Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

 
Amser Eitem Papurau
15:30 Croeso a chyflwyniadau    
15:35 Cofnodion a Chamau Gweithredu
  1. Cofnodion 30 Mawrth
15:40

Diweddariad Llywodraeth Cymru

 

15:45

Diweddariad Keith Towler

 
15:55 Argymhellion 12 a 13
  1. Adroddiad drafft y BGIDD
16:05 Ysgrifennu’r adroddiad terfynol  
17:00 Cyllid Gwaith Ieuenctid / RSG
  1. Rhagor o wybodaeth am yr RSG
17:15

Trafodaeth am y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP)

Trafodaeth a Chynllun Gweithredu LGBTQ+ (LlC)
  1. Sleidiau cyflwyno ar Gynllun Gweithredu REAP: mae’r REAP llawn ar gael
  2. Camau gweithredu i’r BGIDD yn y Cynllun Gweithredu LGBTQ+ drafft
**Newid i zoom ar gyfer eitem gyda’r Pwyllgor Pobl Ifanc
17:30 Diweddariad gan y Pwyllgor Pobl Ifanc (Catrin James/aelodau’r Pwyllgor Pobl Ifanc)
  1. Papur ar lywodraethu dan arweiniad pobl ifanc gan y Pwyllgor Pobl Ifanc
18:25 Unrhyw faterion eraill  
18:30 Cloi  

 

Yn bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Jo Sims (JS): Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Dusty Kennedy (DK): Trauma Recovery Model Academy

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Ashley Caddick (AC): Uwch Swyddog Ystadegol-Rheolwr Cyllid y Dyfodol a Setliadau
  • Judith Cole (JC): Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Partneriaeth Cyllid a Gweithlu Llywodraeth Leol

Gwesteion:

  • Rhys Jones (RJ): Prifysgol Aberystwyth
  • Catrin James (CJ): URDD: Pwyllgor Pobl Ifanc
  • Sian Jones (SJ): Llamau
  • Jon Rae (JR): Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Ewan: Aelod o’r Pwyllgor Pobl Ifanc
  • Lee: Eyst

Ymddiheuriadau

Ymddiheuriadau gan Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Diweddariad Llywodraeth Cymru

Diolchodd GRC i aelodau’r Bwrdd ac RJ am hwyluso trafodaethau yn nigwyddiad pob SPG ddoe.

Mae Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr yn Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Jeremy Miles a benodwyd yn Weinidog Addysg a’r Gymraeg yn ddiweddar. Cadarnhaodd GRC y byddai staff y Swyddfa Breifat yn trefnu cyfarfod rhwng y Gweinidog a’r Bwrdd maes o law.

Diweddariad Keith Towler

Digwyddiad pob SPG: 25 Mai 2021

Roedd KT yn teimlo bod galwad gref am barhad y Bwrdd yn ystod digwyddiad pob SPG ddoe; bydd KT yn parhau â thrafodaethau unigol gydag aelodau’r Bwrdd. Dywedodd KT ei fod wedi gweld nerfusrwydd ynghylch bwlch rhwng y Bwrdd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn hon a rhywbeth newydd yn dechrau yn ei le. Cydnabuwyd gan KT bod y Bwrdd eisoes wedi cael ei ymestyn am flwyddyn.

Rhannodd aelodau’r Bwrdd bod galwad eglur i’r Bwrdd barhau ym mhob trafodaeth grŵp ddoe, ond roedd galwad am barhad o ran momentwm ac arweinyddiaeth, a thrafodaethau ynghylch sut gellir llenwi’r ‘bwlch’.

Rhannodd SL bod trafodaeth yn ei grŵp hi am werth yr SPGs a phryder am eu colli. Ychwanegodd bod angen ystyriaeth o sut yr ydym yn parhau i ddod â’r sector gyda ni.

Cynllun Peilot Cymraeg

Dywedodd KT wrth y Bwrdd bod y cynllun peilot Cymraeg yn agored i awdurdodau lleol ac mai 14 Mehefin 2021 fyddai’r dyddiad cau.

