Jim Scopes Aelod Anweithredol
Mae Jim Scopes wedi gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o'n bwrdd ers mis Ionawr 2021.
Mae gan Jim dros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd rheoli a gwas sifil.
Mae wedi gweithio ar lefelau uwch yn llywodraeth y DU mewn amrywiaeth eang o rolau. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu strategaeth, gweithredu polisi, rheoli newid, a rheoli rhaglenni / prosiectau.
Bu Jim yn bartner yn PA Consulting yn gweithio gydag ystod o gleientiaid yn y sector cyhoeddus. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Weinyddiaeth Amddiffyn
Yna ailymunodd â'r gwasanaeth sifil fel Cyfarwyddwr Strategaeth yng Nghyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Yma sefydlodd Jim yr uned strategaeth newydd. Datblygodd hefyd y strategaeth gorfforaethol gyntaf ar gyfer yr adran newydd.
Yn fwyaf diweddar, mae Jim wedi bod yn gweithio ar y Rhaglen Ynni Morol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Maent wedi bod yn astudio sut y gellid defnyddio’r llanw, y tonnau, ac adnoddau gwynt arnofiol i ddarparu sero net ac adfywio. Maent hefyd wedi bod yn edrych ar effaith swyddi cysylltiedig a thwf economaidd.
Mae Jim wedi arwain rhaglenni newid sefydliadol. Mae wedi datblygu a chyflwyno dulliau sicrwydd ar gyfer prosiectau a rhaglenni. Mae hefyd wedi dylunio a gweithredu mecanweithiau llywodraethu ac adrodd cysylltiedig.
