Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff y Cynnig Gofal Plant ei ehangu i gynnwys rhieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

O fis Medi ymlaen, bydd rhieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu, os bydd hynny'n unol â Chynllun Cymorth Mabwysiadu'r plentyn, yn gymwys i gael hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd, nid yw aelwydydd lle nad yw neb yn gweithio yn gymwys i gael gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, ar ben yr hawl i addysg gynnar sydd eisoes ganddynt.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Roedd ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein haddewid i ddarparu rhagor o ofal plant i rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant, ac rydyn ni'n benderfynol o helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chostau gofal plant. Mae'n wych ein bod yn gallu parhau i ehangu'r Cynnig Gofal Plant i sicrhau y bydd mwy o deuluoedd yn gallu manteisio ar y cynnig.

Drwy gynnig rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant, daw yn amlwg pa mor bwysig inni yw cefnogi pobl i sicrhau eu bod yn fwy cyflogadwy drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid eu llwybr gyrfa.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £6 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i godi'r gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant o £4.50 i £5 yr awr o fis Ebrill ymlaen. Bydd y cynnydd o 11% hwn yn helpu i sicrhau bod y sector gofal plant yng Nghymru yn fwy cynaliadwy. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo i adolygu'r gyfradd hon o leiaf bob tair blynedd. Bydd yr uchafswm y gall lleoliadau ei godi ar gyfer bwyd hefyd yn codi o £7.50 i £9 y dydd, gan adlewyrchu'r cynnydd mewn prisiau bwyd a chyfleustodau, gan gynnwys prisiau ynni.

At hynny, caiff £3.5 miliwn yn ychwanegol ei fuddsoddi mewn gofal plant Dechrau'n Deg, a defnyddir £1.5 miliwn i gefnogi’r gwaith parhaus o gysoni'r cyfraddau cyllido ar gyfer darpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant.

Dywedodd Ms Morgan:

Rydyn ni am sicrhau bod Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny ynddo, ac mae rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant wrth wraidd yr uchelgais hwn. Byddwn ni'n parhau i adolygu'r cynllun a'r gyfradd a delir i ddarparwyr er mwyn sicrhau bod rhieni yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant o hyd, a bod gofal ac addysg o ansawdd uchel ar gael i blant ledled Cymru.

Dywedodd Claire Protheroe, Rheolwr Cenedlaethol Cymru y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru):

Mae PACEY Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad hwn ar y cynnydd yn y gyfradd a delir i ddarparwyr Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn gwaith ymgynghori a gynhaliwyd i gasglu barn y sector, ac mae'n gadarnhaol gweld bod y farn hon yn cael ei hystyried a'i gwerthfawrogi. Mae'r heriau y mae'r sector wedi bod yn eu hwynebu yn parhau: mae COVID-19 a'r cynnydd mewn costau byw wedi effeithio ar hyder y sector o ran pa mor hyfyw y bydd yn y dyfodol. Mae PACEY Cymru yn arbennig o bryderus ynghylch y ffaith bod nifer y gwarchodwyr plant cofrestredig yng Nghymru yn parhau i ostwng, a gwyddom fod y sector mewn cyflwr bregus. Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam cadarnhaol tuag at helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol ehangach i bob lleoliad yng Nghymru ac o ran cydnabod y costau uwch o ddarparu gwasanaethau gofal plant a chwarae o ansawdd.