Ysgrifennu’r adroddiad terfynol: Rhys Jones (RJ)

Diolchodd RJ i aelodau’r Bwrdd am gymryd amser i gyfarfod ag ef a bod y sgyrsiau ar fanylion pob argymhelliad yn ddefnyddiol. Ychwanegodd ei fod wedi casglu safbwyntiau ac wedi mapio materion penodol. Roedd RJ yn teimlo bod consensws cyffredinol ar argymhellion yr adroddiad ond gwahanol bwyslais ymhlith aelodau’r Bwrdd. Ychwanegodd y byddai’n dda pe gallai’r Bwrdd gysoni rhai o’r rhain yn yr adroddiad terfynol.

Roedd RJ yn teimlo bod llawer o argymhellion yn dibynnu ar ddeddfwriaeth ar gyfer corff cenedlaethol a gofynnodd beth hoffai’r Bwrdd ei weld ar waith fel corff dros dro, gan y byddai’n cymryd cryn amser i gorff cenedlaethol fynd trwy broses ddeddfwriaethol.

Rhoddodd KT drosolwg o ddiben y Bwrdd pan gafodd ei gychwyn, h.y. i sicrhau model darparu cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid; ond mae’n teimlo fel pe bai wedi mynd y tu hwnt i friff polisi, ac yn cael ei ystyried yn aml gan y sector fel Bwrdd cynghori. Roedd yn teimlo y dylai’r ‘Bwrdd’ nesaf ddatblygu yn rhywbeth tebycach i’r olaf.

Cwestiynodd RJ faint o fanylion sydd eu hangen am hyn yn yr adroddiad terfynol.

Roedd ET yn teimlo y dylai fod golwg wrthrychol ar sut y dylai’r ‘Bwrdd’ nesaf edrych a gofynnodd sut y gellid cael cefnogaeth a pherchnogaeth gan y sector/llywodraeth leol? Roedd ET yn teimlo nad yw parhau i weithredu’r Bwrdd fel y mae yn gynaliadwy.

Awgrymodd JS y gellid cynnwys partneriaid yn natblygiad y Bwrdd nesaf, gan nad yw aelodau’r Bwrdd yno i gynrychioli’r grwpiau y maent yn gweithio iddynt. Gofynnodd pwy yr oedd angen eu cynnwys yn natblygiad yr hyn sy’n dod nesaf. Dywedodd KT bod gan y Pwyllgor Ifanc safbwyntiau i’w rhannu gyda’r Bwrdd ar lywodraethu dan arweiniad pobl ifanc yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

Dywedodd SL bod y Bwrdd wedi ennill ymddiriedaeth gan y sector ac wedi dod â’r sector gydag ef, gan ychwanegu bod y sector yn ystyried aelodau’r Bwrdd fel arweinwyr yn hytrach na bwrdd dros dro neu gysgodol. Roedd SL yn teimlo y dylai’r Bwrdd symud ymlaen i strwythur llywodraethu corff cenedlaethol (yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogol), wedi’i gyfarwyddo gan Fwrdd o bosibl. Ychwanegodd SL mai’r flaenoriaeth ddylai fod sefydlu gweithrediadau, swyddogaethau a chyfrifoldebau corff cenedlaethol ac adolygu’r cyllid ar gyfer y sector.

Dywedodd KT bod angen cylch gwaith eglur ar gyfer yr hyn sy’n dilyn nesaf.

Amserlen: trafodaethau am amserlenni a chostau pob argymhelliad

Gofynnodd RJ beth ellid ei wneud heb ddeddfwriaeth. Ymatebodd GRC ei fod yn dibynnu ar yr hyn y mae’r Bwrdd ei eisiau gan ychwanegu ei bod yn bosibl y gallai bwrdd cenedlaethol gymryd blynyddoedd, yn dibynnu ar ei gylch gwaith, a gellid sefydlu rhywbeth tebyg i’r Bwrdd hwn yn gyflymach. Gofynnodd GRC sut byddai cynrychiolaeth o’r sector yn edrych.

Dywedodd SS bod yr SPGs, sef cynrychiolaeth y sector, yn cyfrannu at y Bwrdd ac o’r herwydd mae’r Bwrdd yn gallu gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc. Ychwanegodd bod y Bwrdd yn atebol i bobl ifanc.

