Bydd y pwyslais ar berfformiad ac effaith y gwasanaeth, ynghyd ag adolygiad o gynllun y gwasanaethau a’r prosesau cyflenwi ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2019 i Ragfyr 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Wasanaeth Cymru’n Gweithio
Prif swyddogaeth yr adroddiad cyntaf hwn yw cyflwyno theori newid ar gyfer y gwasanaeth ac, ar sail y theori honno, cyflwyno’r fframwaith ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad. Ymhellach, mae’n adrodd ar ganfyddiadau cam cwmpasu’r gwerthusiad, yn adolygu gwybodaeth reoli’r gwasanaeth, ac yn adolygu’r effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar ddarparu’r gwasanaeth yn 2020. Cyflwynir hefyd 10 astudiaeth achos o ddefnyddwyr gwasanaeth Cymru’n Gweithio, gan archwilio’r gefnogaeth a gawsant a’r budd iddynt.
