Gwerthusiad o’r prosiectau arddangos sydd wedi’u creu i brofi mecanweithiau cyllido a chyflenwi a gweithio tuag at gyflawni canlyniadau rhaglen y Goedwig Genedlaethol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Trosolwg o'r rhaglen
Roedd dulliau amrywiol o ymdrin â'r gwahanol gynlluniau Arddangoswyr Coedwigoedd Cenedlaethol.
Gan fod y rhaglen yn un hirdymor, mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd canlyniadau'n cael eu cyflawni. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod y gwerthusiad yn awgrymu bod potensial i gyflawni canlyniadau ac mae prosiectau wedi adrodd am lwyddiannau.
Ymgysylltu â chymunedau amrywiol
Effeithiodd COVID-19 ar gyflawni llawer o brosiectau, yn enwedig y gallu i ymgysylltu â chymunedau amrywiol.
Yr angen o hyd yw sicrhau gofyniad cyson i bob cynllun ganolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid amrywiol.
