Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Lee Waters AS
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru

  • Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint
  • Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
  • Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
  • Y Cyng. Llinos Medi Huws, Ynys Môn
  • Y Cyng. Dyfrig Siencyn, Gwynedd

Pobl allanol eraill a oedd yn bresennol

  • Yr Athro David Lloyd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (eitem 1)
  • Martin Jardine, Grŵp Llandrillo Menai (eitem 1)
  • Jo Whitehead, Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (eitem 2)
  • Mark Polin, Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (eitem 2)
  • Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Stephen Jones, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Keith Smyton, Pennaeth yr Is-adran Fwyd (eitem 1)
  • Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru (eitem 2)
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Cyflawni Rhaglen, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 2)
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaethau a Thrawsnewid Llywodraeth Leol (eitem 3)
  • Paula Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaethau a Thrawsnewid Llywodraeth Leol (eitem 3)
  • Lisa Hughes, Uwch Reolwr Polisi, Ymgysylltu a Thrawsnewid (eitem 3)
  • Will Whiteley, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion, eitemau 2-4)
  • Huw Llewellyn Davies, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu, Gogledd Cymru
  • Bryn Richards, Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol, Gogledd Cymru
  • Heledd Cressey, Uwch Reolwr Cynllunio Rhanbarthol, Gogledd Cymru (cofnodion, eitem 1)
  • Carys W Roberts, Busnes y Llywodraeth, Gogledd Cymru

Ymddiheuriadau

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
  • Dawn Bowden AS
  • Y Cyng. Hugh Evans, Sir Ddinbych

Eitem 1: Prosiect HELIX – cyflwyniad gan Arloesi Bwyd Cymru

1.1 Cyflwynodd Gweinidog Gogledd Cymru yr eitem, sef rhannu gwybodaeth â'r rhai a oedd yn bresennol am Brosiect HELIX. Roedd Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd dair canolfan ragoriaeth bwyd. Roedd eu rôl wedi’i neilltuo i annog datblygiad y sector bwyd a darparu cymorth technegol a gweithredol ar bob agwedd ar weithgynhyrchu bwyd yn bennaf drwy Brosiect HELIX.

1.2 Gwahoddodd Gweinidog Gogledd Cymru yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Is-gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai - i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lwyddiant y prosiect hyd yn hyn.

1.3 Croesawodd Pwyllgor y Cabinet y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Brosiect HELIX a'i gyfraniad at ddiwydiant bwyd sy'n tyfu yng Nghymru.

Eitem 2: Y diweddaraf am recriwtio a’r gweithlu gofal cymdeithasol - Gogledd Cymru

2.1 Cyflwynodd Gweinidog Gogledd Cymru yr eitem drwy gydnabod yr heriau sy'n wynebu'r rhanbarth o ran recriwtio staff ar draws pob sector, a oedd yn cael effaith uniongyrchol ar y Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol a darpariaeth gofal cymdeithasol. Amlygwyd hyn yn y papur a gynhyrchwyd gan y Grŵp Cydgysylltu.

2.2 Diolchodd y Gweinidog i'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol am eu gwaith rhagorol a'u cynigion sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o Brosbectws Adferiad COVID Gogledd Cymru.

2.3 Croesawodd Gweinidog Gogledd Cymru Gadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r cyfarfod a gofynnodd i Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn amlinellu'r sefyllfa ar lawr gwlad yn y Gogledd, cyn trosglwyddo i'r Bwrdd Iechyd ar gyfer adroddiad ar y sefyllfa.

2.4 Adroddwyd nad oedd materion staffio wedi’u cyfyngu i sectorau unigol yn y Gogledd a'u bod yn cael eu teimlo ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Roedd anawsterau recriwtio mewn busnesau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu ochr yn ochr â materion o ran cadw staff mewn Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd.

2.5 Gweithwyr oedd â’r llaw uchaf yn y farchnad lafur ar hyn o bryd, gyda phwysau yn sgil staff yn symud ar draws ffiniau yn cael ei deimlo o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys gwell cyflog ac amodau. Yn gysylltiedig â hyn oedd effaith y pandemig ar y niferoedd cynyddol o staff profiadol a oedd yn ymddeol a’r cof corfforaethol a oedd yn cael ei golli o ganlyniad. Roedd hynny’n peri risg i gyflawni swyddogaethau statudol ar draws Awdurdodau Lleol.

