Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad mapiau rhwydwaith Teithio Llesol

Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am yr ohebiaeth a ddaeth i law ynghylch yr ymgynghoriad Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM). Gwnaeth Cŵn Tywys Cymru fynegi pryderon ynghylch cynwysoldeb prosesau ymgynghori awdurdodau lleol wrth baratoi ar gyfer cyflwyno eu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol.

Mewn ymateb i hyn, gofynnodd y Cadeirydd i awdurdodau lleol gadarnhau sut y maent wedi ymgynghori â’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at eu hymgynghoriad a chyfrannu ato. Yn sgil y cais hwn, mae rhai awdurdodau'n dangos ffordd o fynd ati sy’n rhagweithiol ac mae rhai yn fwy adweithiol o ran eu dulliau.

Trafododd y Bwrdd bryderon ynghylch y ddibyniaeth ar Commonplace ar gyfer yr ymgynghoriadau a materion o ran adnoddau o fewn awdurdodau lleol. 

Teithio Llesol i'r ysgol

Rhoddwyd trosolwg i aelodau'r Bwrdd ar Deithio Llesol i'r Ysgol sy’n anelu at ddwyn ynghyd darnau o waith a wneir ar hyn o bryd ac sy'n seiliedig ar wyddoniaeth ymddygiadol. Mae sawl argymhelliad gan gynnwys:

  • gweithio ar draws meysydd polisi gyda nodau ar y cyd
  • rhaglen gyfathrebu dorfol gyda rhieni/gwarcheidwaid fel y prif darged
  • mynd i'r afael â theithio i ysgolion uwchradd a lleihau traffig o amgylch ysgolion
  • datblygu canllawiau ar gyfer cynlluniau gwella teithio i'r ysgol o lefel gymunedol
  • sicrhau bod mentrau'n cael eu gwerthuso'n effeithiol a rhannu arferion gorau.

Croesawodd y Bwrdd y papur a'i argymhellion a thrafodwyd sut y gellid rhoi'r rhain ar waith i symud ymlaen ymhellach o ran teithio llesol i'r ysgol.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: Teithio Llesol cynhwysol

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar drafodaethau a gynhaliwyd gan yr is-grŵp, a oedd yn ail-bwysleisio'r brys ar gyfer hyfforddiant ar ddylunio cynhwysol ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Mae'r is-grŵp yn awyddus i symud ymlaen yn gyflym gan fod cyllid yn cael ei roi i awdurdodau ac mae angen sicrhau bod cynlluniau'n cyflawni ar gyfer pob rhan o'r gymuned. 

Cynigiodd yr is-grŵp raglen hyfforddiant ar gynhwysiant a bod ceisiadau am gyllid grant yn cael eu hasesu gan banel amrywiol. Awgrymodd yr is-grŵp hefyd gynyddu amrywiaeth o ran aelodaeth y Bwrdd Teithio Llesol.

Y diweddaraf am argymhellion Burns

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar argymhellion Adroddiad Comisiwn Burns a pha gynnydd sydd wedi'i wneud. Roedd cyfanswm o 58 o argymhellion sy'n cwmpasu pob math o drafnidiaeth. Mae Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU, yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer rheilffyrdd ac yn adeiladu ar waith Burns. Mae cynnig Burns yn cynnwys gwelliannau i reilffordd De Cymru ac adeiladu hyd at chwe gorsaf newydd, megis Cyfnewidfa Gorllewin Casnewydd. Byddai'r cynlluniau hyn yn sicrhau cysylltiadau haws rhwng rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan dîm technegol yn Trafnidiaeth Cymru, sy'n cynnwys rheolwyr prosiect, cynllunwyr trafnidiaeth, swyddog teithio llesol ac ati sy'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol perthnasol a rhanddeiliaid eraill. Caiff hyn ei oruchwylio gan grŵp llywio a gadeirir yn annibynnol.

Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd trafodaeth ar sut y gallai'r Bwrdd gefnogi'r cynigion, gan gynnwys sut i weithredu diwrnod dim ceir yng Nghasnewydd yn effeithiol.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf 10 Mawrth 2022.