Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Cymru gyfan ar gyfer Cynllunio Teithio Llesol i ysgolion

Rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r cynlluniau i ddatblygu rhaglen Cymru gyfan ar gyfer Cynllunio Teithio Llesol i Ysgolion (ATSP). Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i ysgolion wella iechyd, lles a diogelwch personol disgyblion, yn ogystal â lleihau tagfeydd, peryglon ar y ffyrdd a llygredd aer lleol ar briffyrdd cyfagos. Mae'r argymhellion yn cynnwys cyfarwyddo Sustrans i dreialu dull ATSP.

Cynghorwyd y Bwrdd am ddau faes sy'n cefnogi'r gwaith hwn:

  1. Ymrwymiad gan gydweithwyr addysg i gynnwys teithio llesol yn y Cwricwlwm a datblygiadau Ysgolion yr 21ain Ganrif.
  2. Y pecyn cymorth teithio llesol i'r ysgol, a ddrafftiwyd gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Deithio Llesol, a fydd yn cael ei lansio ganol mis Hydref.

Croesawodd y Bwrdd y cynlluniau a thrafodwyd sut y gellid parhau i symud ymlaen â'r cynigion.

Rhaglen o fentrau trwsio beiciau

Trafododd y Bwrdd ystyriaethau allweddol o ran datblygu opsiynau ar gyfer rhaglen i gefnogi mentrau trwsio beiciau. Mae'r gwaith hwn ar ddechrau'r broses ddatblygu gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ond nid oes unrhyw gynlluniau cadarn eto. Mae cynllun a reolir yn ganolog yn Lloegr – gallai Cymru fabwysiadu'r ffordd hon o weithio, ond mae llawer o fentrau ar lawr gwlad yng Nghymru hefyd y byddai'n dda adeiladu arnynt a'u cefnogi. Yn ogystal, mae yna feysydd masnachol na ddylai unrhyw raglen a ddatblygir ar gyfer Cymru effeithio'n andwyol arnynt. Mae ymrwymiad ategol gan y Llywodraeth i sefydlu 80 o ganolfannau ailddefnyddio a thrwsio ledled Cymru. Mae’n bosibl y gallai cysylltu â'r rhain fod yn opsiwn ar gyfer y rhaglen newydd hon.

Rhannodd y Bwrdd eu safbwyntiau ar sut y gellid datblygu hyn a thrafodwyd sawl maes gan gynnwys y potensial o fabwysiadu'r rhaglen Big Bike Revival a gynhelir gan Cycling UK. Trafodwyd pennu'r rhwystrau o ran pobl sy'n beicio a sut y gellir eu cefnogi i wneud hynny. Yn ogystal, trafodwyd cynnal ymarfer mapio o'r ddarpariaeth bresennol a sicrhau bod defnyddwyr beiciau cargo hefyd yn gallu cael gafael ar wasanaeth trwsio.

Caffael Teithio Llesol: Sustrans

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar gynnig Sustrans i ddatblygu fframwaith caffael Teithio Llesol. Nododd Sustrans faterion yn ymwneud ag arferion cyfredol a diffyg darpariaeth benodol ar gyfer cyflawni swyddogaethau cymorth teithio llesol. Argymhellwyd y dylid darparu hyfforddiant i sicrhau bod gan staff caffael ac arweinwyr teithio llesol y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol, bod prosesau caffael yn rhai y gellir eu graddio ac y dylid sefydlu Fframwaith Teithio Llesol.

Trafododd y Bwrdd y cynigion a chytunodd y dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru, ystyried y ffordd fwyaf priodol ymlaen.

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru: terfyn cyflymder diofyn 20mya

Rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r symudiad i derfyn cyflymder 20mya diofyn ledled Cymru. Cafodd hyn ei gynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu a bydd yn dod i rym yn 2023. Mae cyfarfod llawn wedi'i gynllunio ar gyfer Gwanwyn 2022 i bleidleisio ar y newid deddfwriaethol gofynnol. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar thema cryfhau cymunedau a chefnogi teithio llesol dros yr haf, a daw i ben ym mis Hydref.

Mae'r cynlluniau peilot 20mya wedi dechrau, gyda data'n cael eu casglu ar agweddau, ansawdd aer a phatrymau teithio llesol. Mae'r cynlluniau peilot hefyd yn gweithio gyda Living Streets i ddefnyddio eu traciwr teithio WOW mewn ysgolion cynradd i helpu i gasglu data ar deithio i'r ysgol. Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol yn cael ei datblygu sy'n canolbwyntio ar fanteision cymunedol. Mae trafodaethau gydag awdurdodau lleol yn mynd rhagddynt, i ddeall eu gofynion i newid terfynau cyflymder diofyn a disgwylir i'r Dirprwy Weinidog gwrdd ag arweinwyr cynghorau i ailadrodd y newidiadau a'r gofynion ar gyfer awdurdodau lleol.

Croesawodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a thrafodwyd amrywiaeth o faterion mewn perthynas â gweithredu terfyn cyflymder 20mya. Roedd hyn yn cynnwys adnoddau awdurdodau lleol a sut y gallai gwelliannau i'r amgylchedd ffyrdd helpu i gydymffurfio â'r terfyn cyflymder is.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: Teithio Llesol i ysgolion

Gwnaeth yr is-grŵp gwrdd ym mis Awst ac mae'r cyfarfod nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer diwedd mis Hydref. Mae'r Aelodau wedi cyfrannu at y pecyn cymorth a ddatblygwyd gan Chris Roberts a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Deithio Llesol. Mae papur drafft i Weinidogion hefyd yn cael ei gwblhau. Disgwylir i'r arolwg ‘Hands up’ ddechrau eleni. Bydd y dull fesul cam sydd wedi’i brofi, fel yr argymhellwyd yn yr astudiaeth ddichonoldeb, yn cael ei weithredu gyda’r gwaith o’i gyflwyno’n genedlaethol yn mynd rhagddo yn ystod 2022 i 2023. 

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: newid ymddygiad

Mae'r is-grŵp yn gweithio gyda Chomisiwn Burns a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd i gynnal gweithdy yng Nghasnewydd ym mis Hydref.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: hyfforddiant

Mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn parhau gyda hyfforddiant teithio llesol ac mae Sustrans yn datblygu hyfforddiant archwilio llwybrau Teithio Llesol gyda nifer o awdurdodau lleol. Mae gwaith wedi dechrau ar y cyd â chydweithwyr trafnidiaeth eraill ar gwmpasu'r fanyleb hyfforddiant ar gyfer teithio llesol ac ymarferwyr perthnasol eraill.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: Teithio Llesol cynhwysol

Mae'r is-grŵp yn bwriadu canolbwyntio eu cyfarfod nesaf ar gynwysoldeb ehangach o ran teithio llesol. Teithio llesol cynhwysol yw'r thema arfaethedig ar gyfer digwyddiad hanner diwrnod i gymryd lle'r Gynhadledd Teithio Llesol arferol. Mae cynlluniau ar y gweill i gysylltu'r is-grŵp â’r Grŵp Llywio Cymru Oed-Gyfeillgar, sy'n cael ei redeg gan Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf 2 Rhagfyr 2021