Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2019 cyhoeddais ymgynghoriad ar gynigion ynghylch gofynion monitro ar gyfer cychod pysgota masnachol dan 12 metr i ychwanegu at y gofyniad statudol sydd eisoes ar waith ar gyfer cychod dros 12 metr.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi bod Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022 yn dod i rym. Mae'r Gorchymyn yn gwahardd cychod pysgota trwyddedig dan 12 metr sy'n gweithredu ym mharth Cymru a chychod pysgota o dan 12 metr o Gymru lle bynnag y bônt, rhag ymgymryd â gweithrediadau pysgota oni bai bod gan y cwch system monitro cychod (VMS) sy’n gweithio. Bydd y system hon yn trosglwyddo gwybodaeth am leoliad daearyddol, dyddiad, amser, cyflymder a llwybr y cwch i Weinidogion Cymru, o leiaf unwaith bob 10 munud wrth iddo ymgymryd â gweithrediadau pysgota.

Bydd hyn yn ein galluogi i gael darlun llawn a chywir o weithgarwch cychod pysgota ym mharth Cymru, a chychod cofrestredig o Gymru lle bynnag y bônt, i wella’r ffordd y caiff pysgodfeydd a’r amgylchedd morol eu rheoli. Mae data sy'n gysylltiedig â dosbarthiad gofodol ac adeg yr ymdrech bysgota yn hanfodol i reoli pysgodfeydd a'r amgylchedd morol ehangach yn effeithiol, gan gynnwys Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) a Chynllunio Morol. Nid yw data o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y fflyd bysgota dan 12 metr sy'n cynrychioli 97% o gychod pysgota cofrestredig Cymru.

Er mwyn cefnogi'r diwydiant pysgota gyda'r gofyniad newydd hwn, darparwyd dyfeisiau Monitro Cychod am ddim i gychod pysgota perthnasol o Gymru.