Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Llywodraeth Cymru

  • Jeremy Miles – y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg (y Gweinidog)
  • Lauren Stamp – Ysgrifennydd Preifat
  • Tracy Johnson – Busnes y Llywodraeth, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Sector Gwirfoddol

  • Ben Lloyd (BL) - Cadeirydd
  • Paul Gaze (PG)
  • Elin Maher (ME)
  • Susie Ventris-Field
  • Katheryn Robson (KR)
  • Owen Evans (OE)
  • Gethin Rhys (GR)
  • Eleanor Jones (EJ)
  • Ann Wood (AW)
  • Amy Bainton (AB)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Catrin James (CJ)
  • Haddassah Radway (HR)
  • Katheryn Robson (KR)
  • David Hagendyk (DH)
  • David Smith (DS)

Agenda

  1. Cyflwyniadau
  2. Sylwadau gan y Gweinidog
  3. Addysg wedi’r pandemig
  4. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddysgu ar gyfer oedolion

Hysbyswyd y cyfarfod bod cyfieithu ar y pryd ar gael dros y ffôn; ailgyhoeddwyd y rhif er hwylustod i’r rhai a oedd yn bresennol.

Eitemau 1 a 2: Cyflwyniadau a sylwadau agoriadol gan y Gweinidog

Diolchodd y Gweinidog i bawb am eu gwaith caled a'u cefnogaeth a rhoddodd air o groeso a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys: addysg wedi’r pandemig, y cwricwlwm newydd, newidiadau posibl i'r diwrnod/blwyddyn ysgol, cymorth lles i staff a dysgwyr, anghydraddoldebau o fewn addysg, ymgysylltu â'r trydydd sector a sut mae'r trydydd sector yn cefnogi addysg. Mi wnaeth y Gweinidog hefyd gydnabod a diolch am gyfraniad gwerthfawr gweithwyr ieuenctid.

Eitem 3: Addysg wedi’r pandemig

Diolchodd BL(CGGC) i'r Gweinidog am ei sylwadau a'i eiriau caredig ac ailddatganodd bwysigrwydd rôl y trydydd sector mewn lleoliadau addysgol.

Dywedodd LJ (CGGC) fod y 3ydd sector yn chwarae rhan bwysig y tu allan i'r ystafell ddosbarth a'i bod yn awyddus i gael gwybod barn/disgwyliadau'r Gweinidog o ran cyfraniad y 3ydd sector at ddatblygiad y Gymraeg a sut mae hyn yn cyd-fynd ag awdurdodau lleol (ALlau) a'u cynlluniau.

Diolchodd CJ (CGGC) i'r Gweinidog am ei eiriau caredig ar waith Ieuenctid. Dywedodd GR wrth y Gweinidog ei fod yn teimlo bod gwaith ieuenctid ledled Cymru yn dameidiog iawn; mae digon o gyfle i hyrwyddo'r Gymraeg drwy'r gwaith hwn. Mae parhau â gwaith ieuenctid yn rhoi cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg ledled cymunedau.

Diolchodd KR (CGGC) i'r Gweinidog am ei sylwadau ar ddysgu gydol oes a phwysigrwydd dysgu oedolion. Dywedodd KR fod gwaith gwirfoddol yn werthfawr tu hwnt gan ei fod yn agor drysau/yn dileu rhwystrau i ddysgu gydol oes. Nododd fod y Gweinidog wedi cyfeirio at roi ail gyfle i bobl, teimlai ei bod yn 3ydd neu'n 4ydd cyfle mewn rhai achosion ac mae’r ffordd mae hyn yn cysylltu ag asiantaethau gwirfoddol yn bwysig iawn. Yn aml iawn, mae gan asiantaethau gwirfoddol gysylltiad â'r rhai sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Croesawodd KR sylwadau'r Gweinidog ar addysg drydyddol hefyd.

Atebodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau nad yw ALlau yn hyrwyddo darpariaeth addysg Gymraeg mewn ysgolion yn unig ond hefyd yn cyflenwi anghenion y gymuned ehangach yn llawn. Dywedodd fod yn rhaid i ALlau edrych ar y cyd-destun ehangach o ran darparu addysg Gymraeg; mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol ac yn ddefnyddio pob dull. Datganodd eto mai dyna oedd un o'i flaenoriaethau: sef hyrwyddo cyfleoedd ym mhob maes/gwasanaeth i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'r trydydd sector yn arf pwysig wrth ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg. At hynny, mae angen arloesi wrth i ni barhau i ddysgu am effaith Covid ar gyfleoedd ac ar ddatblygu'r iaith. Ar y cyfan, mae'r Gymraeg yn dal ei thir ac mae rôl y 3ydd sector yn bwysig iawn. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn ymwybodol bod anghysondebau ar draws awdurdodau lleol.

Dywedodd y Gweinidog wrth y cyfarfod fod mecanwaith yn y Bil i ddarparu ar gyfer cyfleoedd pellach mewn dysgu ôl-19 a dysgu oedolion. Mae’n aros am ganfyddiadau adroddiad y WCPP, ac mae ganddo ddiddordeb mewn clywed am y defnydd a wneir o ddarparwyr a’r amrywiaeth sydd ar gael, gan gynnwys y trydydd sector. Nododd y Gweinidog fod y seilwaith wedi’i osod yn ei le; mae'r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig mewn dysgu gydol oes ac yn aml dyma'r man cyswllt cyntaf i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o addysg, mae angen inni gefnogi'r sector yn llawn. Gellir gweld cysylltiadau rhwng deilliannau addysg rhieni/teulu a’r ffordd y mae'r rhain yn effeithio'n sylweddol ar blant yn ogystal â chysylltiadau rhwng lefelau is o addysg a lles.

Nododd EM (CGGC) rôl bwysig iawn rhieni yn ystod Covid ac addysgu yn y cartref. Roedd nifer uchel o rieni o gefndiroedd di-Gymraeg yn ei chael hi'n heriol iawn addysgu plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gofynnodd EJ am sicrwydd y byddai'r cyllid ychwanegol a ddarperir yn adnodd hirdymor. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu digidol hefyd yn bwysig ac yn ffordd arall y caiff rhieni eu cefnogi.

Dywedodd GR fod rhieni a phlant eisoes yn gyfarwydd â gwasanaethau cymunedol a chlybiau fel clybiau gwaith cartref; maent wedi'u gwreiddio yn y gymuned. Rhoddodd EJ enghraifft o glwb gwaith cartref sy'n cael ei redeg gan eglwys. Fodd bynnag, teimlir bod cyllid yn anffodus yn tueddu i gael ei ganoli/cyfeirio at waith newydd; mae angen cyllid i barhau â gwasanaethau sefydledig; mae'r gwasanaethau hyn yn hysbys, yn cael eu defnyddio gan y gymuned y maent yn ei gwasanaethu ac mae gan y gymuned ffydd ynddynt.

Dywedodd AW (CGGC) fod gwirfoddoli yn cael effeithiau cadarnhaol enfawr ar les cyffredinol pobl. Gwelwyd fod gwirfoddolwyr yn hyblyg iawn yn ystod y pandemig. Mae lefel uchel o ymddiriedaeth mewn sefydliad trydydd sector. Mae cysylltiadau clir rhwng dysgu gydol oes a gwirfoddoli. Mae gan wasanaethau cyhoeddus gyfleoedd i adeiladu partneriaethau i ddiwallu anghenion y gymuned drwy wirfoddoli. Gellir cysylltu dysgu gydol oes yn ffurfiol ac yn anffurfiol â gwirfoddoli ac mae'n cynnig cyfleoedd i fagu hyder a sgiliau, sydd o fudd i'r unigolyn a'r gymuned. Wrth symud ymlaen mae angen i ni ymateb i'r heriau newydd sy'n ein hwynebu fel dysgu cyfunol a chyfleoedd gwaith cyfunol. Mae angen inni reoli'r cyllid yn gytbwys er mwyn sicrhau y gallwn barhau i weithio fel hyn. Mae pobl wedi dod i ddisgwyl gwahanol bethau yn dilyn y pandemig. Mae angen arian i hyrwyddo'r ffordd newydd hon o weithio a dysgu; ymateb i anghenion newidiol y gymuned a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau y mae pobl yn eu hwynebu, yn enwedig mewn perthynas â gweithio digidol a thlodi digidol.

