Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 20 Ionawr. 

Ers i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg, rydym wedi cynnal adolygiad o'r rheoliadau bob wythnos. Mae achosion o’r coronafeirws ledled Cymru – sy'n cael eu mesur yn ôl profion PCR positif – wedi bod yn gostwng yn raddol dros yr wythnos ddiwethaf. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n profi'n bositif am y coronafeirws. Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Ionawr, profodd 3.7% o bobl yng Nghymru yn bositif am y coronafeirws, o'i gymharu â 5.6% yr wythnos flaenorol.

Mae'r ffigurau hyn yn rhoi hyder inni ein bod eisoes wedi gweld brig yr achosion o Omicron a gallwn barhau i godi mesurau amddiffyn Lefel Rhybudd Dau, yn unol â'n cynllun i godi'r mesurau amddiffyn yn ofalus ac yn raddol.  

Heddiw, (21 Ionawr), byddwn yn symud i Lefel Rhybudd Sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored. Mae hyn yn golygu:

  • Bydd torfeydd yn gallu dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn gallu gweithredu heb fesurau rhesymol ychwanegol fel y rheol chwe pherson a’r mesur cadw pellter cymdeithasol o 2m
  • Bydd angen y Pàs COVID o hyd er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mawr y bydd mwy na 4,000 o bobl yn bresennol ynddynt, os na fyddant yn eistedd, neu 10,000 o bobl os byddant yn eistedd
  • Mae angen y Pàs COVID ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd sydd ar agor

O ddydd Gwener nesaf, 28 Ionawr, byddwn yn cwblhau’r broses o symud i Lefel Rhybudd Sero, oni bai bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn newid er gwaeth.

Mae hyn yn golygu:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd mesurau rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws
  • Bydd y gofyniad cyffredinol o gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy'n agored i'r cyhoedd a phob gweithle yn cael ei ddileu
  • Ni fydd y rheol chwe pherson yn berthnasol mwyach wrth ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt mwyach
  • Bydd gweithio gartref yn dal i fod yn rhan o gyngor Llywodraeth Cymru ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach

Bydd angen y Pàs COVID o hyd i fynd i ddigwyddiadau dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror, pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r holl fesurau a fydd yn parhau ar Lefel Rhybudd Sero.

Rydym wedi gallu codi'r mesurau amddiffyn hyn diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru a'n hymgyrch frechu, gan gynnwys y brechlyn atgyfnerthu.

Mae'n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau i helpu i gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel, gan gynnwys manteisio ar y cynnig o gael y brechlyn atgyfnerthu os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.