Awgrymodd ET y gallai’r Bwrdd symud ymlaen i ‘Fwrdd gweithredu’, gan ychwanegu y gellid datblygu papur opsiynau i benderfynu beth allai’r Bwrdd ei fod.

Roedd JS yn teimlo mai’r bwrdd cenedlaethol a deddfwriaeth eglur ddylai’r nod terfynol fod. 

Dechreuodd RJ ofyn am amserlen ar gyfer pob argymhelliad a goblygiadau cysylltiedig o ran costau/adnoddau. Dywedodd GRC y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r materion hynny yn fanwl ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.  

Cyllid

Ymunodd ES, JR, AC a JC a’r cyfarfod a chafwyd rownd o gyflwyniadau.

Rhoddodd KT drosolwg o’r argymhelliad yn ymwneud ag adolygiad cyllid a gofynnodd am safbwyntiau’r gwesteion ar yr argymhelliad arfaethedig.

Amlinellodd JR rai anfanteision o dynnu cyllid oddi wrth yr RSG, gan gynnwys y byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i’r broses gwneud penderfyniadau leol a diwallu anghenion amrywiol awdurdodau lleol. Ychwanegodd bod rhai enghreifftiau o le tynnwyd arian i ffwrdd, ond eu bod i gyd wedi bod yn symiau bach. Dywedodd JR y byddai peryglon o golli cyllid - gostyngiad i swm cymesur.

Dywedodd DK bod mwy nag un ffordd o gyflawni newid. Ychwanegodd KT bod y broblem yn ymwneud â sut rydym yn cael adnoddau i’r canlyniad a fwriedir.

Dywedodd JC bod arian wedi cael ei dynnu oddi wrth yr RSG pan fu newid i’r strwythur a’r model darparu. Ychwanegodd nad yw arian yn tueddu i gynyddu ar ôl iddo fynd i’r RSG, efallai nad yw mor wir gyda grantiau. Dywedodd JC ei bod yn bosibl tynnu cyllid oddi wrth yr RSG ond nad yw’n bosibl cymryd y cyllid sy’n gysylltiedig ag ef. Dywedodd y dylai awdurdodau lleol allu darparu gwasanaeth cydgysylltiedig gan ddefnyddio cyllid heb ei neilltuo.

Dywedodd SS nad yw arian sy’n mynd i’r RSG ar gyfer pobl ifanc yn cael ei ddefnyddio at y dibenion y’i bwriedir ar eu cyfer.

Cydnabuwyd effaith cyni cyllidol gan ET, ond dywedodd bod y Bwrdd yn gofyn sut i wneud y defnydd gorau posibl o gyllid a’i gael i’r rhai y bwriedir iddynt ei dderbyn.

Dywedodd JR bod atebolrwydd ar y lefel leol ac yn cynnig gwerth am arian o ran canlyniadau ac allbynnau.

Cytunodd aelodau’r Bwrdd bod angen trefnu trafodaeth bellach ar y mater hwn.

Cam gweithredu: HJ i drefnu trafodaeth bellach ar yr argymhelliad cyllid.

Diweddariad gan y Pwyllgor Pobl Ifanc (Catrin James/aelodau’r Pwyllgor Pobl Ifanc)

Ymunodd CJ, Ewan, Lee ac SJ â’r cyfarfod a chafwyd rownd o gyflwyniadau.

Rhoddodd CJ ddiweddariad cryno ar waith y Pwyllgor Pobl Ifanc hyd yma – cafwyd pedwar cyfarfod hyd yn hyn ac roedd y cyfarfod cyntaf yn cynnwys cyflwyniad i’r Bwrdd. 

Cyflwynodd CJ bapur ar lywodraethu dan arweiniad pobl ifanc, a baratowyd gan y Pwyllgor Pobl Ifanc, ac a roddwyd i Ewan ei gyflwyno.

Siaradodd Ewan drwy’r hyn yr oedd y papur yn awgrymu y dylai llywodraethu dan arweiniad pobl ifanc edrych: ymgysylltiad gwirioneddol, yn caniatáu i bobl ifanc wneud penderfyniadau ar sail barhaus, defnyddio arloesedd a dychymyg pobl ifanc, sicrhau bod pobl ifanc yn weledol, pobl ifanc fel partneriaid cyfartal mewn cylch gwaith arweinyddiaeth.