Ailadroddodd y Gweinidog ei ymrwymiad i ddileu anghydraddoldeb mewn addysg. Mae cydweithwyr ym maes polisi yn adolygu polisïau i sicrhau bod ffocws clir ar ddelio â/dileu anghydraddoldeb. Er mwyn helpu i ddelio ag anfantais economaidd-gymdeithasol, mae ymgysylltu cryfach â theuluoedd a chymunedau yn hanfodol. Mae ysgolion bro yn cefnogi'r cymunedau hyn ac mae angen meithrin perthynas gryfach. Dymunwn ddatblygu model lle mae ysgolion yn ganolbwynt cymunedol ac yn darparu gwasanaethau a chymorth i'r gymuned gyfan; yn bendant bydd rôl i'r trydydd sector.

Ymatebodd BL(CGGC) ei fod yn falch o glywed ymateb y Gweinidog i hyrwyddo'r Gymraeg a rôl y 3ydd sector. Cytunodd fod ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn ogystal ag ymdrin ag anghydraddoldebau ac anfantais economaidd-gymdeithasol.

Tynnodd AB (CGGC) sylw at y ffaith bod llawer o wasanaethau'r 3ydd sector yn gallu tynnu sylw at faterion neu bryderon yn gynnar. Mae llawer o asiantaethau'n cefnogi ysgolion ac yn ymgysylltu â theuluoedd a phobl ifanc i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles cyffredinol. Mae'n pryderu bod nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio'r mathau hyn o wasanaethau yn tyfu'n gyflym a gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc â'u hiechyd meddwl.

Diolchodd SVF (CGGC) i'r Gweinidog a chrybwyllodd bwysigrwydd dinasyddiaeth fyd-eang weithredol; ei rôl bwysig o ran cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Mae'r plant yn elwa'n fawr o'r cyfle i ryngweithio ag eraill o bob cwr o'r byd; mae'n gwneud iddynt deimlo eu bod wedi'u grymuso ac yn datblygu eu dealltwriaeth o faterion byd-eang ehangach. Croesawodd gynnwys pynciau o'r fath yn y cwricwlwm newydd a phwysleisiodd pwysigrwydd fod pob plentyn o bob cefndir yn teimlo bod cyfleoedd ar eu cyfer nhw hefyd ac o fewn eu cyrraedd.

Cododd CJ (CGGC) bryderon bod diwedd y flwyddyn ariannol yn agos ac roedd eisiau sicrwydd y bydd arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i ALlau ar gyfer gwaith ieuenctid.

Dywedodd Y Gweinidog fod gwaith ar y gyllideb yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae'n cydnabod pwysigrwydd gwaith ieuenctid. Mae cyllid sylweddol ar gael drwy'r agenda Adnewyddu a Diwygio. Mae'n deall yr angen i ail-ymgysylltu â dysgwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi symud i ffwrdd o ddysgu. Bydd gwerthusiad ar sut y mae'r arian hwn wedi bod yn cael ei wario ac yn cael ei wario nawr. At hynny, bydd hefyd yn archwilio sut mae'r 3ydd sector wedi bod yn ymwneud â'r broses a sut y mae canlyniadau llesiant wedi'u cyflawni. Bydd atgyfeiriadau hefyd yn cael eu hystyried, gan archwilio rhwydweithiau cenedlaethol a sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bawb. Cynhaliwyd trafodaeth yn ymwneud â "Hwb" a sut y gall ysgolion gael mynediad at wirfoddoli drwy Hwb. 

