Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn blynyddoedd o waith dwys gan Weinidogion a swyddogion yn ystod y Cydadolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, mae Llywodraeth Cymru, law yn llaw â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, wedi cytuno i ddefnyddio’r pecyn o ddiwygiadau sydd wedi deillio o’r Adolygiad fel y sail ar gyfer cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol.

Mae’r pecyn wedi cael ei gyhoeddi ac mae ar gael yn: The review of intergovernmental relations ar GOV.UK

Mae’r pecyn yn gwneud cynnydd pwysig wrth ddatblygu’r amcanion a amlinellodd Llywodraeth Cymru yn y dogfennau polisi, ‘Brexit a Datganoli’ a ‘Diwygio ein Hundeb’, ac o ganlyniad mae’n ddatblygiad i’w groesawu a all ddod â buddion i bob un o’r pedair llywodraeth a’r pedair gwlad.

Mae’r pecyn terfynol o ddiwygiadau yn adeiladu ar y set ddrafft o gynigion a gyhoeddwyd ar 24 Mawrth y llynedd. Ers hynny, mae rhagor o gynnydd wedi cael ei wneud i gryfhau’r pecyn, gan ganolbwyntio ar y pryderon a fynegwyd gennym ynglŷn â’r cynigion cynharach. Yn benodol, credwn y gall y strwythurau a’r broses newydd alluogi mwy o ddeialog ystyrlon rhwng llywodraethau ar draws meysydd o ddiddordeb cyffredin – gan gynnwys ar gyllid, cysylltiadau rhwng y DU a'r UE, masnach a materion rhyngwladol – ac yn seiliedig ar fecanwaith osgoi a datrys anghydfodau cliriach a thecach. Bydd y trefniadau hyn i gyd yn cael eu goruchwylio gan gyngor newydd yn cynnwys y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig.

Yn gyffredinol, mae gan y pecyn y potensial i sicrhau gwelliannau sylweddol, os caiff yr ysbryd a’r cynnwys fel y’u hamlinellir yn y pecyn eu trosi’n ddulliau a chamau gweithredu cyson, yn seiliedig ar barch, cyfranogiad cydradd a pharch cydradd, a dyhead i ddod i gytundeb drwy drafodaeth (ac yn wir, cyfaddawd) nid gorfodaeth. Mae gan bob un o’r pedair llywodraeth gyfrifoldeb i gadw at yr egwyddorion hyn.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, wrth inni weithredu’r mecanweithiau a’r prosesau a amlinellir yn y pecyn.