2.6 Roedd yn bwysig sicrhau nad oedd gorddibyniaeth ar staff asiantaeth, yn enwedig o ystyried y diffyg sicrwydd swydd sydd mewn contractau asiantaeth.

2.7 Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae oddeutu 1,600 o swyddi gwag ymhlith cyfanswm o 18,000 o staff ar hyn o bryd. Cafwyd newyddion cadarnhaol o ran recriwtio nyrsys, gan fod 300 wedi ymuno ar draws y rhanbarth yn ddiweddar, ond roedd prinder yn parhau ar draws rhai arbenigaethau fel fferyllwyr. Roedd angen mynd i’r afael â staff yn symud rhwng gwasanaethau cyhoeddus, ond roedd y rhagolygon o ran recriwtio myfyrwyr a staff ymchwil yn y tymor canolig a hwy yn dda.

2.8 Cydnabuwyd y materion gyda'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r gobaith oedd y byddai cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol yn y dyfodol yn helpu rhywfaint i fynd i'r afael â hyn. Croesawyd y £2 filiwn a ddarparwyd tuag at becynnau gofal cartref, ond roedd angen mwy o adnoddau bob amser.

2.9 Nodwyd bod recriwtio i’r gweithlu gofal cymdeithasol yn fater ar gyfer y DU gyfan ac roedd ymgyrchoedd cenedlaethol yn cael eu cynnal i geisio mynd i'r afael â rhywfaint o'r prinder. Croesawyd y bonws diweddar o £735 i holl staff gofal cymdeithasol Cymru a chanmolwyd ymdrechion pawb yn y sector drwy gydol y pandemig.

2.10 Cydnabu'r Pwyllgor yr heriau o ran recriwtio yn gyffredinol yn y Gogledd ac addawodd barhau i gydweithio i fynd i'r afael â'r anawsterau.

Eitem 3: Cydbwyllgorau corfforedig – Gogledd Cymru

3.1 Cyflwynodd Gweinidog Gogledd Cymru yr eitem, a oedd yn ystyried datblygu'r Cydbwyllgorau Corfforedig.
 
3.2 Ar ôl cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a sefydlu pedwar Cydbwyllgor Corfforedig rhanbarthol yn gynharach eleni, roedd y gwaith o ddatblygu'r fframwaith rheoleiddiol sy'n sail i'r Cydbwyllgorau Corfforedig yn parhau.

3.3 Gwahoddodd y Gweinidog y Cyng. Dyfrig Siencyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i ymdrin ag unrhyw faterion neu heriau sy'n wynebu'r rhanbarth wrth wneud hynny.

3.4 Adroddwyd bod yr egwyddorion sylfaenol y byddai Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd yn eu dilyn wedi'u sefydlu, a fyddai'n sicrhau eglurder a symlrwydd, gan leihau biwrocratiaeth a chostau lle bynnag y bo modd.

3.5 Tynnwyd sylw at y ffaith bod y fargen twf wedi'i diogelu gan faterion a gadwyd yn ôl ac na ellid tanbrisio pwysigrwydd sybsidiaredd yn y broses hon. Dylai Awdurdodau Lleol allu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar feysydd pwysig, gan gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni eraill.

3.6 Tynnwyd sylw hefyd at botensial datganoli pwerau yn y dyfodol i sicrhau manteision pellach, ond byddai gwaith sylweddol o sefydlu'r Cydbwyllgor Corfforedig i ganolbwyntio arno yn y tymor byr.

3.7 Y cynnig oedd integreiddio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru â’r Cydbwyllgor Corfforedig, gan leihau nifer y cyrff cyflawni a sicrhau bod y chwe Arweinydd Awdurdod Lleol yn y Gogledd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. 

3.8 Croesawyd hyn gan y Pwyllgor a nodwyd bod y Rheoliadau wedi'u drafftio i ddarparu'r hyblygrwydd angenrheidiol i Awdurdodau Lleol weithredu fel hyn pe baent yn dewis gwneud hynny.

3.9 Byddai rhai problemau technegol o ran TAW petai Cyngor Gwynedd yn rhoi’r gorau i gynnal y Bwrdd Uchelgais Economaidd, ond nid oedd y rhain yn anorchfygol. Byddai unrhyw gymorth y gallai Awdurdodau Lleol ei roi i swyddogion y Llywodraeth wrth fesur yr effaith yn helpu wrth ddadlau’r achos dros ryddhad i CThEM.

