Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2022

Mae Daniel Lewis, sy’n 16 oed o Dreharris, Merthyr Tudful wedi gofalu am y gymuned a'r amgylchedd lleol erioed. O oedran ifanc, gwirfoddolodd ym Mharc Taf Bargoed a chyflwynwyd Gwobr y Faner Werdd iddo am ei ymdrechion gwirfoddol yn 2020.

Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd ymgyrch i lanhau mannau â phroblemau tipio anghyfreithlon ym Mwrdeistref Merthyr. Drwy godi arian a gweithio gyda busnesau lleol, mae wedi llwyddo i gael gwared ar dros 25 tunnell o wastraff anghyfreithlon ar Gomin Merthyr a Gelli-gaer.

Yn ogystal â threulio oriau lawer yn glanhau tipiau anghyfreithlon ar ei ben ei hun, mae Daniel hefyd wedi trefnu digwyddiadau grŵp sy'n annog trigolion lleol a hyd yn oed cefnogwyr o mor bell i ffwrdd â Wolverhampton i deithio i Gymru i'w gynorthwyo gyda'i ymdrechion.

Mae hefyd wedi llwyddo i redeg cynllun sgip cymunedol, gan ddarparu sgipiau am ddim i drigolion lleol mewn pentrefi ym Mwrdeistref Merthyr Isaf. Mae Daniel hefyd wedi darparu sgip teiars cymunedol am ddim ym Mharc Cyfarthfa i drigolion Bwrdeistref Merthyr gael gwared ar eu teiars diangen. Roedd hyn yn rhywbeth y dewisodd ei wneud ar ôl gweld pentyrrau o deiars yn cael eu tipio yn anghyfreithlon ar Gomin Merthyr.

Mae Daniel hefyd wedi canolbwyntio ar atal tipio anghyfreithlon drwy osod systemau teledu cylch cyfyng amlwg sy'n cael eu pweru gan yr haul yn agos at fannau tipio anghyfreithlon ar y comin. Mae unrhyw dystiolaeth sy’n cael ei chasglu ar y camerâu teledu cylch cyfyng yn cael ei throsglwyddo i'r awdurdod lleol a'r heddlu i fynd ar drywydd erlyniad.

Mae Daniel hefyd wedi dylunio arwyddion gwrth-dipio anghyfreithlon y gellir eu gweld ynghyd â'r camerâu ar y comin.