Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mis Chwefror yw Mis Cenedlaethol y Galon, cyfle inni i gyd wella iechyd ein calonnau. Ochr yn ochr â hyn, mae ymgyrch "Defibuary" yn cael ei gynnal am fis bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ataliadau'r galon allan o'r ysbyty ac i roi i bobl y sgiliau a'r hyder i achub bywyd.

Yng Nghymru, mae 80% o ataliadau'r galon yn digwydd yn y cartref ac mewn llawer o achosion, yr unig siawns i bobl oroesi fyddai'r camau sy’n cael eu cymryd gan eu hanwyliaid. Gall gwybod beth i'w wneud, bod yn gyfarwydd â CPR yn ogystal â sut i ddefnyddio a dod o hyd i'ch diffibriliwr agosaf, helpu siawns rhywun arall o oroesi o bosibl.

Pan fyddwch yn ffonio 999, bydd y sawl sy'n ateb yn aros ar y llinell ac yn esbonio gam wrth gam beth fydd angen ichi ei wneud. Byddant hefyd yn dweud wrthych a oes diffibriliwr gerllaw ac yn gofyn a oes rhywun arall sy'n gallu mynd i'w gasglu.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi cyllid ychwanegol o £0.5 miliwn i drefnu bod rhagor o ddiffibrilwyr ar gael i grwpiau cymunedol, meysydd chwaraeon a sefydliadau cyhoeddus. Mae hyn, ynghyd â'r £0.5 miliwn a gyhoeddais ym mis Medi y llynedd yn dod â'n buddsoddiad mewn gwella mynediad at ddiffibrilwyr ledled Cymru i £1 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon.

Roedd y cyllid blaenorol yn gymorth i brynu 500 o ddiffibrilwyr y gallai grwpiau cymunedol a sefydliadau wneud cais amdanynt trwy Achub Bywydau Cymru.

Gofynnwyd i'r sefydliadau a oedd am wneud cais fodloni nifer o feini prawf mynediad, gan gynnwys y canlynol:

  • Nad oes unrhyw ddiffibriliwr ar hyn o bryd o fewn 500m i'r safle arfaethedig;
  • Y bydd y sefydliad yn prynu neu'n codi arian am gwpwrdd diffibriliwr wedi'i wresogi, a osodir ar wal allanol mewn man sy'n hygyrch i'r cyhoedd 24/7.
  • Bod cyflenwad trydan er mwyn i'r diffibriliwr gael ei gadw'n briodol;
  • Y bydd y sefydliad yn cofrestru'r diffibriliwr ar gronfa ddata'r Circuit;
  • Y byddant yn penodi gwarcheidwad diffibriliwr (ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd).
  • Bod sesiynau ymwybyddiaeth am sgiliau CPR/defnyddio diffibriliwr yn cael eu cynnal ar gyfer unigolion yn y sefydliad/grŵp.

Ni fydd y diffibriliwr yn cael ei ddarparu ond pan fydd yr ymgeisydd yn cadarnhau ei fod wedi cydymffurfio â'r meini prawf.

O'r cyllid blaenorol, cafodd Achub Bywydau Cymru 490 o geisiadau oddi wrth gynghorau lleol a chynghorau tref, cymdeithasau preswylwyr/tai, campfeydd, lleoliadau/sefydliadau chwaraeon, cyfleusterau gofal plant ac addoldai. Hyd yn hyn, mae 433 o geisiadau wedi'u cymeradwyo; cafodd sawl un eu tynnu yn ôl ac mae eraill yn aros am wybodaeth bellach. Ni chafodd 19 o geisiadau eu cymeradwyo gan nad oeddent yn bodloni'r meini prawf.

Roedd un cais llwyddiannus yn gais oddi wrth gymdeithas preswylwyr yn Abergele yn y Gogledd, a drefnodd dudalen ‘Go Fund Me’ i godi cronfeydd i brynu'r cwpwrdd diffibriliwr.

Mae Achub Bywydau Cymru'n credu bod galw sylweddol o hyd o du cymunedau am ragor o ddiffibrilwyr ac y bydd ymateb da i gylch newydd o geisiadau.

Hoffem annog pob cymuned a sefydliad y mae ganddynt ddiffibrilwyr eisoes i'w cofrestru ar The Circuit – y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol sy'n mapio diffibrilwyr er mwyn i wasanaethau ambiwlans gyfeirio gwylwyr at y ddyfais agosaf ar yr amser tyngedfennol. Hyd yn hyn mae 6,188 yng Nghymru wedi cofrestru.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.