Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, wedi cyhoeddi ailbenodi Scott Waddington yn Gadeirydd ar Fwrdd Trafnidiaeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Lee Waters:

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ailbenodi Scott Waddington yn Gadeirydd ar Fwrdd Trafnidiaeth Cymru. Mae cadw profiad arweinyddiaeth Scott yn ystod y cyfnod eithriadol hwn o newid yn gam pwysig, wrth i ni barhau i drawsnewid Trafnidiaeth Cymru yn bartner darparu trafnidiaeth integredig ac wynebu heriau digynsail Covid-19.

Mae Scott Waddington wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru am dair blynedd, ar ôl cael ei benodi drwy broses recriwtio agored a chystadleuol yn unol â'r Cod Llywodraethu ac egwyddorion penodiadau cyhoeddus.

Yn ei rôl fel Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, Scott yw'r cyswllt rhwng Bwrdd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y Bwrdd yn effeithiol ym mhob agwedd ar ei rôl.

Bydd yr ailbenodiad am gyfnod pellach o dair blynedd a bydd yn dechrau ar 7 Ionawr 2022.