3.10 Codwyd mater cyfleusterau benthyca ac, er y nodwyd bod y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gael o hyd i bob Awdurdod Lleol, byddai angen gwaith pellach ar atebion dros dro pragmatig, gan fod rhai Awdurdodau Lleol eraill wedi gofyn am gyfleusterau benthyca uniongyrchol.

3.11 Nodwyd bod Arweinwyr y Gogledd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyfran gyfartal o'r gronfa gwerth £1 miliwn ar gyfer sefydlu’r Cydbwyllgorau Corfforedig. Byddai'r adnodd hwn yn helpu i sefydlu'r trefniadau cymorth angenrheidiol ar gyfer y Cydbwyllgorau Corfforedig, a phenodi rheolwr prosiect.

3.12 Gwnaed y pwynt bod yr Arweinwyr Awdurdodau Lleol wedi ymrwymo i ymgorffori'r Cydbwyllgor Corfforedig fel swyddogaeth statudol.

3.13 Cydnabu'r Pwyllgor y safbwyntiau gwahanol ynghylch gweithredu'r Cydbwyllgor Corfforedig, ond cytunodd fod cyd-ddealltwriaeth o'r dull i'w fabwysiadu wrth sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd yn allweddol, ynghyd â diweddariadau rheolaidd i'r Pwyllgor ar y cynnydd a wneir.

Eitem 4: Materion Allweddol gan Arweinwyr Awdurdodau Lleol

4.1 Gwahoddodd Gweinidog Gogledd Cymru yr Arweinwyr Awdurdodau Lleol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion allweddol ar draws eu hardaloedd.

4.2 Roedd pryder sylweddol ynghylch adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd a'i effaith ar sawl prosiect ar draws y Gogledd.

4.3 Cydnabu Gweinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y siom y byddai llawer yn ei theimlo o ganlyniad i'r adolygiad annibynnol. Fodd bynnag, roedd dadleuon cryf pam y bu'n rhaid derbyn ei argymhellion, yn enwedig yr angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio datrys problemau tagfeydd ar y rhwydwaith mewn partneriaeth, er mwyn sicrhau datblygiad economaidd ledled Cymru, gan gynnwys ar draws ardaloedd gwledig.

4.4 Cydnabu'r Pwyllgor, yn sgil yr uwchgynhadledd COP26 ddiweddar yn Glasgow, fod yn rhaid i'r llwybr at sero net fod yn ganolog i benderfyniadau buddsoddi ar gyfer pob haen o Lywodraeth yn y dyfodol. Yn ogystal, nid oedd yr adolygiad wedi'i gynnal fel pecyn yn unol â chais Awdurdodau Lleol, ond byddai'r adolygiad yn ystyried y prosiectau sy'n weddill cyn gynted â phosibl.

4.5 Codwyd y mater o berfformiad gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru a'r effaith ddilynol ar annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na defnyddio ceir. Cydnabuwyd yr anawsterau sy'n gysylltiedig â streicio diweddar gan staff bysiau Arriva ynghyd ag effaith COVID a phwysau eraill y gaeaf ar wasanaethau. Byddai Gweinidog Gogledd Cymru yn cyfarfod â Phrif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru i drafod y materion hyn a materion eraill a byddai wedyn yn ysgrifennu at yr Arweinwyr.

4.6 Codwyd y mater o ddemograffeg oedran yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda phoblogaeth oedrannus sylweddol, roedd pwysau ar wasanaethau cymdeithasol yn broblem benodol. Nodwyd y byddai'r Llywodraeth yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y fformiwla ariannu wrth symud ymlaen.

4.7 Croesawyd yr arian ychwanegol a ddarparwyd gan y Llywodraeth ar gyfer y rhai mewn tlodi tanwydd a nodwyd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a'r Llywodraeth i gyflwyno hyn o ganol mis Rhagfyr. Cydnabuwyd yr heriau o ran sicrhau bod systemau gweithredol ar waith i gyflawni mewn cyfnod byr.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet a Thîm Rhanbarthol Gogledd Cymru
Tachwedd 2021