Cododd CGGC rai pryderon ynghylch Hwb gan fod rhai problemau wedi codi ynghylch cysylltu ysgolion a'r trydydd sector ar gyfer y cwricwlwm newydd. Un broblem gyda Hwb ar ei wedd bresennol yw nad oes gan y trydydd sector fynediad uniongyrchol ato i ddiweddaru manylion ac ati; mae'n tueddu i fod yn hen ac felly mae ei effeithiolrwydd yn cael ei leihau

Atgoffodd y Gweinidog y cyfarfod fod Fframwaith wedi’i osod sy'n cefnogi dull gweithredu ysgol gyfan; cyhoeddwyd y fframwaith ym mis Mawrth. Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, wedi sefydlu tasglu i sicrhau amgylchedd diwylliannol cadarnhaol i gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial; bydd gan y 3ydd sector rôl. Rhoddwyd 9 miliwn ychwanegol ac mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu prifysgolion i edrych ar adnoddau ar-lein i ddelio â materion fel gorpryder i blant a staff; bydd rhai o'r adnoddau yn rhan o ddull DPP.

Dywedodd y Gweinidog fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gomisiynu i lunio pecyn cymorth; bydd ei effeithiolrwydd yn cael ei werthuso. Bydd yn helpu ysgolion i ddelio â gorbryder a phroblemau iechyd meddwl. At hynny, bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o le i ddelio â phryderon pobl ifanc fel pryder oherwydd yr hinsawdd. Nododd y Gweinidog fod rhai blynyddoedd cyn y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno'n llawn a gallai'r pecyn cymorth helpu yn y cyfamser.

Diolchodd HR (CGGC) i Lywodraeth Cymru am y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a nododd y bydd hanes pobl dduon yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd a chroesawodd hynny’n fawr. Croesawyd hefyd y gwaith o benodi swyddog ymgysylltu â hanes pobl dduon, a fydd yn uwchsgilio athrawon i siarad am hanes pobl dduon. Mae BL hefyd yn teimlo bod angen gwneud gwaith gyda phlant i feithrin eu gwydnwch. Mae hiliaeth yn cael cymaint o effaith ar les plant. Er ei bod yn bwysig dysgu am eu gorffennol o'r ysgol a'u cymunedau; mae'r un mor bwysig meithrin gwydnwch fel eu bod yn gallu delio â hiliaeth a'i herio a gofynnodd a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer darparu cyllid i gefnogi cynlluniau penodol.

Gofynnodd KR(CGGC) am waith ynghylch Cymru fel Cenedl Noddfa ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn hawliau ceiswyr lloches; ar hyn o bryd nid oes ganddynt fynediad at gyllid i gefnogi eu hastudiaethau fel EMA. Gofynnodd KR am ddiweddariad ac a all y sector gwirfoddol gefnogi'r gwaith hwn?

Nododd y Gweinidog fod llawer o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn; mae'n gwybod llai ynghylch rhaglenni adeiladu gwydnwch. Bydd angen iddo gael mwy o wybodaeth. Bydd y Gweinidog hefyd yn dod yn ôl at y grŵp ynghylch rheolau academaidd 2022/23 ar gyfer ceiswyr lloches.

Rhoddodd y Gweinidog yr wybodaeth ddiweddaraf am ddysgu gydol oes, darparu cyfleusterau, rheoliadau, WCPP – mae’n aros am adroddiad. Mae pwyslais ar gynyddu nifer yr oedolion sy’n ddysgwyr yng Nghymru. Edrychir ar gyllid yn ogystal â nodi rhwystrau a darparu cymorth ariannol i ddysgwyr.

Eitem 4: Dysgu Cymunedol

Pwysleisiodd KR a DS (CGGC) fod dysgu oedolion yn y gymuned yn faes penodol gyda chymhlethdodau penodol a phroblemau gyda rheoli. Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn enfawr ac yn anferth. Mae angen inni sicrhau bod y Corff Cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth leol, mae angen inni gynnal y blas lleol. Byddai'r ddau yn croesawu barn y Gweinidog ar ddysgu oedolion, diwygio'r diwrnod ysgol a sut mae addysg oedolion yn cyd-fynd â'r diwrnod ysgol. 

Mae’r Gweinidog yn awyddus i siarad â DS ymhellach ar ddysgu cymunedol a hoffai ymweld â'r ysgolion enghreifftiol yng Nghaerdydd a Sir Benfro sydd â darpariaeth ragorol ar gyfer addysg oedolion yn y gymuned. Mae'r Gweinidog yn awyddus i siarad â DS oddi ar-lein a gofynnodd iddo gysylltu â ni.