Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gosod rheoliadau a fydd yn diweddaru'r trothwyon enillion ar gyfer didyniadau a wneir o dan orchymyn atafaelu enillion, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i adennill ôl-ddyledion y dreth gyngor o dan amgylchiadau penodol.

Mae nifer o aelwydydd wedi profi caledi ariannol yn ystod y pandemig ac, er bod y dreth gyngor yn hanfodol i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn gallu parhau i weithredu'n effeithiol, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr hefyd fod pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn cael eu cefnogi'n briodol. Bydd y rheoliadau hyn yn diweddaru'r trothwyon enillion i sicrhau bod y bobl hynny yn ein cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn cael eu trin yn decach, sef un o'r ymrwymiadau a wnaed gennym yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021-2026.

Pan fo aelwydydd sy'n gweithio'n mynd i ôl-ddyledion gyda'u treth gyngor, mae modd i awdurdodau lleol ofyn am orchymyn atafaelu enillion er mwyn adennill yr ôl-ddyledion o'u henillion mewn rhandaliadau. Mae maint yr arian y gellir ei adennill yn dibynnu ar derfynau sy'n seiliedig ar drothwyon enillion a nodir mewn deddfwriaeth. Bydd y newidiadau i'r rheoliadau a osodwyd gennyf heddiw yn rhoi cyfle i dalwyr y dreth gyngor sydd mewn ôl-ddyledion ac sydd ar incwm isel gadw mwy o'u henillion wythnosol neu fisol a lledaenu cost eu dyled. Roedd yn bleser mawr gennyf weld cefnogaeth gadarn am y cynnig yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law.

Mae hyn yn gyfle i wneud ein system dreth gyngor yn decach, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'i amser i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Daw’r ddeddfwriaeth ddiwygio sy'n diweddaru'r trothwyon enillion i rym ar 1 Ebrill 2022, a bydd yn berthnasol i unrhyw orchmynion newydd a gyflwynir o'r dyddiad hwnnw ymlaen.