Llywodraeth Cymru o staff y GIG.

Mae'r rhain yn canolbwyntio ar rai o'r staff yn y GIG sydd ar y cyflogau isaf, a chawsant eu datblygu gan ystyried fforddiadwyedd ariannol yn ofalus er mwyn sicrhau bod gofal cleifion ac adfer o'r pandemig yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Byddant yn cael eu hariannu o’r  cyllidebau iechyd presennol - nid oes cyllid ychwanegol wedi’i ddarparu o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dyma’r gwelliannau:

  • Un taliad anghyfunol ychwanegol o 1% ar gyfer yr holl staff ar fandiau cyflog 1-5 yr Agenda ar gyfer Newid. Bydd tua 61,000 o'n staff ar y cyflogau isaf yn elwa ar hyn, gan gynnwys porthorion, glanhawyr, staff cymorth, cynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys sydd newydd gymhwyso, bydwragedd a gweithwyr gofal proffesiynol perthynol i iechyd. Bydd meddygon sydd newydd gymhwyso hefyd yn elwa ar y taliad.
  • Bydd holl staff y GIG yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau yn eu hawl cytundebol. Bydd bydd hwn ar sail pro-rata i staff rhan-amser.
  • Bydd holl staff y GIG yn cael y cyfle i werthu’n ôl gyfran o’u gwyliau blynyddol sydd heb ei ddefnyddio. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydnabod bod angen i staff sicrhau eu bod yn cymryd digon o amser i orffwys ac yn ymadfer gan fod eu lles yn hollbwysig. Bydd paramedrau'n cael eu pennu o ran faint o absenoldeb sy'n gymwys ar gyfer y cynllun gwerthu'n ôl.

Rwy’n neilltuo adnoddau rheoli prosiect mewn grŵp partneriaeth cymdeithasol i edrych ar les staff. Gall y grŵp hwn ystyried meysydd fel iechyd a lles staff yn y gwaith, amgylcheddau gwaith, hyfforddiant a datblygiad, datblygu gyrfa, gweithio hyblyg a gofal plant. Rwy’n edrych ymlaen at glywed sut mae'r gwaith pwysig hwn yn mynd rhagddo ac at gael argymhellion i Lywodraeth Cymru ystyried eu cefnogi.

Yn olaf, rwy’n diwygio'r pwynt isaf ar y golofn gyflog i'r rhai ar fand 2 Agenda ar gyfer Newid a'r pwynt cyflog ar gyfer band 1 i £18,731 o fis Ebrill 2021.

Bydd hyn yn rhoi dyfarniad o 3% ar lefel flaenorol y cyflog ar gyfer 2020/21, sef £18,185 (a oedd yn cynnwys tâl Cyflog Byw ychwanegol) yn hytrach na’r cyflog gwirioneddol o £18,008. Bydd hyn o gymorth arbennig i’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf yn y GIG, sy'n cynnwys porthorion, glanhawyr a chogyddion ymysg llawer arall.

Rwy’n falch bod y cynnig hwn wedi'i dderbyn. Er hynny, rwy’n siomedig nad oes unrhyw arian ychwanegol wedi dod i law oddi wrth Lywodraeth y DU i gefnogi cyflogau'r GIG.

Mae staff y GIG wedi gwneud gwaith arwrol i amddiffyn pobl yng Nghymru drwy gydol y pandemig, ac unwaith eto maent yn gwneud ymdrechion eithriadol dros gyfnod y gwyliau i ddarparu gofal brys a helpu i roi’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu ar waith i ddiogelu'r genedl.

Hoffwn ddiolch o galon i holl staff gwych GIG Cymru.