Awgrymodd Ewan gwestiynau i’r BGIDD eu hystyried:

  1. Bydd corff gwaith ieuenctid yn cael ei sefydlu y mae angen iddo gynnwys llais pobl ifanc, a ddylai’r strwythur fod yn integredig neu’n gyfochrog?
  2. A oes angen strwythur rhanbarthol arno: Gogledd Cymru, y De, y Dwyrain, a’r Gorllewin, o bosibl defnyddio fforwm/fforymau sydd eisoes yn weithredol?
  3. Sut i ymuno â strwythur llywodraethu dan arweiniad Ieuenctid? 
  4. Pa mor hir ddylech chi fod yn aelod?

Diolchodd KT i Ewan am ei drosolwg cynorthwyol o’r papur a gwahoddodd sylwadau a chwestiynau gan aelodau’r Bwrdd.

Gofynnodd SL sut gellid sicrhau bod pobl ifanc nad ydynt yn defnyddio Gwasanaethau Ieuenctid yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys. Dywedodd Ewan bod y Pwyllgor wedi trafod allgymorth i ddod o hyd i gymaint o bobl ifanc â phosibl  a bod angen meddwl ymhellach i gynnwys y rhai nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau.

Dywedodd DK bod y papur yn cadarnhau ei syniadau ac wedi rhoi rhai syniadau erial iddo, yn enwedig o ran allgymorth. Gofynnodd DK sut byddai’r Pwyllgor yn teimlo am gael aelod o’r Bwrdd fel cyswllt. Dywedodd Ewan y trafodwyd y dylai person ifanc fod yn aelod rheolaidd ar y Bwrdd, ond roedd yn hoffi’r syniad o aelod o’r Bwrdd ar y Pwyllgor pobl ifanc

Gofynnodd SS i Ewan beth roedd wedi ei ennill o’r broses hon. Dywedodd Ewan ei fod wedi magu hyder wrth siarad mewn grwpiau.

Gofynnodd ET a ddylai aelodau’r Bwrdd gael eu mentora gan bobl ifanc – ‘mentora gwrthdro’.

Dywedodd JS ei bod yn gynorthwyol clywed sut roedd y Pwyllgor yn ystyried ei adborth i’r Bwrdd, ac y byddai’r dull yn helpu i lywio syniadau’r Bwrdd.

Dywedodd KT y byddai argymhellion yn cael eu drafftio yn seiliedig ar yr hyn yr oedd y Pwyllgor wedi ei awgrymu ac yn cael eu hanfon i’r Pwyllgor eu hystyried.

Cam gweithredu: bydd y Bwrdd yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc weld yr argymhellion diwygiedig a chynnig sylwadau arnynt.

Dywedodd CJ bod dyddiadau’r cyfarfodydd Pwyllgor nesaf wedi eu trefnu ar gyfer 17 Mehefin a 29 Gorffennaf. Rhoddodd CJ drosolwg o ddull y Pwyllgor ac ychwanegodd y byddai’r Pwyllgor yn croesawu rhai argymhellion i’w hystyried yn eu cyfarfodydd.

Cadarnhaodd RJ ei fod wedi bwriadu galluogi’r Pwyllgor i gael trafodaethau ar faterion penodol, gan ychwanegu y byddai o gymorth cael amrywiaeth o safbwyntiau i gwblhau’r argymhellion.

Gofynnodd RJ a oedd angen fersiwn o’r adroddiad ar gyfer pobl ifanc. Cytunwyd y byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei ysgrifennu mewn ffordd sy’n hygyrch i amrywiaeth eang o bobl. Dywedodd Ewan y byddai hynny yn rhoi’r gallu i bobl ifanc ddeall yr adroddiad.

Cytunodd RJ a DK i fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 17 Mehefin.

Diolchodd KT i bawb am fod yn bresennol cyn cloi’r cyfarfod.

Cam gweithredu: HJ i drefnu cyfarfod arall i drafod yr eitemau ar agenda heddiw na chawsant sylw (Argymhellion 12 a 13, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a’r Cynllun Gweithredu LGBTQ+) a chaniatáu trafodaeth bellach ar argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys yr adolygiad cyllid.