Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 6 Gorffennaf y llynedd, cyhoeddais i'r Senedd fy mwriad i ddileu asesiadau diwedd y Cyfnod Sylfaen a diwedd Cyfnod Allweddol 2 o'r flwyddyn academaidd hon ymlaen. Gan y bydd Cwricwlwm Cymru yn cael ei gyflwyno i bob dysgwr hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 6 ym mis Medi 2022, rwy'n cynnig bod yr asesiadau diwedd cyfnod hyn yn cael eu dileu flwyddyn yn gynnar. Y nod yw helpu i greu lle i ymarferwyr wrth iddynt baratoi eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu newydd a chreu hyblygrwydd iddynt gynllunio cyfnod pontio mwy esmwyth i ddysgwyr wrth iddynt symud tuag at Gwricwlwm Cymru.

Wrth iddynt baratoi ar gyfer mis Medi 2022, mae dileu asesiadau diwedd y Cyfnod Sylfaen a diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn helpu ymarferwyr i symud i ffwrdd o ddefnyddio lefelau fel meini prawf i lunio dyfarniad 'ffit orau' ar gyflawniad cyffredinol dysgwr. Mae fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn glir mai diben asesu yw cefnogi cynnydd dysgwyr unigol gyda'r pwyslais ar ddeall lle mae dysgwr ar ei daith ddysgu, sut y cyrhaeddodd yno ac edrych ymlaen at ei gamau nesaf, gan nodi'r cymorth sydd ei angen i symud ymlaen.

Felly, heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar y newidiadau deddfwriaethol sy’n ofynnol i ddileu asesiadau diwedd y Cyfnod Sylfaen a diwedd Cyfnod Allweddol 2. Mae'r ddogfen ymgynghori hefyd yn amlinellu diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth gysylltiedig a fyddai hefyd yn cael ei gwneud pe bai'r asesiadau hyn yn cael eu dileu. Byddai'r newidiadau canlyniadol hyn yn golygu dileu'r gofynion ar gyfer:

• Cymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2.

• Cynnwys adroddiadau i rieni/gofalwyr i gynnwys canlyniadau asesiadau mewn perthynas â dysgwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6 ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

• Cyrff llywodraethu i adrodd am ganlyniadau asesiadau athrawon ar gyfer dysgwyr ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i awdurdodau lleol.

• Awdurdodau lleol i adrodd ar ganlyniadau asesiadau athrawon ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal, rwy’n cynnig dileu’r gofyniad i gymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 o’r flwyddyn academaidd hon ymlaen. Mae lefelau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol wedi’u hen sefydlu ac wedi’u defnyddio gan ymarferwyr ers blynyddoedd lawer. Rwy’n argymell hyn, felly, i osgoi gosod baich ychwanegol ar ysgolion uwchradd i sefydlu trefniadau newydd dros dro pan gaiff asesiadau Cyfnod Allweddol 2 eu dileu ac na allant bellach fynd ati gyda’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i gymedroli’r asesiadau. Mae’r cynnig hwn hefyd yn rhoi’r llonydd i ysgolion roi sylw i ymgymryd â’r trefniadau newydd o dan Cwricwlwm i Gymru.

Yn olaf, rwyf wedi cyfuno’r ymgynghoriad hwn ag ymgynghoriad arall sy’n holi barn rhanddeiliaid ar ddiwygiad i’r rheoliadau a fydd yn dileu’r gofyniad i awdurdodau lleol ddosbarthu copïau papur o’u prosbectws blynyddol i rieni a disgyblion y flwyddyn y byddant yn trosglwyddo i ysgolion a gynhelir ganddynt, p’un a ydynt wedi gofyn am gopi ai peidio. Bydd y prosbectws yn dal i fod ar gael ar-lein i rieni, ac o swyddfeydd yr awdurdod lleol, o unrhyw ysgol yn yr awdurdod neu mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Bydd y newid hwn i’r rheoliadau yn cael gwared â baich gweinyddol ac ariannol diangen ar awdurdodau lleol, gan leihau’r amser a’r costau sy’n gysylltiedig ag argraffu, dosbarthu a storio y byddai’n well eu buddsoddi yn y gwaith o godi safonau ysgolion.

Cyfunwyd yr ymgyngoriadau hyn er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar ymatebwyr, ar adeg pan fo’r pwysau’n parhau, sydd mewn llawer achos yn debygol o fod o’r un sefydliadau, er enghraifft ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol. Nid oes gofyn i bobl ymateb i adrannau polisi’r ddau ymgynghoriad.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael yn Newidiadau i drefniadau asesu ysgolion cyfredol a phrosbectws awdurdodau lleol a'r dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 1 Ebrill 2022.  Rwy’n croesawu ac yn annog pawb sydd â diddordeb mewn diwygio'r cwricwlwm ac asesu i roi eu barn.